Cerdyn Post Creadigol: Klagenfurt - Elin Wyn Erfyl Jones

Dyma gerdyn post arall wedi’n cyrraedd!

Dwi newydd orffen tymor yn gweithio fel cynorthwyydd iaith ar gyfer y Cyngor Prydeinig, lle bues i’n dysgu Saesneg mewn dwy ysgol uwchradd yn Klagenfurt, Awstria.

Er gymaint nes i fwynhau y profiad, dwi o hyd yn gweld hi’n rhwystredig gorfod esbonio sut mae Cymru yn wahanol i Loegr pan dwi’n symud i rhywle newydd. Roedd athrawon, cymdogion a rhai o fy nghyd-gynorthwywyr iaith yn holi o ble roeddwn i’n dod – ac roeddwn i’n ateb Cymru. Yr ateb rhanamlaf oedd “Oh England” neu “Ah yes, I’ve been to London before”.

Ar ddechra’r tymor ges i’r cyfle i gyflwyno fy hyn felly gwnes i’n siwr fy mod yn sôn lot am Gymru – a nes i barhau i wneud ar bob cyfle o ni’n gael. Gobeithio bod y disgyblion (a’r athrawon!) bellach yn deall bod yna wahaniaeth mawr.

Y peth cynta’ o ni’n ofyn i bob dosbarth oedd, ‘be ‘da chi’n ei wybod am Gymru?’ a’r ateb bob tro (digon posib am fod un o’r ysgolion o ni’n gweithio ynddi yn ysgol chwaraeon) oedd “football”, “Bale”, “Euros” a.y.y.b. Yn amlwg o ni’n sylweddoli bod llwyddiant Cymru yn yr Euros wedi creu argraff mawr adra ond doeddwn i heb sylweddoli pa mor bwysig oedd o wedi bod i Gymru gan gadarhanu bo ni’n wahanol i Loegr yn llygaid gwledydd eraill Ewrop. Roedd pêl droed yn ffordd wych o gylfwyno angerdd y Cymry, ein gwladgarwch a’n balchder. Roedd un o’r athrawon yn gegrwth ar ôl i mi chwarae fideo or Hen Wlad Fy Nhadau ar Youtube. Gobeithio bod fy ngherdd gyntaf yn egluro sut ydwi’n teimlo am dîm pêldroed Cymru erbyn hyn.

Dyfyniad o fy hoff gerdd gan y bardd Ingeborg Bachmann (o Klagenfurt) sydd nesa, gan bod un o’r ysgolion lle o ni’n dysgu wedi’w enwi ar ei hôl.

Wnes i ‘sgwennu fy ail gerdd – Klagenfurt – ar fy niwrnod olaf yno. Mae dau le yn cael ei enwi yn y gerdd sef y Lendkanal  sef afon o ni’n groesi bob dydd ar fy ffordd i’r ysgol, a’r Wörthersee sef y llyn mawr mae’r dref wrth ymyl – un o fy hoff lefydd yn y byd i gyd. Ar fy noson olaf yn Awstria nes i fynd i weld yr haul yn machlud dros y llyn. Roedd gweld y rhew ar y llyn wedi cracio ac yn dechra toddi fel arwydd bod hi’n amser i mi symud ymlaen – ond dwi am golli Klagenfurt, a’r bobl nes i gyfarfod yno, yn fawr iawn.

Bis bald (tan yn fuan),

Elin

Lawrlwythwch cerdyn post creadigol Elin drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Cerdyn Post Creadigol Awstria Elin

Previous
Previous

Ysgrif: Llefydd Symudol - Morgan Owen

Next
Next

Dathlu: Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2017