Dyddiadur Teithio: Salar de Uyuni & El Bolsón – Elin Gruffydd
Mi wnaeth Elin G rywbeth ma pawb isho’i neud ar ryw bwynt, sef dropio allan, codi’i phac, a mynd i deithio. Y llynedd, teithiodd i Dde America, gan ymweld a Pheriw, Chile, Bolifia, a’r Ariannin. Ar hyd ei thaith mi wnaeth hi lwyth o bethau gwallgo, cyfarfod a llwyth o bobl ddifyr, ac o be welwn ni – cael uffar o amser da. Mi fuodd hi’n cadw cofnod o’i phrofiadau ar ei blog – elingruffydd.wordpress.com, a dyma’r rhan gynta o ddetholiad bach o’i hanesion o’r blog hwnnw.
Salar de Uyuni, Bolivia
Natha ni adael Uyuni am 10:30 ar gyfer y tour o’r fflatiau halen mewn Jeep. O’r bora cynta un dyma fi’n cal nickname anffodus, Miss Brexit. Gan ein bod ni’n grwp Ewropeaidd iawn – rhai o Sweden, yr Almaen, Ffrainc a Chymru – roedd gendda nhw i gyd lot o ddiddordab yn y matar, ac yn gofyn be ddiawl sy’n bod efo ni. Neshi drio ngora i amddiffyn fy hun a pwysleisio mod i 100% yn erbyn y peth, ond odda nhw’n gweld o’n ddoniol mod i’n mynd mor worked up, felly nath yr enw sticio. A trwy’r holl daith, os oddna wbath yn mynd o’i le, bai Brexit oddo.
Y llety am y noson gyntaf oedd gwesty wedi ei neud allan o halan. Diddorol. Neshi lyfu’r wal, doddo’m yn neis iawn.
Erbyn i ni gyrraedd yr ail hostel ar yr ail ddiwrnod, oddi’n uffernol o oer, ac udodd y tour guide y basa hi’n -5 gradd ganol nos yn y stafall (bai Brexit, wrth gwrs.) Roedd Oskar a Mathea yn gwybod hyn cyn cychwyn y daith, ac roedda nhw wedi prynu poteli gwin a Pisco er mwyn i ni gyd feddwi a pheidio teimlo’r oerfel. Natho weithio ‘fyd. Roedda ni’n chwech yn cysgu yn yr un stafall, a doedd y gola ddim yn gryf iawn, felly natha ni dreulio’r noson yn yfad gwin a Pisco strêt a chwara’ Uno mewn gola’ gwan. Ma’ chwarae Uno ‘di meddwi yn LOT o hwyl. Neshi’m enill r’un rownd (bai brexit eto….) Cyn mynd i gysgu, natha ni siarad am oria, odda ni gyd di meddwi dipyn ac yn baglu dros ein geiria, yn anffodus, wrth drio deud “what time is breakfast” neshi ddeud “what time is Brexit”, Andrew Davies moment, a nath huna’m helpu dim arna’i, gwych.
El Bolsón
Ma’r rhan fwyaf o bobol s’yn aros yn Earthship Patagonia yn El Bolsón yn mynd yno i wirfoddoli. Yn ystod fy ymweliad i, roedd ‘na dros ddeg o wirfoddolwyr, a dim ond fi a dwy hogan o’r UDA yno fel gwesteion. Odd y rhan fwyaf o wirfoddolwyr yr ultimate stereotype o hipis. Hipis go iawn tro ‘ma, dim ‘tha Jackson (y boi ‘na yn Cusco odd yn honni fod o’n hipi achos fod o’n licio natur).
Heb os nag oni bai, dyma’r bobol fwya fascinating, diddorol, clenia dwi erioed ‘di gyfarfod. Dros amsar swpar y noson gyntaf natha ni gyd ddod i nabod ein gilydd yn well. Odd gan bawb hanesion hollol anhygoel. Oni’n trio meddwl am wbath i ddeud. Y peth mwya dwi ‘di neud ydi teithio yn Ne America, doni’m wir yn gallu deud hynny nagon, dyna odd pawb yn neud yna! Felly oni’n trio meddwl am wbath arall outrageous dwi ‘di neud, odd ‘na ormod o ddewis. Y tro neshi gal ail am adrodd yn Steddfod Mynytho? Hah, dwi ‘di dod i’r casgliad mod i angan bod mwy outrageous, watch this space..
Sgwrs arall rownd y bwrdd bwyd oedd “what’s your favourite insects to eat?” Triwch feddwl am gwestiwn fwy hipiaidd na huna gyfeillion.
Fy hoff bobol yn y lle oedd Lorenzo a *dwi’m yn cofio’i enw fo, na’i alw fo yn Fernando*.
Lorenzo. N y t a r. Oddo’n identical o ran edrychiad i Johnny Depp (eitha amhosib peidio sterio arna fo) y person fwya eccentric dwi rioed ‘di gyfarfod. S’nam pwynt trio esbonio sut, jesd personoliaeth hollol unigryw. Yn wreiddiol o Buenos Aires, ond isho dianc o’r ddinas. Dyma be udodd o wrth gyflwyno’i hun i mi “I’m sick of people, I want to be alone in the middle of nature for a month. Just me. And I just want to laugh and cry all day. It’s good for the heart to be alone and just cry, you should try it, I think you need to cry.” Os ti’n deud… Oddo’n treulio’r rhan fwyaf o’i amsar yn perffeithio’r eyeliner trwm ar ei lygaid a gneud llunia o werewolves.
Odd Fernando’n dod o Venezuela. Dyn yn ei 70au, llond pen o ddreadlocks, stoned drwy’r dydd. Odd hwnw’n rwbath arall. Tua 3 o gloch y bore ar noson y parti gwyllt gafon ni, mi gododd Fernando a deud “I’m going to the store” a neshi gymryd na’i ffordd o o ddeud ‘dwi’n mynd i gymryd wbath’ odd huna (odd ‘i lygaid o ddigon coch yn barod), doni’m yn meddwl y basa ‘na ‘store’ yn gorad adag yna’r nos! Ond ddeg munud yn ddiweddarach, ddoth o nôl efo dwy botal o win coch. Geshi life story y boi i gyd. Blydi hell. Ma’ angan ffilm amdana fo. Ma’ ‘di gneud bob dim – ‘di cerddad o San Francisco i Efrog Newydd, ‘di byw am 2 flynadd ar fws, a lot lot mwy o betha mental. Ar ôl adrodd am ei fywyd dyma fo’n gofyn, “So what’s your story Elin?” Ymmmm… Nath hynny’m cymryd lot i ddeud. Natho ddeud: “You dropped out? Well now I fuckin adore you.” WAHOO, pwy sy’ angan gradd pan ma’ gena chi hen hippy stoned o Venezuela yn eich parchu chi?