Stori Fer: O'r Môr #1. DON'T DRINK SEA WATER - Mari Huws
Os oes rhai ohonoch chi'n adnabod gwaith Mari Huws, mi fyddwch chi'n gwybod ei bod hi'n angerddol iawn dros faterion yn ymwneud â gwarchod yr amgylchedd, a bod hynny'n dod drwodd yn ei gwaith creadigol yn aml. Yn y stori fer yma - yn gyntaf yn y gyfres 'O'r Môr' - mae hi'n consurio stori o amgylch darn digon di-nod yr olwg o sbwriel y daeth hi ar ei draws ar draeth ...
DON'T DRINK SEA WATER
Roedd y dingi oren yn arnofio ar wyneb y dŵr yn dawel. Dim tir, dim llong, dim aderyn. Dim i’w weld ond gwyneb tawel y dŵr, y tri corff o’i flaen a’r bag. Drwy gil ei lygaid edrychodd Qian ar linell syth y gorwel, llinell syth fel petai rhywun wedi ei thynnu gyda phren mesur. Y linell syth sy’n gwahanu’r môr a’r awyr. Awyr di gwmwl. Y ddau fod mawr, meddyliodd. Y môr a’r awyr. Anfarth. Roedd yr haul yn llosgi ei wefusa, a’r rheini yn gwisgo côt o heli a brychni ei groen wedi eu codi’n swigod coch. Meddyliodd yn sydyn am adra, am gynhesrwydd ei gegin. Pob cadair o gylch y bwrdd yn llawn. Cododd wydr gwin dychmygol i’r awyr a gwenu. Wrth godi ei fraich saethodd boen lawr ei frest wrth i’w groen rwygo fel papur crin. Daeth y byd i gyd i ffocws, am eiliad. Dim tir, dim llong, dim aderyn, dim ond tri corff a’r bag.
Llithrodd i fewn ac allan o drwmgwsg am oria. Mewn ac allan, ar fôr o ddŵr a’i du mewn yn sgrechian am lymaid i lychu waliau ei organau. Mewn ac allan. Mewn ac allan. Allan.
*
‘Capten, ma’ Roy wedi gweld cwch achub yn y de ddwyrain, ma’n meddwl fod yna bobl arni. Riw bymtheg milltir i ffwrdd.’ Tagodd Daniel y frawddeg allan mewn un anadl i’r Capten wedi iddo redeg fyny o lawr y llong i rannu ei neges gyntaf fatha ‘gwyliwr’ y Madonna. Ei freuddwyd un dydd oedd bod yn Gapten, ond ‘mae’n rhaid i bawb ddechrau yn rhywle’, fel y basa ei fam yn dweud.
‘Diolch i ti fachgen, ydyn nhw’n fyw?’ gofynnodd yn obeithiol. Cyrff marw oedd y peth olaf y basa unrhyw gapten eisiau ar ei long â’r siwrna mor faith a hon. Roeddan nhw dros bum diwrnod oddi wrth unrhyw dir.
‘Anodd dweud, pedwar ohonyn nhw yn ôl Roy’
‘Blydi hel. Reit, Deian, cer i gael y criw yn barod i’w codi nhw allan, a digon o boteli dŵr i’r craduriad. Os ydyn nhw’n fyw, mi fydd eu tafoda nhw fel brillo pads yn yr haul ma’. Cododd Daniel ei fraich i’w dalcen i nodi i’r capten ei fod o wedi dallt, ond feiddiodd o ddim ei gywiro. ‘Deg munud’, gwaeddodd y Capten ar ei ôl.
Wrth i injan y llong dawelu, safai’r criw yn un rhes ar y dec yn edrych lawr ar y dingi oren.
‘Helo?’ gwaeddodd Roy cyn troi at bawb a chadarnhau be oedd pawb yn ei feddwl.
‘Gonnars.’
‘Craduriad, tybad be ddigwyddodd?’ meddai un arall.
‘Ma’r dingi o Tseina, a’r dynion o be alla i weld’. Roedd Daniel yn edrych lawr drwy bar o finocs ar y dingi, ei lygaid yn dyfrio. Doedd o erioed wedi gweld neb marw o’r blaen. ‘A ma na rywbeth ar lawr y dingi, rhwng eu coesa nhw.’
Wrth godi’r cwch o’r dŵr, daeth i’r amlwg be oedd yn y bag bach rhwng coesau di-fywyd y dynion. Bag o ddwr.
‘Ma’r bag yn llawn.’ Cododd Roy y bag o’r gwch. ‘Ffyliad’.
‘Pam ddiawl nathon nhw ddim ei yfed o? Mi fasa ni wedi medru ei hachub nhw!’
Sylweddolodd Daniel ar ei ddiniwedrydd wrth iddo edrych ar Roy fel petai’n gofyn cwestiwn i’w dad. Cododd Roy ei ysgwyddau, ‘Bobl balch ydyn nhw wsdi, y Tsineiaid. Am wn i, ar ôl i un farw doedd na neb am fod yr un nath yfed y dwr.’ Taflodd y bag dros ochr y dec. Syllodd Daniel ar y sgwaryn bach arian yn suddo yn hamddeol i ddyfnderodd y mor, fel pysgodyn marw, di-bwrpas. Crynodd y llong wrth i’r injan aildanio, ac ymlaen â nhw i gyfeiriad y gorwel. Y gorwel di-ben-draw.
Gwyliwch allan am ragor o'r gyfres 'O'r Môr' yn Y STAMP: Rhifyn 6 - Gaeaf 2018 ...