Ysgrif: Llefydd Symudol - Morgan Owen
Oriog a chyfnewidiol yw daearyddiaeth breuddwydion. Gŵyr pawb fel mae’r breuddwydiwr yn chwannog i gael ei hunan mewn lleoliad newydd megis ar amrantiad ac yn ddirybudd; neu fel y bydd dau le a wahenir gan bellteroedd meithion yn y byd effro yn ffinio ac yn ymdoddi i’w gilydd rywsut pan fydd y byd hwnnw ynghladd dan gyfaredd hunedd. Dyma nodwedd pob breuddwyd, ond odid, a mwy cyflawn o dipyn yw naratif sydd yn gallu neidio o le i le, o’r nos i’r dydd ac yn ôl fel y mynno. Hynny yw, o fwrw cyfyngiadau amser a lle o’r neilltu, mae creadigrwydd gorffwyll y cof ar ei ennill. Ni allaf ond ymddiried yn fy meddwl gwaelodol i weu naratif ystyrlon o ddeunydd anystywallt fy mywyd beunyddiol pan fyddaf ynghwsg; a chredaf fod rhyw rithyn o wirionedd neu ddoethineb neu hyd yn oed broffwydoliaeth yn y freuddwyd a welais y noson o’r blaen.
Dechreuad digon disgwyliedig oedd i’r freuddwyd. Roeddwn yn cerdded o ffin ogleddol Caerdydd―nid nepell o Ffynnon Taf―yn ôl i Ferthyr, taith gyfarwydd iawn a minnau wedi treulio’r rhan fwyaf helaeth o’m hoes ym Merthyr, lle’m maged. Yn y man, deuthum at Bontypridd, lle y gelli naill ai barhau ar dy union i fyny Cwm Taf nes cyrraedd Merthyr, sef y dref olaf cyn gweundir a gwndwn Bannau Brycheiniog, neu, fel arall, droi am y Rhondda (Fach a Fawr). Dyma’r fforchiad tyngedfennol yn y ffordd: fwy nag unwaith, rhaid i mi gyfaddef, rwyf wedi neidio ar ffrwst i’r trên anghywir yn y gorffennol a chael fy hunan yn dilyn rhawd y Rhondda Fawr wedi gadael Pontypridd, yn lle dyfroedd cyfiaith Taf. Diau mai tynnu ar brofiad diriaethol a wnaethpwyd yn y freuddwyd wrth fy nhywys at y ddeuffordd-gyfarfod yma; ond, diolch i’r drefn, nosasai erbyn i mi gyrraedd Pontypridd, ac felly y tro hwn gallwn esgusodi fy amryfusedd trwy feio’r tywyllwch, breuddwyd ai peidio.
A hithau’n ddued â muchudd o’m hamgylch, roeddwn yn awchus i gyrraedd Merthyr, fel y gallwn fwrw noson gysurus yn fy ngwely fy hun. Roedd cysgodion y gwyll yn cronni’n fygythiol o’m deutu, ac ochrau’r cwm fel petaent yn cau amdanaf. Gwyddwn yn reddfol fy mod ger Pontypridd, ond disgynasai caddug y nos yn ddiatreg, heb i’r haul fachlud. Llithrodd amser yn llesmeiriol, ond ysywaeth, rhaid oedd bwrw iddi a pharhau i hyntio’n ddall tua Merthyr, bid a fo am y fagddu. Dilynwn sŵn yr afon, am na allai honno fy mradychu fel y gwnaeth yr haul encyd yn ôl, meddyliais yn ddig wrth fy hunan; nac ychwaith y sêr dichellgar a oedd yn gwrthod caneitio’r noson honno, a hithau mor dywyll â bol buwch! Wrth fwrw ad-drem, gallaf weld priodolder y rhwystrau hyn, ond nid oeddwn mor eglur fy meddwl yn fy mreuddwyd, ac euthum ymlaen, gan ryw amau fy mod ar goll, er i mi lynnu gyda pheth cysur wrth yr afon na allwn mo’i gweld, fy unig ganllaw.
Deuthum yn ddisymwth at stryd o dai teras. Gwyddwn fy mod ym Mlaenau’r Cymoedd, a chefais beth rhyddhad. Gŵyr pob brodor o’r Cymoedd fel mae clydwch a chartrefoldeb yn brydio yn ei fynwes wrth weld rhes o dai dihefelydd y rhan hon o Gymru. Ceir tai teras ym mhobman, mi wn, ond rhywsut mae eiddo’r Cymoedd yn wahanol. Efallai ein bod wedi cynefino â’n tai cymaint nes esgor ar gymundeb cyfriniol rhyngom? Neu efallai fod hynny’n lol botes, am i mi ddarganfod gyda phryder fy mod i yn y Rhondda, a bod Merthyr mor bell i ffwrdd ag erioed. Cadarnhawyd y ffaith hon gan ddyn oedd yn sefyll gerllaw. Yn y dryswch a ganlynodd, sylweddolais ei bod hi’n lled-olau, fel y mae hi’n fuan wedi’r wawr cyn bod y ddynoliaeth ar droed. Yn llonyddwch y glasfore, euthum i’m gwrthol er mwyn dychwelyd i’r ddeugwm-gyfarfod a throi am Ferthyr o’r hir ddiwedd.
Cyn i mi allu dygymod â’r bore, fe’m cefais fy hun ar ben ochr y cwm, a’r haul yn dechrau cilio unwaith yn rhagor. Effeithiwyd ar bopeth gan ryw fwyhad dirgel, fel y derfydd yn aml mewn breuddwydion, am fod y llygaid wedi adennill dros dro ddiniweitrwydd y plentyn, neu’r baban newydd-anedig; hynny yw, ac adleisio Aldous Huxley, roeddwn yn gweld pethau fel y maent yn cyfri, heb fod yr ymennydd yn mynnu dosbarthu, trefnu a gorfodi cysyniadau ar y pethau a welwn. Gweld nid pethau, ond popeth. Estynnai’r allt i lawr i wely’r cwm fel pe bai’n rhychwantu cyfandiroedd, cymaint y chwyddwyd y tir, a’r coed yn gawraidd, am ba reswm bynnag, ymysg tomennydd o fawnog. Teimlwn nesâd y nos yn gwasgu arnaf, yn ymsarffio drwy’r rhedyn ar ochr arall y cwm, ac fe fwriais garlam i’r tir gwastad. Rhedais drwy’r goedwig oesol, ar ffo rhag y nos, ar herw yn y Rhondda.
Pylodd y goedwig, a daeth sadrwydd a threiddgarwch anarferol drosof. Aeth y tirlun chwyddedig yn eilbeth am y tro, am i ddod at borth eglwys Gatholig. Nid oedd dim yn ei gwedd allanol yn tystio i’r ffaith ei bod eglwys Gatholig, chwaethach unrhyw eglwys arall. Ond gwyddwn rywsut taw un felly oedd hi, fel pe bawn yn dilyn sgript neu’n ufuddhau i ragluniaeth led-ddisgwyliedig. Euthum dros drothwy’r drws: o’m cwmpas gwelwn waliau gwyngalchog cymharol syml, pren tywyll ac eiconau. Derbyniais anocheledd yr olygfa hon y daethpwyd â mi ati. Nid ei symlrwydd oedd yn cyfri, ond ei thawelwch llethol. Anghofiwyd ar drawiad oriogrwydd y dydd a’r nos a’r dirwedd gyfnewidiol, gan ddistawed y lle hwn. Diffoddwyd pob meddwl am Ferthyr. Eithr arwyddocâd hyn oll yw i mi gysylltu’r eglwys yn fy mreuddwyd â Ffynnon Fair, ym Mhenrhys, rhwng y Rhondda Fawr a Fach―yr unig bryd yn y freuddwyd i mi feddwl yn eglur (diau fod y gair Saesneg lucidly yn cyfleu’r fath glirder hunanymwybodol yn well). Gwyddwn fod yr eglwys hon yn gysylltiedig â Ffynnon Fair, cyrchfan pererindota enwog drwy’r Oesoedd Canol, sy’n aros felly i rai hyd y dwthwn hwn. A chyn gynted ag y sylweddolais hynny, dihunais.
Dyna hanes breuddwyd go ddigyswllt, lle y methais â chanfod y ffordd adre i Ferthyr―profiad digon anghysurus i adyn hiraethus fel minnau. Nid yw’n fwriad gennyf ddadansoddi neu ‘ddarllen’ y freuddwyd, er bod ynddi, siŵr o fod, doreth o ddeunydd i’r eneidegwr. Na, esboniodd ei hun i mi yn dra huawdl ryw wythnos yn ddiweddarach: daeth ar fy ôl, a bu ar fy sathr byth ers hynny. Ysgrifennodd Jorge Luis Borges ‘fod realiti yn ffafrio cymesureddau a lled-anacroniaethau’. Glynodd y llinell hon yn fy mhen y tro cyntaf i mi ei darllen, a dyma frawddeg sy’n crynhoi’r hyn a ddigwyddodd wedyn yn ei grynswth.
Roeddwn yn ymwybodol o gywydd a gyfansoddwyd gan Lewys Morgannwg i ddelw o’r Forwyn Fair ym Mhenrhys a ddinistriwyd yn ystod y Diwygiad Protestannaidd. Enynnodd y freuddwyd fy chwilfrydedd ynddi, felly cyrchais gopi o’r gerdd a’i chael yn llyfrgell y Brifysgol. Darllenais hi ag awch, nes i mi oedi uwchben llinell lle y sonnir am ‘wen Abriel annerch’. Goleuwyd y llinell yn y nodiadau fel hyn: ‘Disgrifir Gabriel ar sawl achlysur yn gennad” (fi biau’r pwyslais)’; hynny yw, fe’m hatgoffawyd o’r cyswllt amlycaf, canys onid y cyswllt amlycaf sydd anhawsaf ei ganfod weithiau? Ac ymhellach, nodir taw o lawysgrif LlGC 970E y cafwyd yr unig ddarlleniad ystyrlon o’r llinell: hynny yw, llawysgrif a elwir yn ‘llawysgrif Merthyr Tudful’. Onid dyma’r allwedd? Bydd Merthyr yn galw arnaf o hirbell o hyd, trwy offerynoliaeth amryw genhadon; ond ni allwn fod wedi disgwyl y byddai’n llechu yma, yn nodiadau rhyw foliant i’r Forwyn Fair. Ni welaf arwyddocâd yng nghyd-destun crefyddol y genhadaeth hon, gyda llaw, am fod y Ferthyr ledrithiol sy’n fy nghanlyn yn dipyn o Brotëws, a dweud y gwir, ac onid duw paganaidd ydyw ef?
Soniodd gŵr doeth unwaith am ‘y mân drugareddau a swfenirau cofnodol sydd wedi fy nilyn yn ffyddlon, ond heb eu cymell, ar hyd f’oes’. Bydd y pethau hynny y rhown ein bryd arnynt, boed am ddiwrnod neu am ddegawd, yn aml iawn yn glynu wrthym, ble bynnag yr elom, mae’n wir. Ond ni allaf byth ymddihatru oddi wrth Ferthyr, er i mi roi fy mryd ar lefydd pell, a throi cefn arni. Bydd hithau’n fy nilyn yn ffyddlon er fy mrad, ac yn sicr heb ei chymell. Gan hynny, byddaf yn pori’n eiddgar o hyd yn ein llyfrgelloedd, nes bydd y drefn gymesurol-anachronistaidd yn llenwi pob cyfrol y deuaf ar ei thraws â sôn am y lle hwn sydd wastad ar fy sathr. Pan fydd pawb wedi blino ar ei hollbresenoldeb, fe gaf innau gyfiawnhad dros ei gadael.