Rhestr Ddarllen: 10 Nofel Arabeg - Asim Qurashi

Dyma’r cyntaf mewn cyfres newydd o restrau darllen gan Y Stamp, sef rhestrau o lyfrau ar thema benodol, wedi eu casglu gan bobol wybodus yn eu maes. Yr wythnos hon rydym wedi estyn gwahoddiad i Asim Qurashi o Sudan, myfyriwr ôl-radd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe i gyflwyno i ni ei ddewis o ddeg o nofelau Arabeg:

Dyna gyfrifoldeb ydi cyflwyno eich llenyddiaeth i gynulleidfa gwbl ddiarth – a hynny mewn dim ond deg nofel! Y benbleth fawr wrth geisio dewis a dethol oedd hyn: a ddylwn i ddewis y deg sy’n cael eu hystyried fel y goreuon yn y byd Arabeg; yntau ddewis y deg cyfieithiad gorau? A chyfieithiad yw’r gair allweddol yma. Oherwydd gellid gofyn pam peidio â dewis deg nofel a ysgrifennwyd gan Arabiaid yn Saesneg? Byddai honno wedi bod yn restr hollol wahanol, o ran awduron a chynnwys, a hynny yn bennaf oll am na ysgrifennwyd y nofelau hynny ar gyfer cynulleidfa Arabeg. Cyfrolau ar gyfer cynulleidfa Arabeg eu hiaith yw’r deg a ddewiswyd yma. Ysgrifennwyd nhw mewn Arabeg, gan awduron Arabeg ar gyfer cynulleidfa Arabeg. Mae nhw’n deillio o hanes a diwylliant y byd Arabeg, a cynhwysant themâu yn ymwneud â threfedigaethedd, syniadau am gyfiawnder cymdeithasol, a ffydd. Ac wrth gwrs, themâu oesol o alltudiaeth a cholli tir.

Ond pam mynd ati i ddarllen nofelau Arabaidd o gwbl?  Ystyrir y Gymraeg a’r Arabeg gan eu cyfryw bobloedd fel ieithoedd barddonol, ffonetig, ond yn anffodus i chi sy’n methu siarad Arabeg, wnaiff y cyfieithiadau hyn ddim dod a chi ddim agosach at gael mwynhau llên yr iaith hardd hon a’i rhythmau a’i hodlau. Ond arhoswch: rydw i yn siaradwr Arabeg a ddarllenodd gyfieithiad o Un Nos Ola Leuad (Caradog Pritchard) yn ddiweddar. Llwyddodd y llyfr hwn, llyfr a wreiddiwyd mor ddwfn yn niwylliant, hanes, a gwleidyddiaeth Cymru, i ennyn ymateb oedd yn wirioneddol gorfforol oddi mewn i mi, a hynny am y tro cyntaf wrth ddarllen nofel mewn iaith heblaw fy mamiaith. A doedd wnelo hynny ddim o gwbwl efo’r iaith a ddefnyddiwyd – yn hytrach, roeddwn yn ymateb i’r perthnasau, y cariad, yr ofn, y lleoliad, y tirwedd, y tlodi, a’r salwch, a’r union bethau hynny sy’n fy ysgogi a’m siglo wrth ddarllen campweithiau yn fy mamiaith.  Felly, dyma pam y gobeithiaf y bydd y rhestr hwn yn rhoi cyfle i chi gael profiad tebyg efo llenyddiaeth fy niwylliant i.  

1. The Cairo Trilogy: Palace Walk, Palace of Desire, Sugar Street gan Naguib Mahfouz (1956-57)
Dyma brif waith Naguib Mahfouz, a ystyrir yn un o brif awduron Arabeg y byd. Ac, ydi pethau felly yn golygu unrhyw beth i chi, dyma enillydd yr unig Nobelsan lenyddol i ddod i’r byd Arabeg. Mae’r drioleg hon yn portreadu teulu Eifftaidd yn ystod y cyfnod trefedigaethol, gan ddisgrifio deinameg y bywyd teuluol. Mae’n drioleg hir, ond werth yr ymdrech. Os ddarllenwch chi unrhyw beth oddi ar y rhestr yma, dwi’n awgrymu i chi ddewis y rhain.

2. The Days gan Taha Hussein (1935)
Galwyd Hussein yn feistr yr iaith Arabeg. Dyma hunangofiant plentyn dall, sy’n tyfu i fod yn un o brif lenorion ei wlad. Stori serch a phortread byw o driniaeth cymdeithas o unigolion ac anableddau.

3. Om Hashem’s Lantern gan Yahya Haqqi (1944)
Wedi ei gosod yn y flwyddyn 1920 yn un o gymdogaethau hynaf Cairo, yn y nofel hon dilynwn fyfyriwr sy’n mynd i Ferlin i astudio meddyginiaeth a chwrdd â merch hardd. Mae ei gartref yng Nghairo wedi lleoli yn ardal y Santes Zainab, a pan ddychwela o’r Almaen, darganfyddo fod ei gleifion yn cael eu dallu gan yr olew a offrymir ar gofeb y santes. Mae’n brwydro i chwalu yr hen gredoau dinistriol, er mwyn dod â gwyddoniaeth a moderniaeth i oleuo eu bywydau.

4. Beirut Nightmares gan Ghada Alsamman (1976)
Nofel wedi ei lleoli yng nghyfnod y rhyfel cartref Libanaidd Cyntaf. Daw’r awdur o Syria, ac ydi, y mae hi’n awdur benywaidd. Mae’r gyfrol yn cynnwys 160 o hunllefau a’r cyfan yn fywgraffiadol (ond nid yn hunan-fywgraffiadol).

5. Utopia gan Ahmed Khalid Towfig (2008)
Mae hon wedi ei gosod yn y flwyddyn 2023 a gwelwn ddwy fersiwn gwahanol o’r Aifft yn y flwyddyn honno – un yn berffaith, hardd a chyfiawn, yr arall yn greulon, tywyll ac anghyfiawn. Fel Wythnos yng Nghymru fydd, ond efo mwy o byramidiau. Ystyrir fel nofel wyddonias, ac er nad yw gwyddonias yn genre poblogaidd yn y byd Arabeg, y mae’r awdur hwn yn torri cwys dros y genre a dyma’i gampwaith yn ôl nifer.

6. Azazeel gan Youssef Zeidan (2008)
Yn y bumed ganrif roedd yna fynach Cristnogol o’r enw Hippa yn byw yn yr Aifft, a ysgrifennodd rhyw fath o destun bywgraffiadol mewn Syriac (iaith hynafol o ardal Syia). Dyma gyfieithiad o’r testun hwn, wedi ei ymblethu â elfennau ffuglenol.

7. The Wedding of Zein gan Tayeb Salih (1962):
Mae’r nofel hon yn chwaer fach llai enwog i nofel fawr arall Tayeb Saleh, sef Season of Migration to the North. Yn y nofel lai adnabyddus hon, cawn ein cyflwyno i fywyd pentrefol yn Sudan, a hanes Zein, dyn ifanc sydd ag anableddau dysgu a gaiff ei lusgo mewn i briodas. Mi chwerthwch ac fel griwch, weithiau ar yr un pryd.

8. Men in the Sun gan Ghassan Kanafani (1963)
1948; Trychineb Palasteina. Cawn hanes aelodau o bedair cenhedlaeth, a’u gwahanol ddulliau o ymdopi â gormes ac alltudiaeth yn dilyn y chwalfa fawr.

9. Zat gan Sonallah Ibrahim (1992)
Hanes bywyd merch Eifftaidd yw hon, o’i phlentyndod hyd at henaint. Y mae Zat yn symbol o’i chenedl, ac ymgnawdoliad o’r newidiadau cymdeithasol, crefyddol, gwleidyddol ac economaidd yn Aifft yr 20ed ganrif.

10. The Animists gan Ibrahim A-lkouni (1990)
Ystyr Animist yw person sy’n addoli tan. Nofel athronyddol yw hon, a ceir hanes adeiladu dinas Iwtopaidd, neu’r ardd cyn y cwymp, a sut daw pechod mewn trwy ei phyrth. Does dim dianc rhag y diffeithdir yn y nofel hon.

Nodiadau:

Dewiswyd y goreuon gan ddibynnu ar ba gyfieithiadau oedd ar gael- mae rhai nofelau yr hoffwn fod wedi eu cynnwys nad oedd cyfieithiad ar gael. Nofelau modern ydynt i gyd, gyda dwy o’r unfed ganrif ar hugain a’r gweddill yn dyddio nol mwy na 30 o flynyddoedd.

(Cyfieithwyd gan Grug Muse)

Previous
Previous

Dathlu: Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2017

Next
Next

Adolygiad: Haul - Adwaith