Stori Fer: Y Gymwynas Olaf - Lliwen Glwys

Yn Y Stamp yn ddiweddar rydym wedi bod yn ceisio cyhoeddi rhywfaint o adladd eisteddfodau'r Ffermwyr Ifanc a gynhaliwyd yn Nhymor yr Hydref 2018. Yn ystod mis Rhagfyr cyhoeddwyd y gerdd a enillodd Gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Sir Benfro, 'Ar Fro'r Arfordir' gan Ffion Haf Williams a heddiw, braint y Stampwyr yw rhannu â'n darllenwyr y stori fer a enillodd Gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Maldwyn i Lliwen Glwys, un o aelodau Clwb Bro Ddyfi a raddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth eleni, ac sydd bellach yn gweithio o ddydd i ddydd fel Cyfieithydd. Mae'n braf iawn cael cyhoeddi ei Gwaith yma am y tro cyntaf.

Llun: Llyn Celyn, Y Bala - Hefin Owen. https://creativecommons.org/licenses/by-sa/2.0/legalcode

Y Gymwynas Olaf

Llithrodd Rowenna i siâp cartrefol sedd deithiwr yr hen Seat Ibiza glas a chlepian y drws tu ôl iddi’n dynn. Trodd ei hŵyr, Rhys, i edrych arni o sedd y gyrrwr â gwên gynnes.

“Chi’n barod i fynd, Nain?” holodd yn eiddgar.

“Am wn i,” atebodd Rowenna’n ddigyffro gan edrych yn syth yn ei blaen.

“Sda chi ddim i’w boeni amdano fe Nain,” meddai Rhys gan esmwytho ei llaw fechan yn ysgafn. Teimlai ei law fawr gadarn yn llyfn yn erbyn ei llaw fach denau a oedd yn frith o frychni haul a’r gwythiennau’n ymwthio fel nentydd llwydlas ar gefn ei llaw.

Trodd Rowenna i edrych arno â hanner gwên dynn.

“Dwi’n poeni mwy am dy ddreifio di,” tynnodd Rowenna ei goes.

“Oi, ’mond dou minor ges i ar fy mhrawf jiolch yn fowr,” chwarddodd Rhys. “Reit te, rhowch eich belt arno, ma ’da fi rygbi nes mlan heno, felly bant â ni.”

Cliciodd Rowenna ei belt yn y bwcl wrth i Rhys danio’r injan petrol swnllyd, ac ymlusgodd y car ar hyd y lôn fach lwyd tua’r gogledd. Byseddodd Rowenna’r gwregys a deimlai fel gwasgod gaeth amdani. Doedd dim troi’n ôl nawr.

Ymestynnai cefn gwlad o’u cwmpas fel hen gwilt o sgwariau euraidd, gwyrdd a brown wedi’u pwytho at ei gilydd gan wyrddni’r gwrychoedd ac wedi’u britho gan smotiau o ddefaid wrth i’r car bach wibio ar hyd y ffyrdd troellog yn llygad heulwen danbaid Gorffennaf. Codai a disgynnai’r cwilt fel tonnau enfawr ar gefnfor tawel. Roedd yna rywbeth am fynyddoedd a oedd yn hudo Rowenna – syllai arnynt yn fud, fel pe baent yn ei chyfareddu. Ymgollai yn yr olygfa odidog o’i blaen gymaint fel na sylweddolodd bod Rhys yn ceisio dal ei sylw.

“Nain? Nain?” meddai gan roi pwniad ysgafn i’w hysgwydd. “Pa ffordd ni’n mynd nawr?”

“Ymm, wel ... ym, o ...” ymbalfalodd Rowenna. Y gwirionedd oedd nad oedd Rowenna’n hollol sicr o’r ffordd bellach. Roedd cymaint o amser wedi mynd heibio ers iddi fod yno ddiwethaf, a phobman yn edrych mor wahanol.

“O dw’n i’m wir. Sgen ti’m un o’r Sat Navs ‘na?” atebodd Rowenna’n rhwystredig.

“Ma ’da fi Google Maps ar fy ffôn ond ’sdim signal ’ma,” ochneidiodd Rhys. “Nai jest dilyn fy nhrwyn ‘te.”

Trodd Rowenna’r bwlyn ar radio’r car wrth i Rhys hymian y gân oedd yn chwarae arno a drymio’r curiad gyda’i fysedd ar yr olwyn lywio.

“Oes raid i ni wrando ar y sothach ’ma?”

“Ma’r gân ’ma’n rhif dau yn y charts!”

“Grasusa! Alli di’m galw honna’n gân wir! Jest sŵn aflafar ’dio. ’Sgen ti Radio Cymru?”

Ochneidiodd Rhys yn rhwystredig a throi’r sianel.

“Sori am fod yn ffwdanus ... dwi jest isio cyrraedd. Fel dwi’n mynd yn hŷn mae gen i fwy o hiraeth am y lle,” meddai Rowenna gan edrych ar y byd yn mynd heibio drwy’r ffenestr.

Y gwirionedd oedd bod arni ofn dychwelyd yno, oherwydd gwyddai nad oedd y lle yr oedd hi’n ei gofio’n bodoli bellach. Ond roedd hi hefyd yn dyheu am fynd yno – roedd ei gwreiddiau hi’n ei thynnu hi yn ôl ac yn erfyn arni i ddychwelyd. Roedd ei henaid hi’n erfyn am heddwch.

“Wel peidiwch becso, achos fi’n credu ddylen ni gyrraedd ‘na unrhyw funud,” atebodd Rhys yn frwdfrydig.

O’r diwedd roeddent wedi cyrraedd, a daeth y car i stop. Llithrodd Rhys o’i sedd yn eiddgar a dechreuodd gerdded i gyfeiriad y cwm, ond eisteddai Rowenna fel delw yn cydio yn ei gwregys yn dynn.

“Dewch te Nain fach,” galwodd Rhys arni pan welodd ei bod hi’n eistedd yno’n fud.

Oedodd Rowenna am ennyd. Craffodd ar ei hadlewyrchiad yn y drych ystlys fel esgus i aros yn y car am ychydig eiliadau’n hirach. Sylwodd ar y crychau a gerfiai fap ei bywyd – y llinellau dan ei llygaid yn adrodd hanesion o chwerthin, o wên gynnes ac anwyldeb, a’r llinellau ar ei thalcen yn arwydd o bryderon a galar yn ymdreiddio’n ddwfn ac yn dyst ei bod wedi teithio trwy ddegawdau o galedwch yn ogystal â llawenydd. Roedd ei llygaid gleision bellach yn ddilewyrch tu ôl i’r sbectol ddu drwchus. Rhedodd ei bysedd drwy ei chyrls llwyd byr cyn cymryd anadl ddofn a datod ei gwregys. Camodd allan o’r cerbyd yn araf. Edrychodd tua’r nen â’i llygaid ynghau a gadawodd i’r heulwen gynnes anwesu ei hwyneb. Cymerodd anadl ddofn hir cyn agor ei llygaid.

“O’n i ’di disgwyl mwy o ddŵr,” meddai Rhys yn ddifater.

Roedd lefel dŵr y llyn yn is na’r arfer oherwydd y cyfnod hir o dywydd sych, ac roedd yn llonydd fel cynfas wedi’i daenu dros y cwm cudd, heb unrhyw grychdonnau i darfu ar y tangnefedd. Doedd dim sŵn heblaw murmur y traffig ar y ffordd gerllaw. Teimlai Rowenna fel petai’n cael ei diberfeddu wrth iddi syllu ar wyneb llwyd, diflas y llyn. Dyma’r peth a gladdodd ei chartref; ei chymuned; ei phlentyndod – dyma gaead clir ar dristwch hen orffennol. Edrychai’r dŵr fel drych, ac ysai Rowenna am gael taflu carreg fawr arno a’i dorri’n deilchion, fel y chwalwyd ei chymuned a’i theulu hithau.

“Fi’n teimlo fel fi’n edrych ar fynwent,” meddai Rhys. “Yw hynna’n od? Achos just llyn yw e. A ma fe’n edrych mor bert.”

Mewn gwirionedd, roedd hithau hefyd yn teimlo fel ei bod yn ymweld â bedd. Roedd yn codi ofn arni, yn ei hanesmwytho. Teimlai’n lletchwith. Safai yno’n fud yn syllu ar rywbeth a olygai gymaint iddi unwaith gydag ond ychydig gerrig ar ffurf capel i gofio amdano, yn union fel petai’n ymweld â bedd.

Sut y gallai rhywbeth a oedd mor naturiol o hardd guddio gwirionedd mor drasig?

“Mae’n hawdd anghofio bod ’sgerbydau’n pydru mewn mynwent,” atebodd Rowenna’n oeraidd.

“Ond ma fe’n edrych fel pe tai’r cwm erioed wedi bodoli,” meddai Rhys yn syn.

“Dydi’r ffaith fod rhywbeth wedi marw ddim yn golygu nad oedd y peth hwnnw’n bod,” atebodd hithau’n gadarn.

“Sut le oedd e Nain?” Holodd Rhys yn chwilfrydig. “Hoffwn i greu darlun realistig o’r gymuned ar gyfer fy aseiniad.”

“Wel, cymuned digon cyffredin. Bodlon. Fel unrhyw gymuned wledig arall. A phawb yn nabod ei gilydd gan mai dim ond deuddeg tŷ oedd yn bod yma. Ac roedd ’na ysgol a chapel wrth gwrs, a swyddfa bost. Doedd dim angen unrhyw beth arall arnom ni. Dwi’n cofio cadernid y ffriddoedd, ac enwau’r holl ffermydd ac enwau pawb oedd yn byw yno ... ond rŵan, mae’r lle ’ma mor ddieithr â phellafoedd y gofod i mi. Ac i rwbio halen yn y briw yr unig beth sydd ar ôl yw arwydd uniaith Saesneg yn atgoffa trigolion Tryweryn am eu tranc – rhag eu cywilydd nhw.”

“Gawn ni fynd i lawr at lan y llyn gan fod lefel y dŵr yn is na’r arfer? Hoffwn i weld beth sydd i’w weld yno. Os yw hynny’n iawn ’da chi?” Holodd Rhys.

“Wel ... waeth i ni ar ôl i ni deithio mor bell,” atebodd Rowenna’n anfoddog.

Ymlwybrodd Rowenna ar hyd y cerrig wrth droed y llyn yn ofalus gyda’i ffon rhag ofn iddi faglu. Roedd gweddillion gwreiddiau’r coed yn crafangu’r tir â blaenau eu bysedd esgyrnog – yn yr un modd yr oedd yr atgofion yn crafangu cof Rowenna; yn gwrthod gollwng gafael er gwaethaf grym amser. Edrychai boncyffion y perthi a estynnai o’r ddaear fel dwylo ymbilgar wrth iddi ymlusgo heibio’n wyliadwrus.

Yn sydyn, daliodd un garreg fawr ryw gan llath o’i blaen ei sylw. Dynesodd ati’n ofalus a gwelodd bod arwydd llechen wedi’i sgriwio arni â stribynnau o laid a llysnafedd llwyd arno. Byseddodd Rowenna’r ysgythriad euraidd arno.

Garnedd Lwyd

Agorwyd y llifddorau wrth i’r hen glwyfau oesol waedu unwaith eto. Eisteddodd ar y garreg yn anwesu’r arwydd oer a’i llygaid wedi’u crychu ar gau yn dynn. Teimlai ei dagrau fel llafnau metel cynnes wrth iddynt lifo i lawr ei grudd. Gwelodd Rhys ei bod yn wylo a rhuthrodd draw ati.

“Nain? Be sy’n bod? Y’ch chi ’di cal dolur?”

Oedodd Rowenna i geisio cael ei gwynt ati. Atebodd unwaith iddi ymbwyllo.

“Cartref fy Nain a fy Nhaid oedd hwn,” meddai’n dawel.

Tynnodd amlen frown o boced ei chôt a’i rhoi i Rhys. Agorodd Rhys yr amlen a thynnodd dri llun du a gwyn allan ohoni. Adnabu’r llun cyntaf yn syth – tŷ carreg cadarn ag arno’r enw ‘Garnedd Lwyd’ ar garreg fawr o’i flaen a llun o ŵr a gwraig oedrannus a merch fach rhyngddynt yn gafael yn nwylo’r ddau.

“Fi ydi honna’n fanna yli,” meddai Rowenna, ‘Fi efo Taid a Nain Garnedd Lwyd. O’n i wrth fy modd yn mynd atyn nhw am de ar ôl ysgol Sul ers talwm.’

“A llun y capel yw hwn te ie?” meddai Rhys wrth edrych ar yr ail lun.

“Ie tad, hwnna oedd y capel oedd yn ein cynnal ni trwy’r da a’r drwg. Yn fan’cw oedd o – mi weli di’r cerrig sylfaen yna heddiw gan fod lefel y dŵr wedi gostwng yn y tywydd melltigedig o boeth dan ni wedi’i gael yn ddiweddar,” eglurodd Rowenna gan bwyntio i gyfeiriad y cerrig. “Yn y Capel hwn bu i Taid a Nain a ’nhad a mam briodi ac yma ges i a Tomos ein bedyddio,” eglurodd Rowenna.

“Tomos?” Holodd Rhys yn ddryslyd.

“Ie Tomos, fy mrawd mawr i,” meddai Rowenna gan barhau i edrych i gyfeiriad y capel. “Drycha ar y llun olaf. Dyna fo Tomos yn fy ngwthio i mewn berfa fach bren,” meddai gan hanner chwerthin yn hiraethus. Edrychodd y ddau ar y llun o fachgen ifanc gwladaidd mewn cap stabl, trowsus melfaréd a chrys llewys cwta yn gwthio merch fach mewn ffrog dlos a’i gwallt wedi’i blethu fel dwy neidr yn gorwedd lawr ei hysgwyddau. Roedd y ddau’n chwerthin yn galonnog. “Dow, o’dd o’n ffeind wrtha i ac o’n i’n meddwl y byd ohono. Mi rwyt ti’n fy atgoffa i ohono’n aml cofia – dy wên di, a ti wastad mor ffeind efo fi,” meddai gan wasgu ei law.

“Beth ddigwyddodd?” gofynnodd Rhys yn betrusgar.

“Wel yr hen argae ’ma – dyna be ddigwyddodd,” meddai Rowenna’n filain. “Mi dorrodd o’i galon pan ddalltodd o fod ei gartref a’r fferm a phopeth yn mynd i gael eu boddi. Mi newidiodd ei gymeriad yn llwyr ac oedd o’n methu deall sut y byddai unrhyw un yn gallu gadael i hyn ddigwydd, ac mi ddigiodd wrth y byd.” Crynodd ei gwefus isaf wrth iddi gofio’r cyfnod poenus a thristwch colli brwydr y boddi.

“Fi ffeindiodd o,” meddai toc, “Fi ffeindiodd o, ond o’n i’n rhy hwyr.” Llifai dagrau oesol i lawr ei gruddiau. “Damwain oedd o medde nhw, ond dwi’n gwbod nad damwain oedd o.”

Agorodd ei bag llaw, yna agorodd sip i adran fach y tu mewn i’r bag a thynnodd hen, hen amlen frown fechan allan yn dyner ac yn ofalus.

“Darllena fo,” meddai Rowenna gan roi’r amlen i Rhys. Gwelai Rhys mai ysgrifen plentyn oedd ar yr amlen gyda’r gair ‘Rowenna’ wedi’i ysgrifennu arno. Agorodd yr amlen fregus yn ofalus a darllenodd y llythyr yn uchel.

“Annwyl Rowenna fach fi ...” dechreuodd cyn i Rowenna dorri ar ei draws.

“Ooo ‘Rowenna fach fi’ fyddai o’n fy ngalw i pan fyddai o eisiau rhywbeth,” meddai Rowenna’n hiraethus.

“Annwyl Rowenna fach fi, Dwi mor sori bod fi’n gadael ti ar ôl, ond os na chaf i fyw yma dydw i ddim eisiau byw yn nunlle. Dwi isio cael fy nghladdu yma cyn y boddi fel fy mod i’n rhan o’r cwm am byth. Plis paid â deud wrth neb yn enwedig dad a mam - mi fasa nhw mor flin efo fi tasen nhw’n gwybod y gwir. Mi fydd pawb yn meddwl mai damwain oedd o, ond dwi isio i ti wybod y gwir. Mi wnes i ddewis gwneud hyn. Un diwrnod, pan fyddi di’n hŷn, mi gei di ddeud wrth rywun ti’n ei drystio, ond tan hynny, ein cyfrinach fach ni fydd hon. Cofion annwyl am byth, Tomos.” Aeth llais Rhys yn dawel wrth iddo orffen darllen y llythyr.

“O Nain druan,” meddai gan afael ynddi’n dynn. “Ych chi wedi bod yn cario’r gyfrinach hon ’da chi ar hyd y blynydde?’

Nodiodd Rowenna ei phen yn araf. “Strychnine. Dyna laddodd o. Oedd o wedi dod ar ei draws o’n ‘ddamweiniol’ yn sied fy nhad – dim ond maint blaen dy fys sydd ei angen i dy ladd di mae’n debyg. Ond o’n i’n gwybod nad damwain oedd hi, ac mi addawes i na fyddwn i’n yngan gair wrth neb hyd un diwrnod pan fyddwn i’n hŷn ac am ddweud wrth rywun dwi’n ei drystio –- a heddiw yw'r diwrnod hwnnw ...” eglurodd.

“A fi yw'r un chi’n ei drystio,” gorffennodd Rhys ei brawddeg.

“Dwi am iti wneud un gymwynas arall imi,” meddai Rowenna, “Dwi am iti fynd at y capel fan’cw a dwi am iti daflu’r llythyr yna cyn belled ag y galli di i’r llyn.”

“Ych chi’n siŵr bo chi am imi wneud hynny? Hwn yw’r peth olaf gawsoch chi gan Tomos ...” protestiodd Rhys.

“Tafla fo!” gorchmynnodd Rowenna. “Mi fydd ei gyfrinach o’n saff am byth os tefli di’r llythyr na i’r cwm islaw – fydd ddim rhaid i neb wybod heblaw amdanat ti a minna.”

Cerddodd Rhys yn betrusgar at y capel ac edrychodd yn ôl ar ei Nain gan wneud ystum arni.

“Fan hyn yn iawn?” galwodd arni.

“Perffaith!” atebodd Rowenna.

Plygodd Rhys y llythyr yn ofalus yn ôl yn yr amlen ac ychwanegodd ychydig o gerrig er mwyn cael pwysau ynddi i’w gorfodi i suddo, yna fe’i taflodd gyda’i holl egni i’r dŵr llonydd, llwyd.

Gwyliodd y ddau'r llythyr yn suddo’n araf i lawr i ddyfnderoedd y llyn. Gwenodd Rowenna trwy ei dagrau a rhoddodd ochenaid o ryddhad. Llwyddodd i gyflawni’r gymwynas olaf i’w brawd.

“Awn ni am adre?” gofynnodd Rhys ar ôl rhai munudau o dawelwch, a throdd y ddau ar eu sawdl ac ymlwybro’n ôl at y car.

Ar y siwrnai am adref, pwysodd Rowenna ei phen yn erbyn y ffenestr wydr oer a gwylio’r coed a’r mynyddoedd a’r awyr yn llifo i’w gilydd yn un stribyn o wyrdd a brown a glas wrth i’r car bach wibio’n ôl i’r de. Caeodd ei llygaid a gollwng ochenaid. Teimlai heddwch. Nid oedd yn rhaid iddi gario’r baich rhagor. Ymlaciodd ei chyhyrau a suddodd yn ddyfnach i’r sedd deithiwr, a llithrodd i gwsg wrth i lais persain adleisio ar y radio:

Colli tir a cholli tyddyn,

Colli Elan a Thryweryn,

Colli Claerwen a Llanwddyn,

A’r wlad i gyd dan ddŵr llyn …

Previous
Previous

bob dydd, bob dydd, darluniaf _______ bob dydd - Esyllt Lewis

Next
Next

Llên Meicro: Gaeafddydd yn Heolgerrig - Morgan Owen