Adolygiad: Haul - Adwaith

Peth digon prin yn y sîn Gymraeg yw dod ar draws band o ferched yn unig, felly diolch byth fod Adwaith wedi camu i’r bwlch amlwg hwnnw, a gwneud hynny’n dda! Cân syml ddigon yw ‘Haul’, eu sengl ddiweddaraf o dan adain Decidedly Records, y label newydd sbon a chyffrous iawn o Gaerfyrddin sydd hefyd wedi rhyddhau senglau cryf gan ARGRPH a Hotel del Salto yn ddiweddar. Mae’n gân serch sy’n dod â mymryn o’r haf atom ni yng nghanol mis Chwefror, ac mae hynny yn ei hun i’w ganmol!

Mae’r offeryniaeth yn syml ond yn gadarn ac effeithiol, ac mae’r cyfuniad o offerynnau (gitâr acwstig, mandolin, bàs, a drymiau) yn gweddu’n berffaith i’r naws gwerin-pop ysgafn. Er hyn, arf mwyaf pwerus y pedwarawd o Gaerfyrddin yw eu lleisiau, sy’n asio’n berffaith i’w gilydd. Mae’r darn byr rhwng y ddwy gytgan olaf yn dangos dawn a rheolaeth leisiadol llwyr.

Llwyddwyd i beidio â cholli’r ymdeimlad o brofiad byw wrth recordio, rhywbeth sydd i’w ganmol yn arw. Mae’n hawdd iawn i fand fynd i fewn i’r stiwdio, gwirioni ar yr holl dechnoleg, a chreu rhywbeth sy’n gallu swnio’n ffug iawn neu yn dra gwahanol i’r hyn y gellir ei ddisgwyl mewn gig byw.

Un feirniadaeth ar ‘Haul’ efallai yw y gallai’r geiriau fod fymryn cryfach. Mae llinellau fel ‘er fod y gaeaf yn Gorffennaf’ yn taro fymryn yn chwithig i mi, ac o ran ystyr, yn ddiangen, efallai. Wedi dweud hynny, mae anwyldeb pur yn perthyn i linell fel ‘o’n i’n caru ti shwd gymaint o’dd e’n blentynaidd.’ Dim ond mân gŵyn am gân dda iawn yw hyn beth bynnag, ac rwy’n ffyddiog y gwnaiff dawn y band i drin geiriau ddatblygu ac aeddfedu gydag amser.

Mae gwerin a phop yn ymblethu’n naturiol â’r lleisiau benywaidd gyda’u harmonïau tyn i greu sŵn sy’n wahanol i unrhyw beth y galla i feddwl amdano yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd. Mi fyddai’n wych gweld Adwaith yn symud ymlaen i recordio EP neu albym hyd yn oed yn y dyfodol agos, ac os yw ‘Haul’ yn fesur teg o’u dawn mi fyddai hynny’n rywbeth i edrych ymlaen ato.

Previous
Previous

Rhestr Ddarllen: 10 Nofel Arabeg - Asim Qurashi

Next
Next

Cerdd: Cariad na fu na fydd - Hynek Janoušek