Rhestr Ddarllen: LHDTC+ - Mair Jones

Ers 1994, mae mis Chwefror wedi cael ei nodi fel Mis Hanes LHDT (nawr hefyd yn Hanes LHDT+ neu LHDTC+ i gynnwys a chroesawu mwy o bobl). Mae Mis Hanes LHDT felly wedi bodoli ar hyd fy mywyd i, ond sawl Chwefror a basiodd â minnau’n ymwybodol ohono? Sawl un a basiodd heb ymwybyddiaeth o hanes pobl LHDT+ Cymraeg?

Ond y mis eiriog yma, gallaf roi fy sylw i hanesion pobl anghofiedig ond bythgofiadwy; pobl anfarwol fel Cranogwen, a gafodd sylw gynharach eleni, ond gyda rhan personol o’i hanes wedi’i eithrio.

Mae Mis Hanes LHDT+ wedi mynd o nerth i nerth ac mae ymwybyddiaeth o hanes LHDT+ Cymru hefyd yn cryfhau. Yn 2019, mae’r hanes yma dal yn cael ei ddileu, felly dyma restr darllen i’ch cyflwyno i’r hanes yma, fel nad yw’n cael ei anghofio rhagor.

Cranogwen (Llun John Thomas, LlGC)

Cranogwen. Llun: John Thomas, LLGC

1. Queer Wales – gol. Huw Osborne, 2016 (Gwasg Prifysgol Cymru)

Cafodd y gyfrol yma feirniadaeth ar ôl ei chyhoeddi am nad oedd yn ddigon hanesyddol nac eang, ac am ei defnydd o ‘queer’. Fel y gyfrol gyntaf ar LHDT+ Cymru, ni allai gynnwys yr hanes coll i gyd, ond roedd yn ysbrydoliaeth. Uchafbwytiau Queer Wales yw pennod Jane Aaron ar Cranogwen, Mihangel Morgan yn archwilio ein iaith LHDT+, Kirsti Bohata ar lenyddiaeth ac Harry Heuser yn dod â bywyd George Powell o Nanteos yn fyw. Mae mwy hefyd yn Queer Wales sydd yn ei wneud yn dechreuad addas i ddarllen hanes LHDT+ Cymru.

2. Forbidden Lives: LGBT Stories from Wales – Norena Shopland, 2017 (Seren Books)

Os ydych chi’n ysu i gael gafael ar fwy o storïau LHDT+ Cymru, mae’r llyfr yma yn berffaith. Mae Forbidden Lives yn rhoi stori ar ôl stori; o’r enwocaf, ‘Ladis’ Llangollen, i’r storïau cudd, fel y ‘female husbands’ o bapurau newydd Cymru - ymchwil newydd sydd yn allweddol yn hanes LHDT+ Cymru, yn enwedig yn hanes y dosbarth gweithiol a thraws, efallai. Eto, mae’n ddechreuad i fwy o waith ar hanes LHDT+ Cymru yn y dyfodol.

3. Kate – Alan Llwyd, 2011 (Y Lolfa)

Does dim llyfr yn yr iaith Gymraeg ar hanes LHDT+ Cymru, ond mae’r cofiant i Kate Roberts yn ddylanwadol iawn o ran y pwnc yn y Gymraeg. Fe wnaeth Llwyd herio'r modd yr ydym ni’n gweld Brenhines Ein Llên wrth edrych ar sut y gall ei hysgrifennu hi fod yn hoyw, fel gallai Kate fod wedi bod yn hoyw neu’n ddeurywiol. Mae hanes perthynas ei gŵr, Morris Williams, gyda’r bardd E. Prosser Rhys hefyd yn hynod o ddiddorol.

4. Cerddi Prosser Rhys – E. Prosser Rhys, gol. J. M. Edwards, 1950 (Gwasg Gee)

Os nad ydych chi eisiau darllen am hanes yn unig, gallwch hefyd weld yr hanes drwy eu llygaid nhw, fel yng ngwaith y bardd deurywiol E. Prosser Rhys, a enillodd y Goron yn 1924 gyda 'Atgof'.

5. Caniadau Cranogwen Sarah Jane Rees (Cranogwen), 1870

Enillodd Cranogwen yn yr Eisteddfod yn 1865 hefo ‘Y Fodrwy Briodasol’, cerdd a heriai ddisgwyliadau heteronormaidd wrth feirniadau priodas trwy lygaid pedair priodferch. Ysgrifennodd ‘Fy Ffrind’ am ei chariad at fenyw – Fanny Rees oedd ei pherthynas cyntaf, a Jane Thomas oedd ei phartner oes.

6. Fy Hanes I John Davies, 2014 (Y Lolfa)

Ar ôl i John Davies ddod â’n hanes i’r brif ffrwd gyda Hanes Cymru, trodd ei sylw at hanes LHDT+ Cymru. Mae ei hanes e hefyd yn ddifyr iawn, ac yn rhan o hanes LHDT+, wrth iddo ddod mas yn y 1990au pan yn warden ym Mhantycelyn.

7. Taliesin, Rhifyn 151 gol. Angharad Elen a Siân Melangell Dafydd, 2014 (Yr Academi Gymreig)

Fel y dangosodd Mihangel Morgan, mae’n bwysig defnyddio geiriau am ein rhywedd a’n rhywioldeb yn ein hiaith ein hunain. Dangosir y ffordd gan y rhai sydd yn ysgrifennu yn Gymraeg yn y gyfrol yma ar ‘Rywedd’, fel Dafydd James y dramodydd a ysgrifennodd ‘Llwyth’ sydd yn trafod y themâu yn y gyfrol yma yn ‘Y Queer yn erbyn y byd.’

8. The Old and the Young Margiad Evans, 1948 (Seren Classics)

Peggy Whistler oedd ei henw gwreiddiol ond Margiad Evans ddewisodd hi fel awdur, wrth iddi uniaethu â’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Cawsom y themâu hynny mewn sawl llyfr ganddi, ond yn ‘A Modest Adornment’ o 1948 cawsom stori drist ond teimladwy am gwpl lesbiaidd mewn pentref bach.

9. Jill Amy Dillwyn, 1884. gol. Kirsti Bohata, 2013 (Honno)

Fel diwydiannwr benywaidd o'r 19eg ganrif, mae Amy Dillwyn ei hunan yn ffigwr hanesyddol diddorol oedd mewn cariad gydag Olive Talbot ac yn herio'r disgwyliadau o’i rhywedd gyda’i gwisg a’i sigars. Mae’r themâu o groes-wisgo yn ei nofelau, fel The Rebecca Rioter; ond yn Jill, cawn stori am ‘gyfeillgarwch rhamantus,’ gyda theimladau lesbiaidd gan y cymeriad teitl anturus.

10. Conundrum Jan Morris, 1974 (Faber & Faber)

Mae Conundrum yn angenrheidiol i ddarllen am hanes Traws. Cafodd y llyfr yma sut gymaint o ddylanwad ar y pryd, wrth addysgu pobl gydryweddol ac ysbrydoli pobl drawsryweddol. Dim ond un stori yw stori Jan Morris, felly gallwch hefyd ddarllen Trans Britain gan Christine Burns– mae Kate Hutchinson o Pride Cymru yn un sydd wedi rhannu ei stori yn y gyfrol. Pan mae pobl draws yn wynebu ymosodiadau bob dydd, mae’n dangos bod hi’n bwysig rhoi llais i bobl LHDT+, ac i wrando ar, neu ddarllen eu storïau. Cofiwch, wrth ddarllen hanes LHDT+, rydym ni i gyd yn rhannu’r gyfrifoldeb o fod yn rhan o hanes hefyd.

Mair Jones queerwelsh.tumblr.com

https://queerwelsh.blogspot.com

Previous
Previous

Cerdd: Cnoi - Llinos Llaw Gyffes

Next
Next

Cyfweliad: Cylch - Dafydd Frayling