Cerdd: Mynydd Beili Glas - Nerys Bowen

‘Beili Glas’ yw enw’r lle, ond hefyd
‘Gwlad y Cewri Gwynion Gwyrddion’,
sy’n chwifio’u breichiau, torri’r cynfyd,
Torri’r nennau â sŵn anunion.
Yn llarpio’r awyr â’u cyllyll llym,
a boddi cân adar o filltiroedd,
yn estyn i’r pellter, a heb awgrym
o ymddiheuriad i’r hen gymoedd.
Tarfwyd y pridd sydd yn eu cwmpasu,
anadla du ei hen drysor cudd
Sigla fflora’r tir wedi’i grasu
yn nghwynt eu gwarchodwyr, ymhlith y nudd.
Gwyn yw’r du newydd hyd a lled y cwm,
yn creu egni gwyrdd, nid diwydiant trwm.

Previous
Previous

Cerdd: Nant y Pysgod - Sara Borda Green

Next
Next

Rhestr Ddarllen: Concrit - Efa Lois