Dyddiadur Teithio: El Bolsón – Elin Gruffydd [Rhan 2]

Mi wnaeth Elin G rywbeth ma pawb isho’i neud ar ryw bwynt, sef dropio allan, codi’i phac, a mynd i deithio. Y llynedd, teithiodd i Dde America, gan ymweld a Pheriw, Chile, Bolifia, a’r Ariannin. Ar hyd ei thaith mi wnaeth hi lwyth o bethau gwallgo, cyfarfod a llwyth o bobl ddifyr, ac o be welwn ni – cael uffar o amser da. Mi fuodd hi’n cadw cofnod o’i phrofiadau ar ei blog – elingruffydd.wordpress.com, a dyma’r ail ran o ddetholiad bach o’i hanesion o’r blog hwnnw.

Nos Sul yn El Bolsón. Un o nosweithia mwya bizzare fy mywyd. Ar ôl swpar, dyma rhywun yn awgrymu ein bod ni’n cael sesiwn eyegazing. Doni’m yn dalld be odd hynny, ond ma’r gair basically yn disgrifio’i hun. Natha ni gyd ymgynull yn ein yurt ni ac eistedd ar lawr. Odda ni fod i ffindio partnar, eistedd gyferbyn, a jesd sbio fewn i lygaid ein gilydd am dri munud. Dim siarad, dim unryw fath o sŵn, jesd eye contact. Dwi’n gwybod, ma’n swnio’n hollol redicilys. Newch chi fyth ddalld pa mor hir ydi tri munud nes dachi’n gneud hyn. Ar ôl tri munud, odda ni’n symud ‘mlaen i’r person nesa a gneud run peth efo hwnnw. Oddo mor mor intense. Efo rhei pobol, odd fy meddwl i’n crwydro i rwla arall a ddim yn canolbwyntio ar y person. Efo rhei eraill, yn enwedig Lorenzo a Fernando, oni’n zonio allan yn llwyr a jesd meddwl amdanyn nhw.

Roedd na 12 ohona ni, felly mi gymrodd y broses dros hannar awr i gyd. Erbyn diwadd, odd na rai ‘di cychwyn crio gan eu bod nhw gymaint dan emosiwn (ombach too much i fi – c’mon ma hynna braidd yn eithafol tydi) a pawb yn cofleidio’i bartnar ar ôl i’r tri munud ddod i ben. Ar ôl i bawb weld pawb, nath pawb ddechra’ dehongli be odda nhw’n weld yn ei gilydd. Dyma’r casgliad nath pawb gytuno arno amdana fi: apparyntli, ma’ ‘na elfen o ofn yn fy llygaid, dwi ar goll yn feddyliol, dwi’m yn gwybod be dwi’n neud nesa, ond dwi’n benderfynol o ddod o hyd i hapusrwydd. Diolch bois. Dwi ‘di penderfynu anwybyddu hynna – dwi ddigon hapus yn barod, a be ma ‘ar goll yn feddyliol’ fod i feddwl?! Dwi ‘di goroesi dau fis ar ben fy hun yn Ne America, dwi way past bod ofn!

Ar ôl pawb fynd i’r gwely, odd Lorenzo’n sefyll tu allan o flaen gwydr yn syllu fewn i’w lygaid o’i hun. Natho aros yn gneud hynny am ugain munud – gwallgo.

*  *  *

Wrth deithio, oni’n sgwennu amball bwynt i lawr o betha oni’n sylwi arnyn nhw:

– Oni’n gweld yr un bobol yn bob man. Odd pawb yn gwneud routes tebyg, ond i gyfeiriadau gwahanol. Ar yr awyren o Calama i Santiago, oni’n nabod 6 person. Mewn chemist yn El Calafate neshi bympio fewn i ddau foi odd yn yr hostel efo fi yn Sucre, ac mewn gorsaf metro yn Buenos Aires neshi weld cwpl odd yn yr hostel yn La Paz, ac odda nhw ar yr awyren i Santiago. Byd bach.

– Ma’ Bolivians yn cerddad yn ofnadwy o araf. Ond dwi’n meddwl fod o yn eu natur nhw, odda nhw’n slo yn gneud lot o betha erill fyd e.e. scoopio hufen iâ.

– Tydi dreifars Bolivia ddim yn cymryd sylw o Zebra Crossings.

– Ma’ dreifars Bolivia yn gyffredinol yn hollol blydi insane.

– Neshi’m gweld ‘run ddynas yn dreifio yn Peru na Bolivia.

– Ma’n cymryd lot o amsar i ddod i habit o beidio fflysho papur toiled lawr y toilet

– Ma’ ‘na gŵn strae yn BOB MAN yn Peru, Bolivia a Chile. Yn Valparaíso , erbyn diwadd un o’r walking tours, odd ‘na 6 ci yn rhan o’r grŵp.

– Ma’ ‘na lot o gyplau yn teithio. Dwi ‘di dod i’r casgliad fod ‘na ddau fath o gwpl.

Cwpl 1 = dau berson normal, odd dal yn cyfathrebu a cymdeithasu efo fi a pobol eraill sy’n teithio er eu bod nhw mewn par, ac odd ddim yn gwneud mi deimlo mod i’n tarfu jesd drwy fodoli.

Cwpl 2 = dau berson sydd ond yn siarad efo’i gilydd, sy’ ddim yn sbio ar neb arall heblaw am pan ma’ nhw isho rhywun i dynnu llun cheesy ohona nhw, sy’n gneud chi deimlo fel gwsberan jesd drwy fodoli, sy’n mynnu ‘cuddlo’ a dos wbod be arall mewn un gwely mewn stafall i 10 person mewn hostel. Jesd talwch £3 ecstra am stafall breifat er lles pawb.

– Y peth mwya’ annoying odd pobol yn deud ‘yeah I’ve done Brazil’ neu unryw wlad arall. Done Brazil?! Ar ôl bod mewn tha 3 lle?!

– Heblaw am lond llaw o bobol o gwmpas 20 oed, odd pawb arall odd yn teithio yn h^yn na fi. Odd y mwyafrif dros 25, lot fawr iawn o bobol yn eu 20au hwyr a 30au cynnar, ma’ hyn yn arwain at fy mhwynt nesaf…

– Odd na lot pobol yn cyfeirio ata i fel ‘baby traveller’ gan mod i’n ifanc a rioed ‘di teithio o’r blaen. Patronising ac annoying.

Felly dyna ni. 3 mis drosodd a ma’n teimlo tha fod o ond ‘di para 3 diwrnod. Neshi’m crio pan neshi adael tan fi wylio Finding Dory ar yr awyren, totes emosh.

Dwi’n gytted bo’r amsar ‘di dod i ben mor gyflym, ond dwi’n gwbod mod i’n dod nôl, felly ma’n iawn.

Tan y tro nesa De America, hasta luego!

Previous
Previous

Cerdd: Cariad na fu na fydd - Hynek Janoušek

Next
Next

Dyddiadur Teithio: Salar de Uyuni & El Bolsón – Elin Gruffydd