Adolygiad: On🔥 - Naomi Klein
Casgliad ydi'r llyfr yma o erthyglau, myfyrdodau a darlithoedd y mae Naomi Klein wedi eu hysgrifennu dros y degawd diwethaf, yn archwilio newid hinsawdd ac ymateb pobl iddo. Mae hi'n dweud yn y cyflwyniad ei bod hi wedi bod yn ceisio deall beth sy'n ymyrryd â'n gallu ni i ymateb i'r argyfwng, ac mae'n debyg bod y llyfr hwn yn archwiliad o'r cwestiwn hwnnw o safbwynt economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol ac unigol. Mae hi'n paentio darlun brawychus o effeithiau penodol, lleol newid hinsawdd gydag adroddiadau o'r Bariff Mawr (Great Barrier Reef), tanau gwylltion Gogledd-orllewin America yn 2017, a Puerto Rico yn 2018, blwyddyn wedi i gorwynt Maria ddod â'r wlad at ei gliniau. Mae hi hefyd yn amlinellu difrifoldeb y sefyllfa, beth sydd i'w golli drwy beidio gweithredu, a pha mor fyr yw'r amser sydd ar ôl i atal yr effeithiau gwaethaf.
Yn y bennod honno am Puerto Rico, yn ogystal â mannau eraill yn y llyfr, mae hi'n datblygu'r ddadl mai un symptom yn unig yw newid hinsawdd o system economaidd cyfalafol sydd yn trin pobl a natur fel adnodd i'w ecsploetio a'i daflu i ffwrdd er mwyn cyfoethogi lleiafrif bach o elites. Mae hi'n arbennig o dda am wneud y cysylltiadau rhwng gwahanol fathau o orthrwm a thrais – hiliaeth, casineb at ffoaduriaid, rhyfeloedd, ideoleg y dde eithaf, tlodi, trefedigaethu, dinistr ecolegol a hil-laddiad pobl frodorol. Mae hi hefyd yn ddi-flewyn ar dafod wrth hoelio'r bai am y sefyllfa beryglus yr ydan ni'n cael ein hunain ynddo. Nid 'y natur ddynol' hunanol, ddi-fater sydd ar fai; nid methiant y boblogaeth yn gyffredinol yw'r methiant i fynd i'r afael â'r broblem, ond y ffaith bod cwmnïau tanwydd ffosil wedi lobïo'n effeithiol iawn yn yr 80au pan oedd y byd wrthi'n deffro i'r broblem, ynghyd ag ymlediad cyfalafiaeth wedi ei dadreoli a'r model neo-rhyddfrydol o ddatblygiad a gafodd ei allforio ar hyd y byd yn y cyfnod hwnnw.
I mi, y bennod 'Capitalism Killed our Climate Momentum, Not "Human Nature"' oedd trobwynt y llyfr, ac roedd yr awgrym nad arna i yn bersonol mae'r bai, yn syndod o bwerus (wrth gwrs, rydan ni i gyd ar fai i raddau yn yr ystyr ein bod ni'n caniatau i'r grymoedd hyn reoli ein bywydau, ond nid ni sydd wedi dewis y sefyllfa, ac mae gennym y gallu i'w gwrthsefyll.) O hyn allan, mae'r tôn yn fwy adeiladol, ac mae hi'n dechrau ar y gwaith o amlinellu ymateb sy'n mynd i'r afael â'r holl broblemau y mae hi wedi eu disgrifio.
Y ddadl ganolog yw y dylid mynd ati i leihau allyrriadau nwyon ty gwydr trwy ddatblygu isadeiledd gwyrdd – cynlluniau ynni adnewyddol, trafnidiaeth gyhoeddus, mesurau arbed ynni – ac y bydd hynny'n creu swyddi. Mae hynny'n syniad digon confensiynol, hyd y gwela i, ond mae Klein yn mynd ymhellach. Hefyd yn ganolog i'r cynllun mae rhaglen o fuddsoddi mewn adnoddau cyhoeddus – ysbytai, ysgolion, adnoddau hamdden a'r celfyddydau. Yn ychwanegol, neu ynghlwm wrth hynny, rhaid mynd i'r afael ag anghyfartaledd incwm, anhegwch at ferched a hiliaeth. Mae hi'n mynnu nad ydi hyn yn rhywbeth 'ychwanegol', ond yn rhywbeth sy’n ganolog i'r brosiect o ddad-garboneiddio'r economi, achos hebddo, fe fydd poblogaethau gorthrymedig y byd yn rhy brysur yn brwydro yn erbyn y pethau penodol sy'n eu dal nhw'n ôl i boeni am yr hinsawdd. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn ganolog i'r prosiect am yr un rheswm, yn ogystal â'r ffaith bod newid hinsawdd gyda ni'n barod ac mae'n rhaid adeiladu'r gallu i ymateb pan fo stormydd, tonnau gwres a llifogydd yn taro. Mae hi'n credu y gellid talu am hyn i gyd trwy orfodi i'r cwmnïau sydd wedi achosi'r rhan fwyaf o'r difrod dalu am eu gwaddol, gorfodi i gwmnïau rhyngwladol eraill dalu'r trethi y maent ar hyn o bryd yn llwyddo i'w hosgoi, ac arallgyfeirio cymhorthdaliadau sy'n mynd i gwmniau tanwydd ffosil i dalu am ynni adnewyddol. Bydd rhai o'r mesurau yn talu am eu hunain trwy greu nwyddau a gwasanaethau newydd. Rhywbeth arall y mae Klein yn ei bwysleisio trwy gydol y llyfr yw pwysigrwydd mudiadau torfol ac ymgyrchu gan bobl ar lawr gwlad. Mae hi'n gwneud cymhariaeth gyda'r Fargen Newydd wreiddiol, ac yn dadlau na fyddai hwnnw erioed wedi llwyddo oni bai bod y llywodraeth yn teimlo dan fygythiad o chwyldro petai hi’n methu darparu rhai o'r mesurau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod.
Mae'r newidiadau sy'n cael eu cynnig yn ysgubol, y tu hwnt i uchelgeisiol, oherwydd nid sôn am wyrdroi cyfeiriad datblygiad economaidd a chymdeithasol un gwlad yr ydym yma, ond yr holl fyd, a hynny o fewn deg mlynedd (dyma'r cyfnod y mae'r IPCC wedi nodi sydd gennym ni i atal y cynnydd yn nhymheredd y byd rhag mynd dros 2oC). Er hynny, mae Naomi Klein rhywsut yn llwyddo i ddarbwyllo rhywun bod trawsnewidiad yn bosibl, ac y gallai olygu nid yn unig goroesiad yr hil ddynol a'r rhannau o'r byd naturiol sy'n weddill, ond cyfnod newydd o ffyniant a chymdeithas sy'n decach ac yn fwy caredig. Mae'n rhaid credu bod hynny'n bosibl, ac mae'n rhaid ymdrechu'n galed i'w gyflawni, oherwydd cost anobaith yw marwolaeth.
O.N. Mae pwyslais Naomi Klein ar y sefyllfa fyd-eang, ac o fewn hynny ar America a Chanada, ble mae hi'n byw ac yn gweithio. Sgwrs a roddodd i gynhadledd y blaid Lafur yn 2017 yw un o benodau’r llyfr, yn mawrygu'r ffaith eu bod wedi mabwysiadu'r syniad o'r Fargen Newydd Werdd a'i ddatblygu i fod yn blatfform polisi. Mae hi'n llawn clod at weledigaeth y blaid a'r ffaith eu bod yn gweithio gyda'r mudiad poblogaidd Momentum. Wrth gwrs, rydan ni'n gwybod erbyn hyn beth oedd diwedd y stori honno, ac mae darllen y bennod honno yn brofiad trist i'r rhai ohonom oedd wedi gweld dyfodiad Jeremy Corbyn fel gobaith newydd mewn system wleidyddol oedd wedi methu ein darbwyllo cyhyd. Yn agosach at adref, roedd Bargen Newydd Werdd i Gymru yn rhan o addewidion maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad 2019. Ddaru nhw ddim colli yn drychinebus, ond ddaru nhw ddim ennill tir ychwaith. Mae'n rhaid gofyn felly beth yw'r broblem? Ai methiant i gyfathrebu'r syniad sydd ar fai? Ydi o'n syniad sy'n rhy radical i'r rhan fwyaf o bobl? Ydi o'n edrych yn 'rhy dda i fod yn wir?' Neu ai'r ffaith bod Brexit wedi bwrw ei gysgod dros bob pwnc arall oedd y broblem? Mae dadansoddiad i'w gael ar wefan 'Labour for a Green New Deal' sy'n awgrymu mai heb fynd yn ddigon pell oedd y blaid Lafur, gan gynnig 'Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd' – yr isadeiledd a'r swyddi, ond heb y cyfiawnder cymdeithasol, a heb enwi'r problemau strwythurol wrth wraidd y broblem. Bydd yn diddorol gweld sut mae'r blaid Lafur yn symud ymlaen o'r pwynt yma.
On Fire: The (Burning) Case for a Green New Deal - Naomi Klein, 2019
-----
Cyhoeddir holl adolygiadau cylchgrawn a gwefan Y Stamp yn ddienw.