Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 3]

Mae rhan gyntaf ac ail ran y stori i’w gael i’w darllen eisoes ar wefan Y Stamp. Dalwch lan gyda’r stori cyn mentro ymlaen at y rhan olaf… 

Aeth popeth yn ddu…

Deffrodd ar ei draed mewn gardd. Yr ardd brydferthaf iddo ei gweld erioed. Patshyn bach o dir yn arnofio yng nghanol awyr las, heb gwmwl yn agos ato. Yn y canol, roedd coeden anferth yn ymestyn tua’r nef, ei brigau trwchus llwyd yn gwthio i bob cyfeiriad, dail hir o wyrdd dwfn yn glynu’n styfnig wrthyn nhw. Cofiodd bod coeden debyg wedi tyfu y tu allan i Norkov pan oedd o’n blentyn. Roedden nhw wedi ei thorri i lawr flynyddoedd yn ôl.

O’i gwmpas roedd miloedd o flodau’n tyfu. Rhai’n gyfarwydd iddo – Gwres y Dydd, a Gwlanen Las, a Throed Neidr – ond rhai eraill yn anghyfarwydd, ac yn odidocach byth, yn tywynnu yng ngwres yr haul.

Plygodd drosodd ac ogleuo un ohonyn nhw, gan ddisgwyl i’w ffroenau lenwi ag arogl newydd a fyddai’n troi ei fyd â’i ben i lawr. Ond arogl cyfarwydd iawn ddaeth allan o betalau’r blodyn. Yr un arogl cyfoglyd o felys oedd yn treiddio trwy gerrig y mynachdy bob tro roedd un o’r hen fynaich yn croesi drosodd i’r byd nesaf. Arogl marwolaeth.

Gafaelodd ofn oer a llethol yn ei galon wrth i’r blodyn o’i flaen wywo a newid. Cyn bo hir, nid blodyn oedd yno o gwbl, ond un o’r gwreiddiau du oedd yn tyfu o amgylch y mynachdy. Edrychodd i fyny. Y gwreiddiau oedd yn llenwi’r ardd erbyn hyn, ac yn eu canol safai’r Chwaer Sonda.

Cyn iddo allu dweud dim, teimlodd Timofei ei hun yn cael ei sugno i mewn i’r pridd. Aeth y wên ar wyneb Sonda yn lletach ac yn lletach, yn bygwth llyncu ei holl wyneb. Daliodd Timofei i suddo wrth i’r dduwies gamu tuag ato, y gwreiddiau du’n tyfu ac yn gwingo o dan ei thraed.

“Cannoedd o filltiroedd y teithiodd y Chwaer Sonda,” meddai. “Ar hyd moroedd ac afonydd, ar draws mynyddoedd a bryniau, trwy bentrefi a dinasoedd … a neb yn gwybod ei henw. I wneud y daith yna … i adael ei chartref am byth … er mwyn dod yn forwyn fach i ti? I farw’n dawel, heb neb yn galw ei henw byth eto? Hm. Na. Dim dyna sut mae’r Chwaer Sonda am adael y byd.”

Suddodd Timofei ymhellach i’r tir, y pridd yn gwasgu am ei ganol yn ei gwneud yn anodd anadlu.

“Mae pŵer mawr yma, Timofei Gurkovski. O dan dy drwyn di. Hyn a mwy mae’r Chwaer Sonda yn ei wybod. Fe allwn ni ei feddiannu. Y Chwaer Sonda a thithau. A wedi i ni wneud … fydd neb yn ein hanghofio. Byth eto.”

Rhoddodd Sonda ei llaw ar ben Timofei unwaith eto, yn ei wthio’n ddyfnach i lawr. Wnaeth y mynach ifanc ddim sgrechian na bargeinio am ei fywyd. Doedd o ddim yn credu y byddai unrhyw un yn ei glywed petasai’n gwneud. Neb ond hi. A doedd o ddim yn cael y teimlad ei bod hi’n agored iawn i fargeinio. Suddodd ei ên i mewn i’r tir. Blasodd y pridd yn erbyn ei dafod. Cyn hir, fe fyddai popeth wedi ei lyncu gan y düwch oddi tano.

Ond yna, yn union cyn y diwedd, trodd ei olwg at y goeden fawr unwaith eto. Doedd dim gwreiddiau’n tyfu o’i hamgylch hi, ei dail yn dal yn iach, yn wyrdd…

…ac yn berffaith lonydd.

Dyna pryd y sylweddolodd Timofei nad oedd dim gwynt yn chwythu yma. Dim gwynt i beillio’r blodau na thaflu cymylau ar draws yr awyr. Dyna pam doedd dim cymylau. Dyna pam roedd y blodau i gyd wedi gwywo ac wedi newid.

Doedd gan y Chwaer Sonda ddim pŵer yma.

Daliodd Timofei i ddweud dim. Ond teimlodd ei hun yn cael ei godi allan o’r llawr. Gwelodd Sonda yn suddo oddi tano, anghrediniaeth yn llosgi yn ei llygaid. Edrychodd yr hen ddynes o’i chwmpas yn wyllt, yn crafangu’n erbyn y pridd. Llanwodd yr arogl melys ffroenau Timofei unwaith eto, fel ei fod yn pelydru’n annaturiol i fyny o’r llawr. Arogl marwolaeth yn sicr. Ond nid ei farwolaeth o.

Teimlodd ei hun yn codi’n llwyr allan o’r pridd ac uwchben yr ardd, yn troi’n ysgafn yn yr awyr las. Ymhell, bell oddi tano, gallai glywed y Chwaer Sonda yn sgrechian, yn hir ac yn ingol…

Ac yna roedd o’n ôl yn y mynachdy. Cododd ar ei eistedd oddi ar lawr caregog y neuadd, chwys yn pistyllio i lawr ei wyneb. Anadlodd yn ddwfn. Roedd yr abades yn penlinio uwch ei ben, a thua hanner dwsin o fynachod eraill yn sefyll o’i gwmpas, ambell un yn mwmian gweddi yn dawel, eraill yn syllu’n feirniadol tuag ato dan aeliau trymion. Wrth ei ymyl gorweddai’r gwraidd du roedd Sonda wedi ei fynnu yn union cyn iddi …

“Timofei,” meddai’r abades. “Wyt ti’n iawn? Wyt ti yma?”

Gwnaeth Timofei ei orau i ateb yn syth, ond roedd rhywbeth yn ei rwystro. Roedd yn dal i fedru clywed Sonda yng nghefn ei feddwl, yn sgrechian ac yn tantro ac yn rhegi’r holl dduwiau, yn fyw ac yn farw. Yn mynnu ei sylw.

“Timofei?” meddai’r abades eto. Cymerodd y mynach ifanc ei llaw a chododd ar ei draed.

“Yma,” atebodd, “ac yn iach. Mae hyn yn wybyddus i’r Brawd Timofei. Hyn a llawer mwy.”

Edrychodd un neu ddau o’r mynaich ar ei gilydd drwy gorneli eu llygaid. Gwenodd yr abades.

“Mae’n berffaith naturiol i ti’i theimlo hi’n… dod trwodd. Ond paid â phoeni. Fe fydd ei dylanwad hi arnat ti’n mynd yn llai ac yn llai wrth i’r blynyddoedd fynd heibio.”

“Mae’r Brawd Timofei yn derbyn hyn yn fodlon,” meddai Timofei, cyn gogwyddo yn ei flaen, yn gafael o amgylch ysgwyddau’r abades er mwyn rhwystro ei hun rhag disgyn. Roedd sgrechian y Chwaer Sonda yn chwyrlïo o amgylch ei feddwl, fel petai wedi ei ddal mewn corwynt. “Mae’n ei clywed hi! Yn dal i’w clywed hi, mor glir ag erioed … yn sgrechian … yn …”

“Ac fe fydd yn rhaid i’r Brawd Timofei arfer â’r peth,” meddai’r abades. “Mae’n ddrwg gen i. Rwyt ti wedi bod braidd yn anlwcus. Dydw i erioed wedi gweld gornest debyg rhwng dyn a duw. Roeddet ti wedi’n gadael ni am awr neu fwy. Os ydi’r Chwaer Sonda’n fodlon ymladd mor ffyrnig â hynny i gael gafael arnat ti … mae gen i ofn na fydd hi ddim yn gadael iti fynd yn llwyr. Mae’n cymryd blynyddoedd maith i dduw farw.”

Cymerodd Timofei lwnc mawr o wynt, arogl llaith y mynachdy yn llenwi ei ffroenau.

“Mae rhai o’r duwiau,” aeth yr abades ymlaen, “yn derbyn y peth. Yn diolch i ni, hyd yn oed, am y cyfle i gael marw’n urddasol. Yn gymharol hawdd. Ond dyw eraill ddim yn deall sut mae’r byd yn gweithio. Ddim yn deall bod pawb – hyd yn oed duwiau – yn marw yn y diwedd. Mae gen i ofn, Timofei, y bydd y Chwaer Sonda i’w chlywed yn sgrechian tan ddiwedd dy oes.”

Roedd fel petai Sonda, ymhell y tu mewn iddo, wedi clywed geiriau’r abades. Teimlodd Timofei ei asgwrn cefn yn gwingo, fel petai wedi ei daro gan fellten. Dechreuodd Sonda ei regi yntau, rhegi’r abades, rhegi’r holl ddynol ryw. Am eiliad – eiliad yn unig – cymerodd reolaeth o’i gorff. Ond roedd yn ddigon. Gwthiodd ei law ymlaen. Dechreuodd llwch ddisgyn o do’r neuadd wrth i wynt ddechrau chwythu’n ysgafn i lawr y waliau, cyn cryfhau a chronni yn union o flaen y drws bach pren yn y gornel. Yn union cyn i Timofei gael rheolaeth yn ôl ar ei gorff, gadawodd y Chwaer Sonda fynd ar y gwynt, a ffrwydrodd yn donnau i bob cyfeiriad. Disgynnodd Timofei ar ei gefn unwaith eto, rhai o’r mynaich yn disgyn gydag o, eraill yn codi eu breichiau i amddiffyn eu hunain rhag y darnau o bren oedd yn chwyrlïo drwy’r awyr.

Agorodd Timofei ei lygaid i weld bod y drws wedi ei chwalu’n ddarnau, y grisiau serth y tu hwnt bellach i’w gweld yn blaen. Cododd ar ei draed yr eildro, ei ddwylo ar ei liniau, yn gwneud ei orau i ddal ei anadl. Rhoddodd yr abades law ar ei gefn.

“Mae pethau felly’n digwydd hefyd. Ambell waith.”

Edrychodd Timofei i fyny tua’r drws agored.

“Mae’r Brawd Timofei yn gwybod un neu ddau o bethau,” meddai. “Ydi wir! Llawer mwy nag oedd o cyn i’r Chwaer Sonda ei feddiannu. Mae’n gwybod pa sŵn mae’r glaw yn ei wneud yn disgyn ar doeau’r Ynysoedd Prudd, yn deall pam na ddyliech chi ddringo Mynyddoedd y Behemoth ar noswyl y canhwyllau, yn nabod tonnau’r moroedd wrth eu henwau. Hyn, cofiwch, a mwy. Ond eto fyth, dydi o ddim wedi cael ateb i un cwestiwn. Yr unig gwestiwn sy’n llosgi twll y tu mewn iddo.”

Pwyntiodd Timofei tua’r drws yn grynedig.

“Be yn y byd sy’n ei ddisgwyl trwy’r drws ‘na?”

Gwenodd yr abades yn drist cyn cerdded tua’r agoriad newydd yn y mur.

“Mae’n bryd, fwy na thebyg, i’r Brawd Timofei gael gwybod,” meddai dros ei hysgwydd wrth ddringo i fyny’r grisiau, i mewn i’r tywyllwch. “Dyna pam ei fod o yma, wedi’r cwbl.”

Aeth rhai o’r mynaich at eu gwaith, eraill yn penderfynu aros y neuadd. Yn gwylio Timofei yn cymryd yr un camau pryderus cyntaf i fyny’r grisiau yr oedden nhw i gyd wedi eu cymryd ar un adeg.

Rhoddodd ei droed ar y gris isaf wrth i’w galon guro. Wrth i’r Chwaer Sonda sgrechian.

Fesul gris, teimlodd ei galon yn curo’n galetach ac yn galetach, saith mlynedd o ddisgwyl wedi arwain at yr un daith ddiffenestr yma i uchelfannau’r mynachdy. Roedd y grisiau’n mynd ymlaen yn hwy nag oedd o’n ei ddisgwyl. Cyn pen dim, roedd o allan o wynt, y frwydr yn yr ardd yn dal yn fyw yn ei feddwl. Rhoddodd ei law ar y wal laith. Roedd fel bod y waliau yma wedi eu gorchuddio â rhywbeth. Tendriliau tenau, nid yn annhebyg i’r gwreiddiau oedd yn tyfu y tu allan… ond yn dduach. Yn llawer, llawer duach, hyd yn oed, na’r tywyllwch o’i amgylch.

Dringodd ris, ei law’n dal ar y wal. Curodd ei galon unwaith. Ddwywaith. Dringodd ris arall. Curodd ei galon unwaith. Ddwywaith. Deirgwaith.

Dringodd eto. Curodd ei galon. A neidiodd mewn braw wrth i’r waliau ateb.

Bu bron iddo golli ei falans. Bu bron iddo droi’n ôl. Ond gwthiodd ei ofnau yntau – ac ofnau’r Chwaer Sonda ymhell y tu mewn iddo – i un ochr. Camodd yn ei flaen a rhoddodd ei law ar y wal eto.

Doedd o ddim yn dychmygu’r peth. Roedd dirgryniadau bach yn rhedeg drwy’r adeilad ei hun, ar hyd y tendriliau duon… bron fel petai calon arall yn curo, ar ben y grisiau, ar ddiwedd ei daith. Rhywbeth byw yn disgwyl amdano. Yr un peth oedd wedi ei ddenu yma yn y lle cyntaf, ac wedi denu Sonda, a’r cant a mil o greaduriaid eraill oedd wedi heidio yma dros y blynyddoedd, heb syniad pam y daethant.

Aeth y Chwaer Sonda yn wyllt. Yn sgrechian, yn llefain, yn bytheirio, yn dyfaru iddi fyth ddod yma.

Daliodd y Brawd Timofei i ddringo.

Previous
Previous

Adolygiad: Rhywbeth i’w Ddweud

Next
Next

Cyfweliad: meddwl.org