Cerdyn Post Creadigol: Nicaragua - Lowri Ifor

Mae'r cerdyn post diweddaraf i ddisgyn trwy ddrws y Stamp wedi dod yr holl ffordd o Nicaragua, gan Lowri Ifor. Dyma sydd ganddi hi i'w ddweud ...

Dwi'n dod o Gaernarfon ac yn teithio yn Nicaragua ar y funud, ar ôl treulio mis yn Guatemala ac El Salvador. Yno mae hen fysus ysgol o America yn cael bywyd newydd fel bysus lleol, neu chicken buses. Maen nhw fel arfer yn cael eu hail-beintio yn llachar, goleuadau o bob math yn cael eu gosod arnyn nhw, ac yn cael eu gyrru'n hollol wyllt. Mae teithio ar un ohonyn nhw yn gymysgedd o roller coaster a Grand Theft Auto ... ond dwi'n hoff iawn ohonyn nhw. Â ninnau'n byw mewn byd mor wastraffus, mae'n braf gweld hen bethau'n cael bywyd newydd.

Os hoffech chi ddarllen mwy am y trip (gan gynnwys yr amser y ces i near-death-experience efo coconyt), dwi 'di bod yn cadw cofnod ar www.ffwrddahi.wordpress.com.

I weld cerdyn post creadigol Lowri, dilynwch y ddolen yma: Cerdyn Post Creadigol Nicaragua Lowri Ifor

Previous
Previous

Cerdd a Chelf: Ysgyfarnog - Morwen Brosschot & Kim Atkinson

Next
Next

Profiad: Yng Nghalon y Trobwll, Ffair Lyfrau Llundain - Eluned Gramich