Ymateb: Arddangosfa Empower Me! - Sara Treble-Parry

Heno, bydd digwyddiad arbennig iawn yn cael ei gynnal yn g39, Caerdydd, fel rhan o arddangosfa sy'n digwydd yno ar hyn o bryd. Casgliad o waith celf o bob lliw a llun yw Empower Me!, gan artistiaid o bob lliw a llun, yn dathlu benyweidd-dra o bob lliw a llun. Un o'r trefnwyr, Sara Treble-Parry, sy'n trafod ambell artist fydd yn rhan o'r arddangosfa hanesyddol hon, sy'n gosod ffeministiaeth ar flaen y gad.

Mae arddangosfa Empower Me! yn archwilio cymysgedd cyffrous o syniadau yn ymwneud â benyweidd-dra, o ffotograffiaeth i baentiadau, o frodwaith i serameg. Mae'r amrywiaeth o artistiaid hefyd yn bwysig i'r arddangosfa hon, gan mai ein nod oedd arddangos gwaith gan artistiaid o gefndiroedd amrywiol, a theimlwn ein bod wedi cyflawni hyn. Mae pob oedran, cefndir, diwylliant, yn ogystal â rhywedd yn dod ynghyd er mwyn hunan-rymuso ac er mwyn dathlu benyweidd-dra.

Ellie Hacking

Mae barddoniaeth yn arddangos harddwch yn ei hanfod, ond nid harddwch yw'r hyn yr oedd y bardd pync Kathy Acker yn ei ddisgrifio nôl yn y 70au, ond yn hytrach yr elfennau hagr ac aflunaidd sy'n gwneud menywod pwerus yn llwyddiannus. Mae Ellie wedi ceisio ail-greu un o ffotograffau Kathy Acker a oedd yn ymwneud ag ansadrwydd ei hunaniaeth benywaidd, yn ogystal ag ansadrwydd is-ddiwylliannau. Yn yr un modd â gwaith Acker, bydd Ellie Hacking hefyd yn arddangos hunanbortread yn yr arddangosfa, dyma safiad ar ran ei hunaniaeth bersonol, ac archwiliad o fod yn ferch ifanc rŵan. Gellir dadlau nad yw pwyslais Hacking yn wahanol iawn i bwyslais Acker y 70au a oedd yn lleisio ei barn drwy gelf a llenyddiaeth.

Ben Meredith

Fel arfer, mae Ben yn gweithio gydag amrywiaeth o gyfryngau, ond ar hyn o bryd mae’n creu brodweithiau ac ysgythriadau. Bydd Ben yn arddangos portread o’i ffrind o, Anna, sydd yn fodel bywyd, ar gyfer Empower Me! Dywed Ben, “Nes i ac Anna sgwrsio am Ffeministiaeth a rôl menywod yn y celfyddydau cyn iddi gomisiynu fi i wneud portread ohoni”; dyma sydd wedi ysbrydoli ei ddarn brodwaith ohoni. Yn y darn, mae hi'n gwisgo coron o flodau sy'n cysylltu â'i gyrfa ei hun fel llysgennad dros fyw'n gynaliadwy, ac wrth gwrs, pwysleisir y cysylltiad cryf â benyweidd-dra.

Zena Blackwell

Mae Zena yn fam ac yn artist ffeministaidd medrus sy'n archwilio themâu yn ymwneud â normau cymdeithasol. Mae’n defnyddio ei phlant fel enghraifft o sut y mae hithau yn gwrthod cydymffurfio â'r normau hyn; rhywbeth y mae rhai mamau yn teimlo dan bwysau i’w wneud. Yn ogystal â'r pwysau hwn o fod yn fam, mae Zena yn archwilio’r sbectrwm o emosiynau a brofir fel rhan o famolaeth gan gynnwys yr eiliadau gwallgof, y gorbryder, a’r blerwch. Efallai bod ei henw hi hefyd yn canu cloch; enillodd hi wobr yn Agoriad Haf MADE Caerdydd yn 2017 a chafodd hi sioe unigol yno fis Tachwedd diwethaf, a chafodd ei phaentiadau eu harddangos yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd. Mae ei gwaith felly yn ychwanegiad gwych i gasgliad Empower Me!

Fran Chambers

Mae gofynion di-baid diwydiannau sy'n cael eu dominyddu gan ddynion yn effeithio ar gyrff menywod mewn ffyrdd penodol, gan gynnwys Fran Chambers, sydd hefyd yn gweithio fel artist ochr yn ochr â'i swydd. Dywed Fran, “Trwy weithio gyda fy nghorff, rydw i'n dysgu dod o hyd i greadigrwydd a chryfder o fewn y cyfyngiadau y mae pobl yn eu gosod arnaf i a’r cyfyngiadau yr wyf yn gosod ar fi fy hun.”

Mae'r frawddeg hon yn bwysig iawn i'r arddangosfa hon; rydym oll yn ymdrechu i drawsffurfio elfennau negyddol er mwyn gallu grymuso ein hunain a chwalu ystrydebau a nenfydau gwydr.

Dyma gasgliad sy’n wahanol i unrhyw arddangosfa arall yng Nghaerdydd, ac arddangosfa y gobeithiwn ei chynnal yn flynyddol. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i roi llwyfan i bob math o artistiaid i arddangos eu gwaith, a chadw'r sgwrs bwysig yn fyw.

© Pob llun trwy garedigrwydd yr artistiaid.

Mae Empower Me! ar gael i'w weld tan yfory, yr 20fed o Orffennaf. Brysiwch draw i g39!

Previous
Previous

Adolygiad: Basgedwaith

Next
Next

Stori fer: Odd hwn yn shit idea... - Siôn Tomos Owen