Rhestr Ddarllen: Concrit - Efa Lois

Yn ei lyfr ‘ Raw Concrete’, mae Barnabas Calder yn dweud bod Briwtaliaeth yn dioddef o statws deuol pensaernïaeth. Mae pensaernïaeth ym mhobman, a chaiff ei defnyddio gan bawb, ond ymhlith y prif gelfyddydau, hi yw’r un a ddeellir leiaf…. Aiff ymlaen i egluro mai Briwtaliaeth yw’r arddull bensaernïol a gaiff ei hystradebu fwyaf.

Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r term Briwtaliaeth, neu ‘Brutalism’, mae’n debyg eich bod yn gyfarwydd â’r arddull bensaernïol hon: yr adeiladau concrit o’r 60au a’r 70au sydd bellach yn cofnodi amser mewn ystaeniau ar ei ffasadau – Briwtaliaeth yw’r rhain.

Gan mai peth gweledol yw pensaernïaeth (ar yr olwg gyntaf), mae gen i ddwy restr – rhestr o bum llyfr am Friwtaliaeth, a rhestr o bum adeilad Briwtalaidd y gallwch chi ymweld â nhw yng Nghymru.

Y Llyfrau

1) Raw Concrete – Barnabas Calder

Mae hwn yn llyfr hollol wych i’r rheini ohonoch sydd am wybod mwy am Friwtaliaeth. Ceir yma benodau am hanes Briwtaliaeth; Briwtaliaeth Eiconig Llundain, Y Trellick, Y Balfron a’r Barbican, a phennod am waith Denys Lasdun yn Rhydychen.

Uchafbwynt y llyfr yw pennod gyfan am gampwaith pensaernïaeth Briwtalaidd – Y Theatr Genedlaethol yn Llundain (enw’r pennod yw ‘A Concrete Violin’). Yma cawn hanes manwl dyluniad yr adeilad, y broses o’i adeiladu, a disgrifiadau hyfryd o’r profiad o fod yn yr adeilad gorffenedig.

2) Brutalism: Post-War British Architecture – Alexander Clement

Ceir llawer o wybodaeth yn y llyfr hwn am Friwtaliaeth – y mathau o goncrit y gellir eu cael; cyd-destun hanesyddol Briwtaliaeth; disgrifiadau o waith Lasdun, Alison a Peter Smithson, Ernö Goldfinger, a James Stirling; yn ogystal â phennod hynod ddiddorol am ‘Bensaernïaeth Eglwysig’.

Ceir disgrifiad manwl o hanes yr Eglwys Gadeiriol Gatholig yn Lerpwl – neu ‘Paddy’s Wigwam’ fel y caiff ei galw yma weithiau. Egin syniad yr adeilad oedd adeiladu Eglwys Gatholig fwya’r byd, a dywedodd rhai y byddai hi’n fwy na’r Fatican yn Rhufain.

Wedi’r Ail Ryfel Byd, marwolaeth y pensaer Edwin Lutyens, ac wrth i gostau amcangyfrifedig y prosiect godi i £17,000,000 (£3,000,000 oedd y cyllideb gwreiddiol) cefnwyd ar y cynllun. Crypt Lutyens yw’r unig ran o’r cynllun gwreiddiol sydd yn dal i’w weld heddiw.

Ffurfiwyd Eglwys newydd o grombil yr hen ddyluniad, a chrëwyd Eglwys Frederick Gibberd, sef yr un y gallwch ei gweld ar ben Hope St heddiw.

3) CLOG : Brutalism

Mae hon yn gyfrol hynod ddiddorol a ddarganfûm yn Llyfrgell Sydney Jones,  Prifysgol Lerpwl (dywed rhai mai adeilad Briwtalaidd yw hwn hefyd.) Mae CLOG yn gyfrol ryngwladol sy’n ceisio cywain cymaint o safbwyntiau ag y gellir ar un pwnc ym mhob cyfrol. Yn mis Mehefin 2013, Briwtaliaeth oedd ffocws y gyfrol.

Ceir yma erthyglau am Friwtaliaeth o’r ‘Architectural Review’ o fis Rhagfyr 1955, erthyglau’n trafod y gyfrol ‘The New Brutalism’, erthygl a elwir ‘The Future Circa 1970’, ychydig am ‘Habitat 67’, ac erthygl am Friwtaliaeth yn Tseina.

Ceir disgrifiad diddorol gan Jack Self yn ei ddarn ‘The Morality of Concrete’; ‘Blagurodd Briwtaliaeth ym Mhrydain pan gafodd y drefn gymdeithasol wedi’r rhyfel ei hail-ddiffinio; o ganlyniad i ryfel di-arbed, fe unwyd Prydain gan ymdeimlad o farwolaeth a dynoliaeth gyffredin.  Roedd graddfra’r dinistr yn aruthrol, a daeth Briwtaliaeth i’r amlwg fel modd i’r wladwriaeth ail-adeiladu’.

Os ydych chi’n un sy’n ymddiddori mewn adfeilion, neu adeiladau sydd wedi eu gadael i fynd yn adfeiliedig, mae yna erthygl fer ar Athrofa Saint Pedr yn Cardross yn yr Alban hefyd, sy’n safle hynod ddiddorol.

4) The New Brutalism: Ethic or Aesthetic? – Reyner Banham

Mae’n bosib mai hwn yw’r llyfr enwocaf ar ‘Friwtaliaeth’. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn 1966,  ffocysir ar ‘Friwtaliaeth Newydd’, gan edrych yn benodol ar ddaliadau Alison a Peter Smithson, James Stirling a Denis Lasdun.  Ceir hefyd yma gyfeiriadau at Alvar Alto, Le Corbusier a Frank Lloyd Wright.

Ceir llawer o luniau yn  y llyfr hwn, yn ogystal â chynlluniau sawl adeilad Briwtalaidd, er mwyn edrych yn ddyfnach i’r gofodau a greïr.

5) Estates: An Intimate History – Lynsey Hanley

Mae’n rhaid cyfaddef – megis dechrau’r llyfr hwn ydw i, ond dwi’n credu ei fod e’n bwysig cynnwys barn sydd yn annibynnol ar ‘bensaernïaeth’ Briwtaliaeth. Newyddiadurwr yw Lynsey Hanley, ac mae ganddi brofiad o fyw ar ystadau concrit Lloegr.

Dywed Hanley (yn y bennod a elwir ‘Slums in the Sky’), ‘Yn y ddegawd rhwng 1955 a 1965, aeth tai cyngor o fod yn uchafbwynt y wladwriaeth les newydd i fod yn farics torfol. Nid hyn oedd y bwriad: y gobaith oedd y byddai blociau ‘high-rise’ yn dwyn ar drefi, yn ogystal â darparu tai i weithwyr y dref… [roedd y tyrrau concrit] fel rhyw fath o anwydwst deallusol, wedi ei ledaenu gan y rhai mewn grym a oedd o’r farn y byddai dogn cryf ohoni’n helpu’r gwanaf yn y gymdeithas. Oedodd neb i ystyried efallai eu bod nhw’n anghywir.’

Yr Adeiladau

1) Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. (1970)

Percy Thomas Partnership

Bûm yn cael gwersi dawnsio yma pan oeddwn yn blentyn, ond nid oeddwn i’n gwerthfawrogi pensaernïaeth hynod drawiadol Partneriaeth Percy Thomas nes fy mod ychydig flynyddoedd i mewn i fy ngradd bensaernïol.

2) Theatr Ardudwy, Harlech. (1973)

Colwyn Foulkes & Partners.

Mae hwn yn adeilad syfrdanol – mae’n siap hynod unigryw.

3) Prif Adeilad Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Caerdydd. (1975)

Percy Thomas Partnership.

Mae’r adeilad hwn yn ffurfio gofod hollol odidog fymryn o’r fynedfa. Newydd ail agor i’r cyhoedd ydyw, ac mae’n werth ymweld ag e!

4) Llyfrgell Aberhonddu. (1969)

Penseiri Cyngor Sir Brycheiniog

Adeilad ddiddorol arall, gyda’r ffenestri ar y ffasâd wedi eu hongli tuag at y stryd. 

5) Adeilad y BBC, Llandaf, Caerdydd. (1966)

Percy Thomas Partnership

Dyma adeilad eres, ac mae’n werth edrych arno os ydych chi’n gyrru heibio.  Peidiwch ag oedi’n rhy hir – mae debygol y caiff ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer 400 o dai.

Previous
Previous

Cerdd: Mynydd Beili Glas - Nerys Bowen

Next
Next

Cerdd: Ym Mharc Brynmill - Tudur Hallam