Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 2]
Yn dilyn y rhan gyntaf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf…
Pwysodd Timofei yn ôl yn erbyn y wal. Bu rhaid iddo gyfadde nad oedd o erioed wedi clywed am yr un o’r duwiau roedd Sonda wedi eu crybwyll. Un duw’r gwynt oedd yn wybyddus iddo fo – Gwern, Arglwydd y Dymestl. Pan roedd o’n paratoi i adael Norkov, roedd y si ar led bod teml fawr yn cael ei chysegru yn ei enw rywle yn Undeb y Borthoriaid. Penderfynodd nad oedd hi’n syniad da crybwyll ei enw yng nghlyw Sonda.
“Alla’ i … gael rhywbeth i chi?” gofynnodd Timofei, yn gwarafun y cwestiwn yn syth ar ôl iddo adael ei wefusau. Alla’ i gael rhywbeth i chi? Doedd duwies fel hyn ddim angen cwpanaid o de na joch o wisgi i godi ei chalon, siŵr iawn. Doedden nhw ddim angen unrhyw beth, oni bai am gael eu cydnabod.
Ond fe atebodd y Chwaer Sonda ei gwestiwn yn gyfeillgar, yn bwyllog, yn ei synnu ymhellach fyth.
“Y gwreiddiau ‘na tu allan,” meddai hithau, ei thafod yn chwarae o amgylch ei gwefusau. “Un o’r rheini fyddai’n dda. Ia. Dyna be mae’r Chwaer Sonda ei eisiau ar hyn o bryd.”
“Y gwreiddiau?” gofynnodd Timofei yn syn. “Ond …”
“Be fyddai duwies fel y Chwaer Sonda ei eisiau efo planhigyn bach di-nod felly? Dyna be sydd ar eich meddwl chi.” Chwarddodd Sonda, yn hir, yn isel ac yn gryg. “Wyddoch chi ddim be ydyn nhw. Saith mlynedd, a wyddoch chi ddim.”
Roedd Timofei eisiau gofyn cant a mil o gwestiynau. Bodlonodd ar ysgwyd ei ben.
“Hyn a mwy fydd y Chwaer Sonda yn ei ddatgelu. Mewn amser.”
Nodiodd Sonda tuag at Timofei, a brysiodd yntau allan o’r gell fach dywyll. Aeth yr ias drwyddo unwaith eto wrth basio’r drws pren yng nghornel y neuadd, ond daliodd i frasgamu drwy’r mynachdy ac i mewn i’w ardd bitw. Yn araf, yn ofalus, tynnodd un o’r gwreiddiau o’r tywod a’i astudio, fel petai yn ei weld am y tro cyntaf. Peth digon hyll yr olwg, ond yn un o hoff ddanteithion pobl wledig y Cneubarth, rhai ohonyn nhw’n teithio am oriau er mwyn cael gafael ar un. Ac eto, dyma nhw, yn tyfu fel pla o amgylch y mynachdy.
Pam?
Ac ai dychymyg Timofei oedd o, ‘ta oedd y gwraidd, wrth iddo gysidro’r peth, yn … symud? Yn curo’n ysgafn yng nghledr ei law, i mewn ac allan, fel calon.
Caeodd ei law o amgylch y planhigyn. Fe fyddai’r Chwaer Sonda yn esbonio’r holl beth, siŵr o fod. Cychwynnodd yn ôl am ei ystafell.
Parhaodd i frysio drwy’r prif goridor, yn dal y gwreiddyn yn amddiffynnol yn erbyn ei frest, ond daeth i stop cyn mentro i mewn i’r neuadd fwyta. Dyna lle’r oedd y Chwaer Sonda, yng nghornell yr ystafell, yn byseddu’r drws bach caeedig ac yn pwyso ei thalcen yn ei erbyn.
“O fan’na!” meddai Timofei rhwng ei ddannedd, yn brysio yn ei flaen. “’Dan’ ni ddim yn cael …”
“Ni, frawd?” mwmiodd Sonda. “Ni? Dim ond chi sydd ddim yn cael mynd drwy’r drws yma. Chi, a neb arall. Yr un bach mae’r duwiau wedi ei anwybyddu. Ydych chi’n gwybod be sydd trwy’r drws, frawd? Oes unrhyw syniad gennych chi?”
Ysgydwodd Timofei ei ben unwaith eto.
“Mae’n galw tuag at y Chwaer Sonda. Yn ei denu hi, fel mae fflam yn denu pryfed.” Dechreuodd y dduwies grafangu’n ysgafn yn erbyn y drws. “Mae’n bryd i ni ddarganfod y gyfrinach, dydych chi ddim yn meddwl? Gyda’n gilydd.”
Heb fwy o rybudd, tynnodd Sonda un o ystyllod y drws o’i lle. Ciciodd a rhwygodd y pren yn ddarnau, yn gwenu’n wyllt. Y tu ôl iddo roedd grisiau cul o garreg yn ymestyn i uchelfannau tywyll y mynachdy. Unwaith neu ddwy roedd Timofei erioed wedi eu gweld, a byth ers hynny wedi teimlo’r ysfa i’w dringo, i ddarganfod cyfrinach olaf y lle, ymhell uwch ei ben.
Ond nid fel hyn.
“Stop!” gwaeddodd Timofei. “Stopiwch!”
Doedd y Chwaer Sonda ddim yn gwrando. Daliodd i chwalu’r drws. Ychydig ohono oedd ar ôl erbyn hyn.
Cyn iddi orffen ei gwaith yn llwyr, teimlodd Timofei law ysgafn ar ei ysgwydd. Trodd mewn dychryn i weld yr abades yn gwenu arno, ei gwallt hir gwyn wedi ei glymu mewn plethi cywrain, yn dal basgedaid o ddillad glân o dan ei chesail.
“Timofei?” meddai yn ei llais meddal, araf. “Mae rhai ohonom ni’n gwneud ein gorau i ddarllen, bach. Ac eraill yn cysgu. Beth yw’r drafferth?”
“Mae’n ddrwg gen i,” atebodd Timofei’n wyllt. “Doeddwn i ddim yn medru ei rheoli hi …”
“Rheoli pwy, bach?”
“Fy …” cychwynnodd Timofei, yn troi’n ôl tua’r neuadd, “fy nuwies …”
Ond doedd dim golwg o’r Chwaer Sonda. Roedd y drws yn ôl yn ei le, yn dal i sefyll, heb farc arno.
“Duwies,” meddai’r abades, yn rhoi ei basged i lawr ar fwrdd o garreg yng nghanol y neuadd. “I ti? O’r diwedd! Roedden ni’n dechrau poeni amdanat ti, a bod yn berffaith onest. Ond na. Gwiriondeb yw hynny. Dyw’r lle ‘ma byth yn denu’r bobl anghywir. Fe ddyliwn i fod â mwy o ffydd. Wel? Pwy yw hi, ‘te?”
“Sonda,” atebodd Timofei’n grynedig. “Y … y Chwaer Sonda.”
“Newydd i mi.”
“Duwies y gwynt. Y … hynny yw … math arbennig o wynt. Fe soniodd hi am yr Ynysoedd Prudd, ymhell i’r gogledd.”
“Mae’r enw yna’n gyfarwydd i mi. Lle rhyfedd, medden nhw. Lle mae’r rhan fwyaf o’r byd wedi ei anghofio. Siwrne hir iawn, mae’n rhaid.”
“Oedd. Oedd, y … dwi’n meddwl.”
“A ble mae hi erbyn hyn?”
Edrychodd Timofei’n wyllt o amgylch y neuadd. Dim ond yr abades ac yntau oedd yma. Roedd y Chwaer Sonda wedi diflannu.
“Mae …” cychwynodd Timofei, “mae hi’n …”
“Bydd yn ofalus, bach,” meddai’r abades. “Mae rhai o’r hen dduwiau ‘ma’n beryglus. Wedi mynd cyhyd heb glywed eu henwau, heb gael eu haddoli, mae nhw’n … newid. Yn anghofio beth yn union ydyn nhw. Yn anghofio bod ein hangen ni arnyn nhw, yn union fel yr ydym ni eu …”
Chlywodd Timofei ddim diwedd llith yr abades. Llamodd Sonda i fyny yn union o’i flaen, ei hen geg ddanheddog yn gwenu fel draen. Gwthiodd ei llaw ymlaen, gan afael yn gadarn am dalcen Timofei. Aeth popeth yn ddu.
…byddwn yn cyhoeddi rhan ola’r stori yr wythnos nesa’!