Cyfweliad: meddwl.org
Heddiw, bydd y criw y tu ôl i meddwl.org yn annog pawb i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Ond beth yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd? Beth yw meddwl, a beth yw’r weledigaeth? Bu’r Stamp yn eu holi.
Beth oedd yr ysgogiad i sefydlu’r wefan?
Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd y llynedd, yn ymgais i fynd i’r afael â’r bwlch enfawr yn yr wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael yn y Gymraeg i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl. Roeddem yn teimlo bod gwybodaeth a chefnogaeth yn Gymraeg yn hollbwysig i sicrhau bod y sawl sy’n ei ddarllen yn gallu uniaethu’n llawn ag o.
Mae prinder gwasanaethau a deunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg yn broblem ers peth amser, ac mae unrhyw wybodaeth sydd ar gael yn bytiog ac wedi’i gadw fan hyn a fan draw ar y we. Mae nifer o enwau Cymraeg ar gyflyrau wedi eu mabwysiadu bellach, ond tydyn nhw ddim yn adnabyddus i garfan fawr o’r boblogaeth chwaith.
Meddwl.org yw’r wefan gyntaf i ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a gofod i drafod iechyd meddwl yn Gymraeg. Rydym ni’n gobeithio gall y wefan wella rhai o’r diffygion uchod drwy ddarparu gwybodaeth am gyflyrau yn y Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o’r termau a’r enwau, ac hefyd drwy dynnu gwybodaeth ddefnyddiol i un man a hwyluso mynediad ato.
Beth ydi amcanion y prosiect yn fras?
Yr amcan pennaf yw darparu gofod i siaradwyr Cymraeg drafod, rhannu profiadau a chael gwybodaeth am iechyd meddwl yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddyn nhw. Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl; ble i gael cymorth; blogiau am brofiadau unigolion; fforwm drafod i bobl sgwrsio a rhannu profiadau a chyngor; straeon newyddion perthnasol o’r wasg a thudalennau i grwpiau penodol megis pobl ifanc; hyn i gyd yn Gymraeg.
Rydym hefyd yn gobeithio bod y wefan yn darparu tystiolaeth am bwysigrwydd gofal trwy gyfrwng y Gymraeg a’r gwahaniaeth mae iaith yn ei gael ar y broses o wella. Mae hefyd yn ffordd i dystiolaethu bod siaradwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi cael mynediad at adnoddau’n y Gymraeg. Ein gobaith yw y bydd Byrddau Iechyd, y Llywodraeth a chyrff perthnasol eraill yn sylwi a chydnabod yr angen iddynt ymateb i hyn trwy fuddsoddi a chynllunio i gynyddu’r gweithlu Cymraeg.
Beth ydi’r prif heriau sy’n wynebu unigolion sy’n ceisio ymdopi â salwch meddwl?
Mae amrywiaeth o heriau yn wynebu unigolion sy’n delio â iechyd meddwl yn ddyddiol, ac mae’n anodd cyffredinoli gan fod pob profiad yn wahanol. Un o’r heriau amlycaf ydi nad yw salwch meddwl na’i symptomau yn weladwy, sy’n golygu bod y cyfrifoldeb i gyd ar yr unigolyn sy’n dioddef i allu mynegi eu meddyliau ar yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw. Ar ben hynny, mae’n anodd iawn delio â diffyg dealltwriaeth eraill o faterion iechyd meddwl. Yn ogystal â gorfod delio efo’r salwch a’r anawsterau sy’n dod efo fo, mae’r unigolyn hefyd yn trio ymdopi ag agweddau ac ymateb cyflogwyr, cydweithwyr, teulu, ac eraill, ac mae angen sicrhau bod gwybodaeth a chymorth ar gael i helpu pobl i wybod sut i gefnogi’r sawl sy’n dioddef mewn modd sensitif.
Rydym yn credu bod nifer o unigolion hefyd yn ei chael yn anodd delio efo’r teimlad eu bod yn cael eu gweld fel rhai sy’n ceisio sylw drwy siarad yn agored am eu iechyd meddwl. Gall hyn arwain at rai yn teimlo mai cadw’n dawel yw’r peth gorau i wneud, ond yn amlwg gall hyn greu fwy o niwed nac unrhyw beth arall.
Gan bod salwch meddwl yn rywbeth mor anweladwy, ac yn rywbeth sydd wedi cymryd lot mwy o amser i gymdeithas ei gydnabod nac unrhyw fath arall o salwch, gall dod o hyd i’r cymorth addas fod yn heriol iawn. Mae nifer o unigolion yn treulio llawer o amser yn mynd at feddygon gwahanol heb ddiagnosis ac awgrym o driniaeth am rai blynyddoedd cyn cael eu cyfeirio at y cymorth cywir. Mae natur salwch meddwl hefyd yn gofyn am wasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar er mwyn osgoi achosion difrifol, ond mae’r ymyrraeth a’r cymorth a ddarperir ar hyn o bryd yn aml yn rhy hwyr ac yn cael ei ddarparu ar ôl i’r unigolyn gyrraedd sefyllfa o argyfwng. Ni fyddai’r math yma o oedi yn dderbyniol wrth ddelio â salwch corfforol, ac mae wir angen cydnabod difrifoldeb salwch meddwl i sicrhau bod y sefyllfa yn newid.
Pa mor bwysig ydi hi fod darpariaeth o ofal iechyd meddwl ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg?
Hynod bwysig. Mae’n hanfodol ar draws y gwasanaethau iechyd bod pobl yn derbyn gwasanaethau yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddyn nhw, ond yn benodol ym maes iechyd meddwl ble mae siarad a chyfathrebu yn gwbl ganolog i’r driniaeth a’r gwellhad. Mae ymchwil a phrofiadau cleifion wedi amlygu pa mor hanfodol ydi cyfathrebu clir a di-rwystr i alluogi mynegiant emosiynol a datgeliad llawn os am sicrhau diagnosis cywir a thriniaeth effeithiol. Gall problemau cyfathrebu arwain at gamddealltwriaeth, diagnosis anghywir neu driniaeth aneffeithiol, ac fe all fod yn beryglus.
Mae pobl yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd meddwl pan maent ar eu mwyaf bregus, ac felly mae hi hefyd yn hanfodol nad yw’r claf yn gorfod ysgwyddo’r faich o adnabod eu hanghenion ieithyddol a sicrhau eu bod yn derbyn gwasanaethau yn Gymraeg. Nid braint neu ‘lycshyri’ ydi derbyn gwasanaeth ieithyddol addas, ond mater o angen.
Sut ydych chi’n mynd ati i adeiladu corff o ddeunydd yn Gymraeg ar gyfer y wefan?
Roedd ychydig o wybodaeth Cymraeg am rai cyflyrau ar gael ar wefannau elusennau eisoes, felly rydym wedi mynd ati i dynnu’r wybodaeth hwnnw ynghyd. Ar gyfer gweddill y wybodaeth, rydym yn ffodus iawn o fod wedi adeiladu tîm bach o gyfieithwyr gwirfoddol erbyn hyn sy’n ein cynorthwyo ni drwy gyfieithu gwybodaeth i ni ei ddefnyddio, ac rydan ni’n ddiolchgar iawn amdanynt.
Mae gennym hefyd adran ‘myfyrdodau’ ar y wefan sy’n gasgliad o gyfraniadau ar ffurf blogiau gan wahanol unigolion sydd â phrofiadau i’w rhannu. Rydym wedi bod yn lwcus iawn hyd yma o ganfod nifer o unigolion sy’n fodlon cyfrannu, ac rydym wrthi o hyd yn chwilio am fwy. Rydym yn cyhoeddi rhai blogiau’n ddi-enw ac hefyd yn gallu golygu cyfraniadau pe dymunir, gan obeithio o ganlyniad nad ydym yn cyfyngu ar yr unigolion sy’n teimlo y gallant gyfrannu.
Yn ein adran Newyddion rydym yn ychwanegu unrhyw straeon perthnasol, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn deillio’n wreiddiol o wefannau newyddion Cymraeg. Mae hyn yn galluogi unigolion i ddod o hyd i newyddion sy’n berthnasol ac o ddiddordeb iddyn nhw mewn un lle heb orfod pori’r amryw wefannau newyddion.
Sut ymateb sydd wedi bod hyd yn hyn? Oes unrhyw batrymau yn amlygu eu hunain o ran defnydd o’r wefan?
Hyd yn hyn rydym wedi cael adborth ac ymateb cadarnhaol iawn i’r wefan, gyda nifer yn dweud ei fod wedi eu helpu nhw’n bersonol ac eu bod yn ei ddefnyddio’n aml. Mae’r wefan hefyd wedi bod yn fodd i sbarduno nifer o drafodaethau ar iechyd meddwl. Er enghraifft, fe gynhalion ni drafodaeth yn Eisteddfod yr Urdd eleni wrth lansio’r wefan ac o’r herwydd fe ysbrydolwyd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws i gynnal trafodaeth bellach yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe fynychon ni hefyd ddigwyddiad ar yr iaith mewn iechyd a gofal a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru rhyw wythnos neu ddwy yn ôl. Cawsom ein syfrdanu gan nifer y bobl oedd yn ymwybodol o fodolaeth a swyddogaethau’r wefan, a gan sawl person a ddaeth atom gyda’r gobaith o gydweithio mewn rhyw fodd neu’i gilydd.
Adran myfyrdodau’r wefan yw’r mwyaf poblogaidd, ac rydym ni fel tîm rheoli yn hynod falch o hynny. Mae mor galonogol gweld bod unigolion erbyn hyn eisiau trafod ac eisiau rhannu profiadau sydd wedi bod yn heriol iddyn nhw. Mae’n dangos bod pobl yn falch o’r cyfle i helpu eraill, ond yn fwy na hynny mae’n dangos bod pobl yn fwyfwy parod i siarad yn agored am eu profiadau. Mae pob cyfraniad yn gam arall ymlaen at y nod o chwalu’r stigma hanesyddol yn llwyr, ac agor y drws at welliannau mewn dealltwriaeth a chefnogaeth.
Beth yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a sut fydd gwefan meddwl yn ei nodi?
Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn ddiwrnod a nodir yn rhyngwladol gan Sefydliad Iechyd y Byd bob blwyddyn ar Hydref y 10fed. Bwriad y diwrnod yw i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, ac i ddarparu cyfle penodol i bobl rannu eu profiadau ac i geisio gwell dealltwriaeth gan eraill.
Eleni ydi’r tro cyntaf i wefan meddwl.org fodoli ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Byddwn yn ei nodi trwy fynd ati i ryddhau datganiad i’r Wasg sy’n galw ar Fyrddau Iechyd a llunwyr polisiau i gydnabod yr angen i gynllunio’n well a buddsoddi mwy mewn darpariaeth gofal drwy’r Gymraeg.
Yn ehangach na hynny, mae meddwl.org wedi cymryd pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r wefan. Mae rhai o’n cyfranwyr ni wedi bod yn creu fideos i ni yn crynhoi rywfaint o’u profiadau ac fe fyddwn ni’n rhannu’r rhain ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol, gan barhau i wneud hyn ar ôl y 10fed hefyd.
Mae rhai o’n cynrychiolwyr a’n gwirfoddolwyr ni hefyd wedi bod yn brysur yn trafod gyda’r cyfryngau er mwyn sicrhau bod sylw digonol i’r mater hwn ar y diwrnod ac yn ystod yr wythnos yn ei ddilyn.
Beth ydi’r dyfodol i wefan meddwl? Beth fydd y camau nesaf tuag at gyflawni’r weledigaeth?
Rydym yn bwriadu parhau gyda’r gwaith o ddarparu gwybodaeth yn Gymraeg, yn ogystal â gofod i drafodaeth, gan hefyd bwyso’n barhaus am ragor o wasanaethau Cymraeg.
Y gobaith hirdymor yw gallu cyfrannu at sicrhau bod elusennau a mudiadau iechyd meddwl, yn ogystal â’r gwasanaeth iechyd, yn mynd ati i drawsnewid eu gwasanaethau ac ymdrechu i ddarparu mwy o ddeunyddiau a gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.
Rydym ni hefyd wedi derbyn gwahoddiad diweddar i gydweithio gyda’r Urdd ac Y Selar ar brosiect hynod gyffrous yn dilyn penderfyniad gan gynrychiolwyr ieuenctid yr Urdd, Bwrdd Syr Ifanc, bod angen gwneud rhywbeth i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ymhlith bobl ifanc Cymru. Y bwriad yw trefnu taith gyda bandiau Cymraeg o amgylch Cymru, a’n rôl ni fydd i godi ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc o’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw, a hynny mewn modd sy’n berthnasol iddynt. Mae’n wir bod problemau iechyd meddwl ymysg bobl ifanc yn parhau i gynyddu ac fe welwn nifer o straeon yn y newyddion yn wythnosol sy’n profi hynny. Rydym felly yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r prosiect hwn – gwyliwch allan am gyhoeddiadau pellach dros yr wythnosau nesaf!
Gobeithiwn y bydd rhagor o gyfleoedd i gydweithio a datblygu, ac ymysg y syniadau sydd wedi eu trafod mae creu adran creadigol ar ein gwefan lle gallwn rannu unrhyw waith sy’n ymwneud a iechyd meddwl, ac adran termau i gynorthwyo unrhyw un sy’n cyfieithu neu’n ysgrifennu am faterion iechyd meddwl yn Gymraeg.
Rydym o hyd yn chwilio am ragor o bobl i rannu eu profiadau ar y wefan trwy gyfrannu blog, fideo, neu ddarn creadigol o unrhyw fath am iechyd meddwl. Felly os oes diddordeb gan unrhyw un i gyfrannu, i helpu’r tîm trwy gyfieithu rhannu syniadau, cynnig cymorth technegol, siarad yn gyhoeddus, neu i gadw mewn cysylltiad yn gyffredinol, cysylltwch dros gwefanmeddwl@gmail.com. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram. Ac wrth gwrs, cofiwch ymweld â’r wefan ei hun ar meddwl.org a gadewch i ni wybod be’ ydach chi’n feddwl ohoni a beth allwn ni wneud i’w gwella!