Adolygiad: Gwythienne Copr - Ceri Rhys Matthews ac Elsa Davies

Gwythienne Copr – Ceri Rhys Matthews (ffliwt) ac Elsa Davies (ffidil)

Oriel a Chaffi Croesor, 27.04.19

Dociau a phont reilffordd Abertawe, c. 1850 (ysgythriad Newman & Co., Llundain)

Mae perfformio fel un o ddeuawd yn grefft hynod. Tra bod y perfformiwr unigol yn gyfryngwr mynegiant iddo ef ei hun yn unig, a thrwy hynny yn rheoli ei berfformiad ac yn cuddio’i wendidau ei hun, a’r perfformiad torfol yn dod wedi ei glogynnu yn holl sicrwydd a hyder ei niferoedd; lle nad oes ond dau mae’n rhaid i’r perfformwyr fod o’r un anian ac â’r un syniadau, yn cyd-anadlu ac yn rhagweld, a thrwy hynny yn cyfannu’r uned sydd rhyngddynt. Felly Ceri Rhys Matthews ac Elsa Davies.

'Gwythienne Copr' oedd teitl y perfformiad, a dilyn rhai o’r gwythiennau hynny yn naeareg Cymru wnaeth y ddau ar eu taith hefyd; yng Nghroesor ac Amlwch, lle bu’r werin bobl yn rhewi wrth eu gwaith yn cloddio’r copor amrwd o’r ddaear, ac yn ninas Abertawe, lle bu eu cefndryd yn crino yn y ffwrneisi wrth ei smeltio. O’r un gwythiennau y mae’r ddeuawd hon yn casglu alawon, lleisiau, a hanesion; ac yn eu smeltio hwythau’n fwy na geiriau, yn ddarlun secioddaearyddol o ddiwydiant, a’r gymdeithas a’r bywyd a ddaw yn ei sgil i bob man.

Gyda chymorth ffidil a ffliwt, ac ambell ddrôn isel o’r shruti box, llwyddwyd i gymryd y raw booze, craig fudur yr alawon amrwd, a’u troi yn rhywbeth a oedd yn dweud mwy nac enwau’r strydoedd a roddwyd arnynt; yn hytrach yn gwneud i ni glywed sŵn lleisiau’r bobl oedd yn byw yn y tai teras bach oedd yn bentyrrau am ei gilydd. Yn jolihoetian anghyfarwydd yr alawon dawns three-two roedd fflach gynnau dawnsio’n gwibio heibio, traed mewn sliperi sidan yn sibrwd hyd y teils, a rhywun oedd yn neb ond eto’n bawb yn marw yn y ffwrnais i gyfeiliant sŵn chwerthin a chlincian gwydrau. A’r cyfan yn mapio cymuned, yn taenu pobl a lleisiau a bywydau ar gynfas, ac yn mynd at graidd yr obsesiwn sydd gan ddyn am wneud tyllau yn y ddaear i weld be wela fo.

Previous
Previous

Cyfweliad: Celf Mwydyn y Glust - Freya Dooley

Next
Next

Adolygiad: ‘Squatters’ Castell Coch