Stori fer: Gweledigaeth Bedwyr - Dyfan Lewis

Dechrau hanes hirach mewn dyfodol dychmygol sydd â gorffennol gwahanol i’n presennol ni.

Daeth sŵn o'r gwyll. Un o'r synau hynny oedd yn ddigon i frawychu pan fo golau dydd ar fin pallu, a synau a sïon eraill wedi bod yn hel am fall yn y goedwig.

Rhoddodd Bedwyr ei law ar y gwayw gan wrando'n astud ac astudio’r bylchau rhwng y coed, cyn gweld rhywbeth wnaeth leddfu’r braw.

"Rhagor o wiwerod" dywedodd wrtho’i hun. Rhoddodd y gwayw i gadw a rhedeg ei fys a'i fawd drwy’i drawswch.

Roeddent wedi bod yn cyrraedd yn ddi-baid, y wiwerod, ac yn creu hafoc o fewn muriau Cadair Arthur; yn brathu trwy wifrau ac yn torri tyrbeini a phaneli ym mhobman.

Doedd dim dal pam eu bod yn ymddwyn mor rhyfedd. Mae'n rhaid eu bod nhw wedi dechrau cyrraedd yn eu degau ers rhyw fis. Peth digrif oedd i ddechrau, y stori ar ddiwedd y bwletin newyddion, gyda’r gohebydd yn hanner cuddio chwarddiad. Ond aeth y jôc yn sur yn gyflym. Erbyn hyn roedd cannoedd, miloedd yng Nghadair Arthur yn benderfynol o ddifrodi cymaint o'r isadeiledd trydanol ag oedd yn bosib.

Roedd Bedwyr wedi gadael y ddinas ac hedfan yn y golennydd tuag at y wlad y bore hwnnw, yn canlyn rhai o’r straeon oedd wedi cyrraedd Cadair Arthur o’r eithafion. Roedd yn mwynhau bod yno, ymysg y gwyrddni a’r cnydau, doedd gan bobl y wlad ddim o’r un natur ddrwgdybus â phobl y ddinas. Roeddent yn barod eu cymwynas, eisiau darparu te a chac.

Aeth i archwilio'r golennydd rhag ofn bod un o’r creaduriaid bach wedi ceisio difrodi'r peirianwaith y tu fewn. Darganfyddodd un yn ceisio gwasgu rhwng dau blât metel yr aden, a’i afael a'i dynnu oddi yno. Astudiodd y wiwer, roedd yn ofnus yn amlwg, ond nid oedd ei lygaid yn goch na'i geg yn pefrio. Doedd dim golwg ei fod wedi’i lygru.

Byddai'n rhaid bod yn sicr, ac astudio’r anifail yn iawn yn y labordy. Rhoddodd i mewn i'r gawell yng nghefn y golennydd gyda thocyn o fara a disgyl o ddŵr ac anghofio amdano am ennyd.

Edrychodd ar yr haul eto. Byddai digon yn y golennydd i'w gludo yn ôl i Gadair Arthur, roedd yn sicr o hynny, ond byddai rhaid hedfan yn araf heb haul i'w wefru, ac roedd llu o broblemau eraill yn codi gyda’r tywyllwch.

Rhyfedd oedd yr hanesion am y lle, straeon am ryw symudiadau od yn y goedwig, y ffermwyr cyfagos wedi bod yn gweld goleuadau a chlywed synau o’r coed oedd yn brawychu eu praidd. Ar dir un ohonynt oedd Bedwyr nawr, Deio Endaf. Roedd yntau’n eiddo ar rannau o’r tir oedd yn ymylu a’r coed.

“Tua’r amser mae’n nosi ma’i weitha” Dywedodd Deio dros baned a chacen. “Dyna pryd mae’i glywed yn agosa te. S’neb yn ddigon dwl na dewr i weld beth yw e. Odd y’n nhaid arfer sôn am hen greaduriaid yn y coed, am Dochledus, y sawl oedd yn bwyta eneidiau. Ond ro’n i wastad yn meddwl mai straeon i godi ofn ar blant odd rheiny. Beth bynnag yw e, mae’n annaturiol.”

“A’r wiwerod?”

“Ma nhw’n bla. Wel dim jyst wiwerod, ma na anifeiliaid erill hefyd, fel tase’r goedwig yn cael ei gwagio o'r tu fewn. Ma nhw ’di bod yn byta’r cnydau i gyd ac yn codi digon o dwrw i godi braw ar y defed. Ond dim ond y wiwerod sy’n mynd at y peirianne a’u rheibio. Ma’r lleill yn rhedeg i ffwrdd yn hytrach nag ymosod, ond y peth rhyfedd wedyn yw bod y wiwerod ond yn ymosod pan fo’r dyfeisiau'n segur. Wrth gwrs ma nhw gyd yn rhacs erbyn hyn. Ma’n rhemp ’ma.”

Amneidiodd Bedwyr, a chynigodd fynd i drwsio'r hyn a fedrai o’r peiriannau. Roedd y ffermwyr yn beirianwyr heb eu hail ac yn deall eu cerbydau a'u hoffer, ond roedd cael y darnau angenrheidiol yn dalcen caled iddyn nhw. Gwnaeth Bedwyr addewid i ddychwelyd unwaith eto gyda rhagor o ddarnau, fel diolch am eu croeso.

Yn hwyrach, dyma Bedwyr yn gadael yn ei olennydd at ffin y goedwig er mwyn disgwyl mewn hanner ofn i weld beth oedd sail yr holl hanesion. Ac er ei fod yn ymwneud unwaith eto gyda’r dieithr a’r drwg, diolchodd o fod medru mwynhau machlud y wlad, y golau euraid sy’n taro caeau ŷd a chreu melfed. Roedd hi am fod yn noson fwyn, a phwysodd Bedwyr yn erbyn corff y golennydd, ei got wedi’i chau, paned arall yn ei law.

Doedd hi ddim yn hir nes iddo glywed y synau. Rhai mecanyddol, annynol, annaturiol fel dywedodd Deio. Roeddent yn rhai anghyfarwydd i Bedwyr. Wrth gwrs roedden nhw’n anghyfarwydd i bawb, doedd neb wedi clywed synau tebyg mewn hanner mileniwm, ond doedd Bedwyr ddim i wybod hynny. Doedd e ddim i wybod beth oedd am ddigwydd iddo’r noson honno.

Tawelodd y synau eto ac aeth llaw Bedwyr at y gwayw. Gwrandawodd ond daeth dim un smic. Roedd y defaid yn y cae’n rhy ofnus i frefu dim, a’r awel yn cario melyster prynhawn Awst i’w drwyn.

Daeth fflach o olau nid llai na hanner can metr o du fewn i’r coed, a synau eto.

Ceisiodd Bedwyr dynnu’r gwayw a’i anelu, ond roedd wastad wedi bod yn araf wrth symud ei law ac roedd e’n llawer rhy araf nawr pan oedd angen y gwayw. Daeth y rhuo a’r golau yn agosach a gwelodd Bedwyr adlewyrchiad y machlud ar fetel.

"Arthur Annwyl" ebychodd. Ac ni welodd dim rhagor.

Previous
Previous

Rhestr ddarllen: Darllen yr Argyfwng Hinsawdd - Aelodau XR Cymru

Next
Next

Celf: Catrin Menai