Cyflwyniad: Ffuglen Ddigidol - Leia Fee

Yng nghynhadledd Haciaith eleni, cyflwynodd Leia Fee sesiwn ar ffuglen ddigidol, gan grybwyll na fu cynnig Cymraeg i’r gystadleuaeth , dyma ganllaw ar gyfer Y Stamp, i annog rhai o’n darllenwyr a chyfranwyr i roi cynnig ar ffordd newydd o adrodd stori.

Dyw’r ffordd rydym ni’n darllen ffuglen heb newid lot drwy’r canrifoedd. Mae’r fformat wedi newid (i rai) gyda’r e-lyfrau, mae ffasiynau yn ôl pa mor ffurfiol yw’r tecst wedi newid a newid eto ac eto ond nid y ffaith syml ein bod yn dilyn y stori yn ôl trefn yr awdur.  Yn y drefn maen nhw’n dewis, a thrwy’r tecst sydd o’n blaen ni yn unig.

Mae ffuglen ddigidol yn newid hynny — “ffuglen ddigidol” sy’n defnyddio’r ffaith mae’n ddigidol beth bynnag.  Daeth y ffuglen o ddyddiau cynnar y we pan oedd hyper-tecst yn gyfrwng perffaith i ail-greu’r fath o straeon “Dewis Dy Dynged” neu’n Saesneg “Choose Your Own Adventure”.  Yn lle gwneud dewis drwy ffeindio’r dudalen gywir, roedd hi’n bosib i jest clicio’r linc a gwneud dy ffordd dy hunan drwy’r stori.

Mae’r ffuglen yma yn dal yn boblogaidd.  Sorcery! ac 80 Days gan Inkle er enghraifft.

Yn 2008 gweithiodd Penguin Books gyda Six To Start ar brosiect “We Tell Stories” i greu cyfres o straeon digidol yn defnyddio’r platfformau ar-lein cyffredin fel 21 Steps —- stori sy’n datblygu drwy gyfres o nodau-lleoliad ar Google Maps.

Yn fwy diweddar, mae’r gêm/straeon/pos Device 6 yn chwarae gyda’r ffiniau rhwng gemau a straeon, pobl a’u teclynnau a’r ffordd rydym ni’n meddwl am destunau.  Ac yn y gemau (neu straeon) Blackbar a’r prequel Grayout, mae tecst eu hunan yn dod yn rhan o’r plot. Yn Blackbar mae rhai o’r geiriau wedi cael eu cuddio gan censor ac i ddarllen ymlaen mae’n rhaid i ti lenwi’r bylchau, ac yn Grayout rwyt ti’n darllen/chwarae o’r safbwynt o rhywun sydd yn diodde’ o aphasia (am resymau sy’n cael ei datgelu drwy’r stori).

Mae pethau diddorol dros ben yn digwydd gyda’r fformat.

Ond…

Dwi erioed wedi dod o hyd stori o’r fath yn y Gymraeg…

Mae ‘na fwlch enfawr yno.  Mae pethau diddorol a newydd yn digwydd yn y byd llenyddiaeth Cymraeg drwy amser, ond does neb wedi ymuno yn y maes digidiol eto…

Llynedd bu cystadleuaeth i godi ymwybyddiaeth o ffuglen ddigidol ac roedd gwobr ar gael ar gyfer ceisiadau yn y Gymraeg… oedd doedd dim cyfle i wobrwyo unrhywun. Nid oedd yna’r un ymgais Gymraeg.

Maen nhw’n trio eto eleni.  Mae galw wedi agor nawr ac yn cau ar 15fed Mawrth.

Roedd pob math o straeon yn y gystadleuaeth – enillodd How To Rob a Bank – stori sy’n cael ei hadrodd drwy edrych ar y ffôn symudol o lleidr-banc amatur pan mae’n chwilio Google, tecstio, mapio ac yn y blaen. Mae’n ardderchog sut mae stori yn adeiladu o’r pethau syml.  Un enillwr arall Bad Influences adroddodd y stori drwy blog ffug a’r sylwadau arno.

Mae cymaint o amrywiaeth yn y maes – ond diffyg Cymraeg.

Mapio stori ar Inklewriter.

Felly beth amdani?

Dyma gwpl o adnoddau i ddechrau:

InkleWriter yw fersiwn syml o’r meddalwedd oedd yn creu Sorcery! a 80 Days (Y meddalwedd ei hunan, Inky, ar gael hefyd ond mae hyn eisiau tipyn mwy o waith i ddysgu sut i’w ddefnyddio.)

Gyda Inklewriter ti’n creu stori ar-lein drwy ysgrifennu a chysylltu paragraffau. Mae rhyngwyneb yn gwneud e’n hawdd ychwanegu dewisiadau i greu llwybrau gwahanol drwy’r stori. Hefyd rwyt ti’n gallu defnyddio nodau i siecio os ydy’r darllenwr wedi ymweld â llefydd arbennig ac wedyn dangos pethau gwahanol iddyn nhw yn dibynnu ar y llwybr maen nhw wedi dilyn.

Mae ‘na ‘map’ o’r stori ar gael i help ti gadw trefn ar bethau a phan ti’n barod i rannu’r stori mae hi ar gael mewn fformat HTML, felly ti’n gallu ei lawrlwytho’n hawdd.

Dyma ryngwyneb Twine – adnabod y gyfrol ffuglen wyddonol enwog sy’n rhan o’r stori?

Un opsiwn tipyn mwy cymhleth ydy Twine sy’n dechrau gyda’r ‘map’ ac yn gadael i ti creu lincs, neu ddefnyddio’r iaith sgriptio i greu rhyngweithio cymhleth fel cadw trac ar sgôr, neu’r hyn mae’r darllenwyr wedi casglu. Ti’n gallu creu elfennau ‘random’ neu gyda phatrymau ‘os-neu-wedyn’ .  Does dim rhaid i ti wneud —- mae’n bosib defnyddio jest fel ffordd of creu stori ganghennog hefyd.   HTML yw’r fformat cwblhau yma hefyd a ti’n gallu newid sut mae’n edrych gyda thempledi sydd ar gael neu drwy dipyn o CSS.

Mae tutorials da iawn am gael am Twine a Inklewriter, a llwyth o opsiynau arall fel ChoiceScriptQuest, ac Inform sy’n datblygu’r syniadau a lefelau rhyngweithio mewn ffyrdd gwahanol.

Y syniad gorau yw trio un neu ddau ac wedyn jest dechrau ysgrifennu – am stori ganghennog falle mae Inklewriter yn haws ond does dim lot i ddewis rhwng y lleill – yr un gorau yw’r un ti wedi dysgu sut i ddefnyddio yn well!

Ond tria fe!

Mae’n ffordd wahanol o ddweud straeon ac mae’n llawn potensial.

Previous
Previous

Cerdd: Brwydr y Tafodieithoedd - Sara Louise Wheeler

Next
Next

Cerddi: Taith - Morwen Brosschot