Rhestr Ddarllen: Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018

A hithau'n ddiwrnod cenedlaethol o ddathlu barddoniaeth, dyma restr ddarllen o awgrymiadau rhai o'n cyfrannwyr, golygyddion a darllenwyr, o gyfrolau o farddoniaeth y dylech chi fynd a'i darllen heddiw. Os oes ganddo chi awgrym o gyfrol yr yda chi ar dân eisiau ei hargymell i bobol, croeso i chi ychwanegu sylw, neu yrru neges draw ar yr hen Dwityr. Joiwch!

1.

The Fat Black Woman's Poems gan Grace Nichols (1984) - Virago

Beauty / is a fat black woman / riding the waves / drifting in happy oblivion / while the sea turns back / to hug her shape

Estyniad o gymeriad y bardd ei hun yw 'fat black woman' Grace Nichols – gwraig o gefndir Caribïaidd sy'n setlo yn Llundain, gan ei chanfod ei hun yn rhan o leiafrif ethnig, yn destun hiliaeth, rhywiaeth a rhagfarn maint – ac mae'r gyfrol hon yn ddathliad o fywyd dynes yng ngwyneb hynny. Pedwar dilyniant o gerddi yw'r gyfrol yn ei chrynswth: The Fat Black Woman's Poems, In Spite of Ourselves, Back Home Contemplation ac i is a long memoried woman. Enillodd y diwethaf Wobr Farddoniaeth y Gymanwlad ym 1983, ac mae'n fyfyrdod ar fywydau caethweision ar blanhigfeydd siwgr India'r Gorllewin. Mae cerddi Grace Nichols yn reiat o liw, a'r gic gyson a geir i gyfeiriad y Sefydliad yn ei amrywiol wisgoedd yn taro deg.

Iestyn Tyne

2.

Cerddi Dic yr Hendre, gol. Ceri Wyn Jones (2010) - Gomer

Mae rhywbeth am Gasgliad Cyflawn Cerddi Dic Jones sy’n cynnig cysur imi, yn enwedig adeg yma o’r flwyddyn. Efallai mai’r modd y mae’n llwyddo i gyfleu naws y tymhorau a chynnig cip o hanfod ambell gymeriad fel fy mod i’n medru eu gweld a’u clywed bron.

Hannah Sams

3.

American Sonnets for my past and future assassin gan Terrance Hayes (2018) - Penguin

I lock you in an American sonnet that is part prison, / Part panic closet, a little room in a house set aflame.

70 o sonedau jazz wedi eu hysgrifenu yn ystod 200 diwrnod cyntaf arlywyddiaeth Trump, gan fardd Affrican- Americanaidd yw cynnwys y gyfrol hon, oll o dan yr un teitl- 'American sonnet for my past and future assasin'. Cerddi i'w hadrodd yn uchel ydyn nhw, neu yn well fyth, i wrando ar lais dwfn Terrance Hayes ei hun yn eu hadrodd yn ei acen felodaidd, er mwyn clywed y rhythmau a'r patrymau cytseiliol sydd weithiau'n ymylu ar fod yn gynganeddol. Mae hi'n gyfrol llawn egni, ond egni wedi ei ffrwyno a'i reol'n ofalus gan fardd meistriolgar, sy'n gadel i'r cwbwl ffrwtian, gan weithiau godi fel dicter, weithiau fel hiwmor, weithiau fel tor calon, weithiau fel llawenydd. Cyfrol hollol wych.

Grug Muse

4.

Caeth a Rhydd gan Peredur Lynch (2017) - Carreg Gwalch

Dyma gyfrol gynhyrfus sy’n trafod profiadau oesol a cyffredin, a’r canu, fel y dywed ar y siaced lwch, yn gwbl glasurol. I rywun fel fi sy’n hoff o ddarllen a ‘sgrifennu barddoniaeth synhwyrus cefais fy siomi ar yr ochr orau gan y dilyniant i’w dad, gyda’r gerdd am sawr orennau ar focsys llyfrau ei dad yn aros yn y cof. Mae’r farwnad i Gwyn Thomas yn ddigon o reswm yn ei hun i ddarllen y gyfrol hon - cwbl orchestol!

Osian Owen

5.

Li Po and Tu Fu Poems (1973) - Penguin Classics

Drifting, drifting, / what am I more than / A single gull / between sky and earth?

Dau fardd o’r 8fed ganrif oedd Li Po a Tu Fu a’r ddau yn bennaf ffrindiau, y naill yn ddipyn o dderyn ac yn gadael i’w ddychymyg ei lywio ar adegau a’r llall yn ddistawach, yn fwy diymhongar, ac yn troi at ei fywyd am ysbrydoliaeth. Caiff y ddau eu cydnabod fel rhai o feirdd pennaf China. Mi gewch rychwant bywyd ymysg cerddi’r ddau a hynny’n aml mewn ffordd syml, uniongyrchol. Mae eglurdeb y dweud, y delweddu a’r teimlad sydd yn y cerddi yn sgleinio drwy'r canrifoedd a chyfieithiad.

Llŷr Titus

6.

Bragdy’r Beirdd goln. Osian Rhys Jones & Llyr Gwyn Lewis (2018) - Cyhoeddiadau Barddas

Weithiau mae cerddi a gyfansoddwyd i’w perfformio’n fyw yn gallu colli peth o’u nerth ar y tudalen. Nid felly yn y gyfrol hon, sy’n cyflwyno pob math o gerdd, o’r ysgafnaf i gerddi gwirioneddol deimladwy, o flaen cefnlen liwgar o glecs ac atgofion y perfformwyr eu hunain. Dyma gasgliad i’w drysori i’r rhai sy’n mwynhau’r nosweithiau, a mewnwelediad cynnes, dilys a doniol i fywiogrwydd sîn farddol Caerdydd heddiw i’r rhai sy’n byw tu hwnt i’r brifddinas.

Judith Musker Turner

7.

Y Casgliad Answyddogol gol. Robat Gruffudd (1998) Y Lolfa

I mi, mae Y Casgliad Answyddogol, detholiad Robat Gruffudd o waith cyfres y beirdd answyddogol gan Y Lolfa, yn ddarllen hollbwysig i unrhyw un sydd wedi syrffedu ar fyd taclus, pharchus a chysect y beirdd cynganeddol. Dyma'r gyfres wnaeth i mi deimlo bod lle i fy llais i hefyd, a hir oes i herfeiddiwch o'r fath.

Miriam Elin Jones

8.

Blwyddyn Gron gol. Sian Northey (2013) - Carreg Gwalch

Ychydig flynyddoedd yn ôl mi wnes i olygu blodeugerdd o'r enw Blwyddyn Gron i Wasg Carreg Gwalch. Golygu blodeugerdd ydi cael dy dalu i eistedd ar soffa yn darllen barddoniaeth. Mae 'na lot o waith caled wedyn – dewis, gosod pethau mewn trefn, penderfynu rhwng dwy fersiwn o gerdd, gwneud siŵr nad oes atalnod llawn lle dylai bod coma. Ond y darllen dw i'n ei gofio – ailddarganfod hen ffefrynnau a darganfod beirdd newydd a cherddi newydd. Yn y detholiad bras cyntaf roedd yna lawer iawn o Gwyn Thomas a llawer iawn o Saunders Lewis. Mi oeddwn i'n disgwyl i un fod yn ffefryn, doeddwn i ddim yn disgwyl i'r llall wneud ymddangosiad. Fatha sylweddoli bo chdi'n ffansio geek y dosbarth ar ôl cael dy orfodi i eistedd wrth ei ochr o ar y bws.

Sian Northey

9.

Addunedau gan Iestyn Tyne (2017) - Cyhoeddiadau'r Stamp

Prynu Addunedau, Iestyn Tyne ‘nes i’n wreiddiol am nad o’dd y bardd hwn yn un o ‘hen stejars’ y sîn farddonol – roedd rhywbeth ‘down to earth’, ys dywed y Sais, am y gyfrol o’i gweld hi gynta’; ddim owns o ffýs yn ei chlawr nac yn y geiriau ‘Fi ar y pwynt yma ydi’r cerddi hyn, yn 19 [ . . . ] Nid yw sglein y blynyddoedd na phrofiadau bywyd hir ynddynt, ac nid dyna eu bwriad chwaith, am na fyddwn wedyn yn ysgrifennu’n ddiffuant.’ Barddoniaeth fy myd cyfoes i yw ‘Mae’r bandiau’n gorffen cyn cynnau’r tân, ond diwedd y gig ydi dechrau’r gân’ a cherddi 5 llinell o hyd megis ‘Pebylla’ yw geiriau’n meddylia’ Cymry ifanc. Cyfrol Iestyn yw un o brif resymau tu ôl imi afael ynddi efo’m ‘sgwennu ‘rôl bod yn segur ers tro ac ma’ fy niolch iddo fo a’r gyfrol yn fawr iawn!

Caryl Bryn

10.

Jane; a murder gan Maggie Nelson (2005) Soft Skull Press

What transpired

for five and

a half hours

between Jane

and her murderer

is a gap so black

it could eat

an entire sun

without leaving

a trace.

Ar Fawrth yr 20fed, 1969, cafodd Jane Mixer, modryb yr awdur aml-gyfrwng Maggie Nelson, ei llofruddio, yn 23 mlwydd oed. Portread ohoni sydd yn ffurfio arwyneb cyfrol synhwyrus a dychmygus Nelson o 2005, Jane: A Murder. Fel holl waith yr awdur, mae’n epigramatig, yn llawn troeon a chyfeiriadau, a’n dawnsio’n osgeiddig ar draws ffurfiau a genres: cofiant a prose poetry a beirniadaeth celfyddydol yn ogystal a phenillion trawiadol fel ‘The Gap,’ a ddyfynnir uchod. Nid darlun true-crime a geir (roedd llofruddiaeth Jane eisoes wedi ymddangos ar yr History Channel, ar y rhaglen Dateline ac mewn amryw lyfr clawr-meddal) ond astudiaeth sensitif a gofalus, heb osgoi bod yn aflonyddus, sy’n treiddio i mewn i bwy oedd Jane, a pwy gallai hi fod wedi bod. Mae ôl-fywyd Jane: A Murder – a adroddir fel rhan o fagnum opus Nelson o 2015, The Argonauts – yn cyfoethogi a’n dwysáu’r gyfrol ymhellach. Daeth dilynwr o achos ei hanti yn obsesd â Nelson ei hun wedi iddi gyhoeddi’r gyfrol, a’i sdelcio o gwmpas ei gweithle am gyfnod gan adael negeseuon treisgar. Ond hyd yn oed heb y cyd-destun hwn, mae Jane: A Murder yn ymdreiddiad gwreiddiol, cyson awgrymog mewn i alar ac etifeddiaeth, a’r cysgod mae Digwyddiad yn gallu taro dros psyches unigolion a chymunedau ar draws cenhedloedd. Mae cerrynt o drais a chwant yn llifo trwy lyfrau Maggie Nelson, ond yn Jane: A Murder maen nhw’n cwrdd mewn ffordd (a ffurf) gwbwl unigryw.

Dylan Huw

Previous
Previous

Adolygiad Fideo: Bondo a Treiglo - Beth Celyn, Elis Dafydd

Next
Next

Stori Fer: O'r Môr #1. DON'T DRINK SEA WATER - Mari Huws