ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020

Rhestr ddarllen: Darllen yr Argyfwng Hinsawdd - Aelodau XR Cymru
A hithau'n Fis Bach Gwyrdd ar wefan Y Stamp, dyma ofyn i rai o aelodau XR Cymru am eu hawgrymiadau o lyfrau i'n helpu i 'ddarllen yr argyfwng hinsawdd'.

Ymateb: Llyfr y Flwyddyn 2019 - Casi Dylan, Eurig Salisbury, @mwnaimwnai
Un o'n hamcanion pennaf wrth sefydlu'r cylchgrawn ddwy flynedd a hanner yn ôl oedd ennyn trafodaethau o bob math ar waith creadigol cyfoes o Gymru. Dyma ni'n dychwelyd felly gyda chriw newydd o ddarllenwyr yn bwrw barn ac yn myfyrio dros gynnwys rhai o restrau byrion 2019.

Rhestr Ddarllen: Pump o Insta-feirdd - Iestyn Tyne
Ydy’r enwau Rupi Kaur, Atticus a Cleo Wade yn golygu unrhyw beth i chi? Mae’n bosib iawn mai dyma enwau rhai o feirdd mwyaf poblogaidd y byd ar hyn o bryd, os nad erioed. Cyfrol gyntaf Kaur o gerddi, milk & honey yw’r gyfrol o farddoniaeth gyda’r gwerthiant uchaf yn hanes y byd – 3.5 miliwn o gopïau, ac mae’n parhau i godi. Mae’r nifer mor fawr nes ei fod yn anodd ei amgyffred.

Rhestr Ddarllen: LHDTC+ - Mair Jones
Ers 1994, mae mis Chwefror wedi cael ei nodi fel Mis Hanes LHDT (nawr hefyd yn Hanes LHDT+ neu LHDTC+ i gynnwys a chroesawu mwy o bobl). Mae Mis Hanes LHDT felly wedi bodoli ar hyd fy mywyd i, ond sawl Chwefror a basiodd â minnau’n ymwybodol ohono? Sawl un a basiodd heb ymwybyddiaeth o hanes pobl LHDT+ Cymraeg?

Llyfrau 2018: Dewisiadau’r golygyddion
2018. Blwyddyn gachu i'r amgylchedd, i ddemocratiaeth, ac i Orsedd y Beirdd; blwyddyn dda o lyfrau. Yma i glorianu eu blwyddyn nhw mewn llyfrau mae ein golygyddion, sy'n edrych ymlaen at gael treulio eu Nadolig mewn pillow fort fawr, mins pei mewn un llaw, gwin cynnes yn y llall, a llyfr newydd ar agor o'u blaenau.

Rhestr Ddarllen: Dŵr - Grug Muse
Mi fuodd hi'n haf brawychus o boeth, a bryd hynny, yr unig ddihangfa oedd plymio mewn i'r môr, neu i hynny o lynnoedd ac afonydd oedd dal efo dŵr ynddyn nhw, a’r dŵr oer yn ddihangfa oddi wrth wres affwysol a holl chwys Mehefin.

Rhestr Ddarllen: Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018
A hithau'n ddiwrnod cenedlaethol o ddathlu barddoniaeth, dyma restr ddarllen o awgrymiadau rhai o'n cyfrannwyr, golygyddion a darllenwyr, o gyfrolau o farddoniaeth y dylech chi fynd a'i darllen heddiw. Os oes ganddo chi awgrym o gyfrol yr yda chi ar dân eisiau ei hargymell i bobol, croeso i chi ychwanegu sylw, neu yrru neges draw ar yr hen Dwityr. Joiwch!

Rhestr Ddarllen: Y Daith - Grug Muse
Y mae teithio, yn ei hanfod, yn weithred syml o symud o un lle i le arall. Prin nad oes diwrnod lle na byddwn yn gwneud taith o ryw fath i ryw le— boed honno’n siwrne 12 awr dros Fôr yr Iwerydd, neu’n drip sydyn i’r siop. Mae rhai yn canfod gorchest mewn siwrneiau mawr i ben mynyddoedd uchel— ac i eraill mae siwrne rhwng dau bared yr ystafell Physio ar goesau diarth yn llawn cymaint o fuddugoliaeth. Y mae rhyfeddod i’w gael mewn taith llygad ar draws y stafell mewn claf ac anaf ar ei ymennydd, ac mewn taith gwennol o Gaernarfon i’r Sahara, fel ei gilydd.

Rhestr Ddarllen: Concrit - Efa Lois
Yn ei lyfr ‘ Raw Concrete’, mae Barnabas Calder yn dweud bod Briwtaliaeth yn ‘dioddef o statws deuol pensaernïaeth. Mae pensaernïaeth ym mhobman, a chaiff ei defnyddio gan bawb, ond ymhlith y prif gelfyddydau, hi yw’r un a ddeellir leiaf…’. Aiff ymlaen i egluro mai Briwtaliaeth yw’r arddull bensaernïol a gaiff ei hystradebu fwyaf.

Rhestr Ddarllen: Deg Cyfrol gan Awduron Benywaidd – Mair Rees
Gwahoddwyd Dr Mair Rees, awdur y gyfrol Y Llawes Goch a’r Faneg Wen: Y Corff Benywaidd a’i Symbolaeth Mewn Ffuglen Gymraeg Gan Fenywod (Gwasg Prifysgol Cymru, 2014) i lunio rhestr ddarllen arbennig i ni’r wythnos hon. Gofynnwyd iddi awgrymu deg cyfrol – boed yn nofelau neu’n cyfrolau o straeon byrion – yn y Gymraeg gan lenorion benywaidd na ddylid eu hepgor.

Dathlu: Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2017
Mae dwy ferch ar fwrdd olygyddol Y Stamp, ond pedwar ffeminist. Ac phob un ohonom yn gytun na ellid gadael i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni fynd heb ei nodi.
Gan ddechrau yng Nghymru Fach, gallwn weld lle i ddeisyfu mwy o leisiau benywaidd yn mynd ati i osod eu stamp (no pun intended!) ar y sin lenyddol yng Nghymru. Mae pethau wedi gwella’n aruthrol ond nid yw’r gynrychiolaeth o ran y rhywiau yn gyfartal, o hyd. Gofynnwyd i dri darllenydd – Elinor Wyn Reynolds, Ifan Morgan Jones a Hannah Sams – i rannu eu profiadau hwy o ddarganfod lleisiau benywaidd yn ein llenyddiaeth, ac mae ymateb y tri yn cynnwys sylwadau a chwestiynau pur ddiddorol.

Rhestr Ddarllen: 10 Nofel Arabeg - Asim Qurashi
Dyna gyfrifoldeb ydi cyflwyno eich llenyddiaeth i gynulleidfa gwbl ddiarth – a hynny mewn dim ond deg nofel! Y benbleth fawr wrth geisio dewis a dethol oedd hyn: a ddylwn i ddewis y deg sy’n cael eu hystyried fel y goreuon yn y byd Arabeg; yntau ddewis y deg cyfieithiad gorau? A chyfieithiad yw’r gair allweddol yma. Oherwydd gellid gofyn pam peidio â dewis deg nofel a ysgrifennwyd gan Arabiaid yn Saesneg?