Llên Meicro: Gaeafddydd yn Heolgerrig - Morgan Owen

I

Mae’r barrug yn gallu twyllo rhywun, a’i ystryw fwyaf yw dangos iti dy gamre yn fachgen, mor glir a phe baet yn dynn ar dy sathr dy hun ddeng mlynedd yn ôl. Ond mae’r dadlaith blynyddol yn chwyddo’r pellter o hyd.

II

Mae’r briciau bron â neidio o’r wal, mor glir yw eu gwead yng ngolau pur y bore gaeafol. Os oes un peth yn bywhau’r llygaid a’r meddwl a’u tynnu o’u rhigol arferol, bore pefriog digwmwl a’r barrug yn drwch dan draed yw hwnnw. Ac os yw’r ddaear yn rhewi a’r traed yn fferru, nid oes gwell atynfa i ddenu crwydryn na’r goedwig dryloyw grisialaidd, lle mae pelydrau llesg haul diwedd Rhagfyr yn cronni ac aflonyddu ar haenen o iâ dros bopeth fel teneuwe. Ar fore o’r fath, mae’r aer yn debycach i ddŵr nentig: aer mor glir fel y gellwch daeru bod modd ei yfed. Nid yw’r tai twt yn eu rhesi wedi deffro eto, a dim ond un simnai sy’n mygu; mae hen dai y glöwyr yn gogwyddo wysg eu hochrau tua’r dref i lawr y bryn ar wastadedd y cwm. Dim ond un borëwr sy’n mentro i’r tyle palasaidd. Gedy ei dŷ’n llechwraidd rhag tarfu ar gysgwyr y dref a distawrwydd santaidd diwedd y flwyddyn, y naill ym mreichiau melfedaidd y llall. O glustfeinio clywir uwch siffrwd yr awel y rhod yn troi, mor araf â thwf derwen. Er nad yw’r pridd yn stwyrian heddiw, mae darpar fforestydd yn breuddwydio’n las am flaendardd a blagur a daearlwyth a’r geni ar gyrraedd. Mae’r dydd yn syllu dros ael y bryn.

III

Ei fyrhoedledd sy’n ei aruchelu. Mae’r dydd ar derfyn blwyddyn yn llamwr hirgoes; yma encyd, wedyn ar garlam tua’r gorllewin dan adael golau-blodau-grug yn ôl ei draed: mae’n ffoi tu draw i’r tyle.

Previous
Previous

Stori Fer: Y Gymwynas Olaf - Lliwen Glwys

Next
Next

Llyfrau 2018: Dewisiadau’r golygyddion