Rhestr Ddarllen: Y Daith - Grug Muse

Y mae teithio, yn ei hanfod, yn weithred syml o symud o un lle i le arall. Prin nad oes diwrnod lle na byddwn yn gwneud taith o ryw fath i ryw le— boed honno’n siwrne 12 awr dros Fôr yr Iwerydd, neu’n drip sydyn i’r siop. Mae rhai yn canfod gorchest mewn siwrneiau mawr i ben mynyddoedd uchel— ac i eraill mae siwrne rhwng dau bared yr ystafell Physio ar goesau diarth yn llawn cymaint o fuddugoliaeth. Y mae rhyfeddod i’w gael mewn taith llygad ar draws y stafell mewn claf ac anaf ar ei ymennydd, ac mewn taith gwennol o Gaernarfon i’r Sahara, fel ei gilydd.

Yn y blynyddoedd dwytha, daeth teithio yn bwnc llosg. Y mae gwleidyddion asgell dde ar draws Ewrop wedi disgrifio ffoaduriaid a cheiswyr lloches o wledydd fel Irac a Syria fel llanw bygythiol, a’r gair ‘migrant’ wedi dod yn air budur yng ngenau dilynwyr UKIP, Torïaid a Gweriniaethwyr. Rydym yn wynebu gweld ein hawl ninnau i deithio’n rhydd yn Ewrop yn cael ei fygwth gan Brexit, ac Ewropeaid a ymgartrefodd yma yn gorfod ystyried y posibilrwydd o ddychwelyd i’w gwledydd brodorol. Ac yma yng Nghymru, mae pentrefi gwledig wedi cael eu gadael yn ynysig, wrth i doriadau gael eu gwneud i wasanaethau bysus, a gallu pobol i wneud siwrneiau sylfaenol, hanfodol, wedi ei fygwth.

Y daith felly, yn ei holl amrywiadau— o’r siwrne fer i’r cyrch anturus— yw testun y rhestr ddarllen yma. Dydi o ddim yn honni i fod yn holl-gynhwysol. Yn hytrach, hadau, i sbarduno’r meddwl i ystyried ‘y daith’, a’r gwahanol ffyrdd o’r ddychmygu yn ein llenyddiaeth.

1.

Mae’n debyg mai The Epic of Gilgamesh yw’r testun llenyddol hynaf yn y byd sydd wedi goroesi. Nid stori garu, nid stori arswyd, nid comedi, na romcom, ond stori am daith. Cyrch anturus, yr hyn a elwir yn ‘quest’ yn Saesneg. Mae’r fersiwn gynharaf o’r stori’n dyddio’n ôl i deyrnasiad llinach yr Uru- 2150-2000 CC, yn lle’r adnebir fel Irac erbyn hyn. Mae’r stori’n dilyn siwrne’r duw-frenin Gilgamesh i ganfod anfeidroldeb, wedi i’w gyfaill Enkidu gael ei ladd. Wedi anturiaethau lu mae’n dychwelyd i’w ddinas, Uruk, yn ddyn gwahanol iawn i’r hwn adawodd, er, dal yn feidrol. Mae’r stori’n rhyfeddol o gyfoes, wrth i Gilgamesh orfod wynebu yr arall, a’r dieithr mewn gwahanol ffyrdd, trwy adael ei ddinas— symbol o’i rym ac o wareiddiad, a mentro i fyd natur— byd gwyllt, anwadal a diarth.

2.

Mae’r berthynas rhwng crefydd a thaith yn un gymhleth. Nodweddir rhai o brif grefyddau’r byd gan deithiau sy’n weithredoedd defosiynol a phererindodau i fannau sanctaidd, o Ynys Enlli i’r Kaaba. Ac o edrych ar un o’r testunau crefyddol fydd fwyaf cyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom ni, sef y Beibl, gwelwn ei fod yn frith o wahanol deithiau, a rheini yn cwblhau nifer o wahanol swyddogaethau o fewn y testun. Gellid edrych ar ymadawiad dyn o Eden; hanes Moses a thaith y llwythi Iddewig trwy’r anialdir yn llyfrau Exodus a Numeri; ymadawiad Lot a’i deulu o ddinas Sodom; yr ymfudiad economaidd sy’n nodweddu llyfr Ruth; Noah a’i arch; ymadael a dychwelyd y mab afradlon; a thaith Mair a Joseph i Fethlehem, i nodi dim ond rhai. Y mae rhai o’r straeon hyn yn adlewyrchu y diwylliannau nomadiaid a bortreir, neu yn disgrifio y math o fudo yn sgil trychinebau naturiol a newidiadau hinsoddol sy’n dod yn fwyfwy cyfarwydd i ni wrth i’r hinsawdd newid. Mae eraill yn disgrifio ymfudiad economaidd, y mudo a achosir gan brinder adnoddau, boed hynny’n fwyd neu’n waith tra bod ambell un yn cynrychioli gweithredoedd o addoliad ynddyn nhw eu hunain; y caledi a’r cynni yn fodd o buro’r enaid, ac yn broses drawsffurfiol, sanctaidd.

3.

Taith mewn mydr yw’r Divina Commedia (Divine Comedy, 1320) gan Dante Alighieri. Dros 14,233 o linellau, tywysir ni trwy uffern, purdan a’r nef. Y mae’r bardd yn cael cwmni Virgil trwy uffern a phurdan, tra fod Beatrice, eilun ei serch yn ei dywys trwy’r nef. Tirlun cwbl ddychmygol a geir yma, a nodwedd bwysig o’r daith hon yw’r cymeriadau a ddaw Dante ar eu traws wrth deithio trwy gylchoedd uffern a phurdan. Mae’n cyfuno y Cristnogol a’r clasurol, gan sgwrsio gyda cymeriadau mor amrywiol a Saint Paul a Cleopatra. Ar un wedd, disgrifio siwrne’r enaid tuag at Dduw y mae, gan ystyried pechod a phob math o bethau hyfryd eraill ar hyd y ffordd.

4.

Math gwahanol iawn o daith a geir yn El Ingenioso Hidalgo Don Quijote de la Mancha (Don Quixote) gan Miguel De Cervantes (1612), un o’r nofelau canonaidd cynharaf. Ynddo mae Alonso Quixano, dan ddylanwad nofelau rhamantus y cyfnod, yn penderfynu marchogaeth ymaith er mwyn adfer sifalri a chyfiawnder. Mae’n newid ei enw i un mwy addas, sef Don Quijote de la Mancha, ac yn cymryd gwerinwr lleol, Sancho Panza, fel macwy bach iddo. Y mae dogn go helaeth o ddychan yn y nofel, a defnyddiwyd hi gan Cervantes i roi ambell hergwd i gymeriadau cyfoes. Yn y nofel, pwrpas taith Don Quijote yw i geisio dod a rhywfaint o gyfiawnder i fyd creulon. Nid yw Don Quijote yn gweld y byd fel y mae go iawn— mae melinau gwynt yn troi’n gewri ffyrnig, a morwyn yn troi’n dywysoges hardd. Dangosir dro ar ôl tro cymaint o ffŵl hurt yw Don Quijote ac eto, y math o ffŵl yr hoffem ni i gyd fod. Er nad yw’n llwyddo i newid dim, mewn gwirionedd, mae yna gysur i’w gael yn y ffaith iddo geisio.

5.

Gyda’r gyfrol nesaf, Gwymon y Môr gan Eluned Morgan (1909) dawn at y ferch gyntaf ar y rhestr. Mae’n werth ystyried yma effaith rhyw ar y profiad o deithio. Cyfrolau Eluned yw rhai o’r cyfrolau ‘llên teithio’ cyntaf i gael eu cyhoeddi yn y Gymraeg gan ferch. Digon prin yw’r cofnodion o deithiau gan ferched cyn yr 20ed ganrif, ac ar y cyfryw nid teithio er pleser a fyddent yn y cofnodion hynny ond teithio gyda’i gŵyr, neu fel cenhadon, neu fel ymfudwyr economaidd. Ond yn wahanol i’w rhagflaenwyr, anturio er pleser oedd Eluned Morgan. Mae’n disgrifio golygfa lle cafodd ei chlymu at fast y llong yr oedd hi’n teithio arni, er mwyn cael profi storm ar fwrdd y llong. Ac yn hynny o beth mae hi yn llinach Gilgamesh a Don Quijote a’r holl anturwyr gwrywaidd hynny a aeth i chwilio am antur a gwefr. Y mae’r traddodiad patriarchaidd wedi rheoli symudiad ac awtonomi cyrff merched ers canrifoedd, ac nid yw’r arfer wedi dod i ben hyd heddiw. Pan fydd teithwraig fenywaidd yn cael ei lladd wrth deithio, ei beio hi am fentro gweithredu mewn ffordd mor amhriodol ac anweddus i’w rhyw yw’r duedd o hyd. “Sut mae dy ŵr/dy dad/ dy gariad di yn caniatáu i chdi neud wbath mor ryfygus?”. Gweithred chwyldroadol felly oedd hi, ac ydi hi, i ferch awchu am antur.

6.

Llyfr yw The Phantom Tollbooth gan Norton Juster (1961) ar sut i beidio diflasu. Y mae Milo, y prif gymeriad, wedi diflasu’n llwyr, ac fe ddaw adre un diwrnod a darganfod car bach trydanol, map, a thollborth bychan yn ei ystafell wely. O eistedd yn y car, mae’n darganfod ei hyn mewn byd o’r enw Wisdom, wedi ei reoli gan ddau frawd, Azaz the Unabridged, brenin Dictionopolis, a’r Mathemagician, brenin Digitopolis. Mae’n mynd ar antur i geisio achub y ddwy dywysoges, Rhyme and Reason, er mwyn eu dychwelyd i wlad Wisdom, ac adfer trefn i’r wlad. Stori blant ydi hon, ond stori sydd yn ein dysgu ni i gymryd sylw o’r hun sydd o’n hamgylch, ac i weld y doniolwch a’r gwychder sydd yn y manion cyffredin, cyfarwydd.

7.

Hawdd anghofio weithiau fod pawb ddim yn teithio er mwyn mwynhad. Yn رجال في الشمس (Men in the Sun) gan Ghassan Kanafani (1962) ceir hanes tri ffoadur o Balasteina yn ceisio croesi yng anghyfreithlon o’r gwersylloedd yn Irac i Kuwait er mwyn chwilio am waith. Mae’r tri yn alltud, ac fe archwilir goblygiadau alltudiaeth orfodol ar y tri. Heb gartref, dydyn nhw’n perthyn i neb. Mae nhw’n anghyfreithlon, mae eu presenoldeb a’u bodolaeth mewn mannau gwahanol yn drosedd, a gwelwn fod y tri wedi colli llawer mwy na dim ond pedair wal eu cartrefi. Collwyd yr hyn a roddai urddas iddynt, fel petai meddu cartref sefydlog yn amod o gael eich hystyried yn berson cyflawn gan gymdeithas. Mae’r stori yn un gignoeth, ac yn anffodus yr un mor berthnasol heddiw ac yr oedd hi yn 1962.

8.

Nofel ydi Zen and the art of Motorcycle Maintanaince gan Robert M Pirsig (1974) sy’n pontio mwy nac un genre. Os ewch chi i’ch siop lyfre i chwilio amdani, mae’n bosib y dewch chi o hyd iddi ar y silff llenyddiaeth deithio, y silff ‘spirituality and wellness’, neu, yn amlach na pheidio, ar y silff athroniaeth. Ail-ymweld ag ardal yr arferai ei nabod, cyn iddo ddioddef rhyw fath o chwalfa feddylion mae rhan helaeth o’r gyfrol. Yn sgil y chwalfa feddylion, nid yw erbyn hyn yn cofio’i gyn fywyd yn iawn, nac yn nabod y person oedd o ynghynt. Digwydd bod, rhyw fath o athronydd galluog oedd o, ac yn y nofel mae’n egluro rhai o syniadau athronyddol yr hen fo, a hynny yn aml gan ddefnyddio ei fotor beic fel enghraifft ymarferol. Dyma’r daith fel cyfle i hel meddyliau, myfyrio, ac archwilio, ac mae’r llyfr yn ymwneud llawn cymaint a chrwydro byd mewnol yr awdur ac y mae a chrwydro’r byd allanol. Nid fo ydi’r unig awdur i wneud hyn, o bell ffordd, ond mae hi’n gyfrol rhy dda i beidio’i chynnwys.

9.

Hawdd anghofio yng nghanol drysni meddylion y bachgen yn Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard (1961) mai disgrifio taith mae o, yn ei hanfod, ar hyd y lôn bost trwy Fethesda. Ac mae cwestiynau am y teithiwr hwn yn ein dilyn drwy’r nofel— pwy ydi o erbyn hyn, pam ei fod o’n ôl, i ble mae o’n mynd? Ac mae teithio’n thema gyffredinol trwy gydol y nofel. Taith i ben y mynydd i hel llus; teithio i aros ar fferm ei berthnasau; teithio o’r tŷ i’r eglwys ag yntau’n swp sâl; mudo aelodau’r gymdeithas i’r de i chwilio am waith; ac wrth gwrs, taith y fam i Ddinbych. Mae’r nofel wedi ei gwreiddio’n ddyfn yn Nyffryn Ogwen, ac eto mae’r tensiynau rhwng aros adre a dianc, rhwng diogelwch y cyfarwydd a rhyddid y diarth, a’r grymoedd hynny sy’n ein gorfodi i symud yn ein blaenau yn erbyn ein hewyllys yn elfennau hanfodol o’r nofel.

10.

Mae anturwyr a theithwyr wedi mentro i bellafion byd i chwilio am berygl ac antur, ond yn Er Cof Am Kelly gan Menna Elfyn daw’r daith symlaf un a thrasiedi i fywyd teulu ym Melffast, adeg y terfysg yng Ngogledd Iwerddon. Adrodd hanes merch naw oed “ar gymwynas daith” i nol llaeth o’r siop ar gyfer cymydog mae’r gerdd, pan gaiff y ferch ei saethu’n farw gan filwr ifanc. Cerdd sy’n ein hatgoffa i beidio cymryd yn ganiataol y gallu sydd gennym i wneud man siwrneiau dydd i ddydd ein bywydau mewn lled ddiogelwch, a fod y diogelwch a’r rhyddid hwnnw yn amal yn amodol ar ein rhyw, ein hil, ein crefydd, ein rhywioldeb, ein gallu corfforol, ein dosbarth cymdeithasol, yn ogystal ac amodau gwleidyddol.

Previous
Previous

Cyfweliad: Where I’m Coming From: Durre Shahwar & Hanan Issa

Next
Next

Stori Fer: Yncl Dennis - Iago ap Iago