Cerdd a Chelf: Ysgyfarnog - Morwen Brosschot & Kim Atkinson
Daeth yr eira’n
ddirybudd
a disgynnodd
fesul pluen
wynias, wen
drwy’r dydd.
A ninnau’n dau
a’r ci
yn dringo’r allt
rhwng dau glawdd.
Pob polyn a phostyn,
pob gwifren a giât,
pob llwyn,
yn farciau siarp
pen ac inc
ar ddalen lân.
Côt y ci
yn gwynnu’r eira;
welais i erioed
mohono yn edrych
mor ddu.
Y tawelwch yn
aruthrol
a’r eira’n aros.
Daeth yr ysgyfarnog
yn ddisymwth
drwy fraslun o ffens.
Ymddangosodd ar
ein canfas
yn dalp o ynni,
yn ddarn o fywyd
gwinau
o gig a gwaed.
Safodd yn stond.
Pa ffordd?
Gyda llam a naid
caeodd ei safn
am y corff cynnes.
Gollwng hi!
Rhy hwyr.
Asen fain yn trywanu
ysgyfaint - sŵn boddi;
Curiad calon yn
gwanhau
a dau lyn ei llygaid
yn rhewi’n raddol
drostynt.
Mwclis o waed yn fferru
ar ei ffroenau,
a ninnau,
yn oeri yn yr eira.