Stori Fer: Yncl Dennis - Iago ap Iago
Syrthiodd Dennis i’r llwyn, y deisen lemwn drisl yn malu’n friwsion yn ei law dew, binc. Rhyw dair llath i’r chwith, roedd Gwawr ei wraig ar y lawnt yn horisontal yn barod, synau bychain a diferiad o ddŵr pinc yn dod allan o’i chêg. Potel a hanner o wîn y tu fewn iddi. Ffrog feinweol a hollol anaddas i’r tywydd yn dal amdani’n ddewr.
Parti cynhebrwng yn Ynys Môn: Hell of a thing.
Llwyn bach hebe, diolch byth, nid y rhosyn wrth ei ymyl fyddai gwely dros-dro Dennis y noson honno . Agorodd ei lygaid a siglodd ei ben yn ôl i fyny jyst mewn pryd cyn syrthio i’r draen, a thaflodd ei bwysau sylweddol i’r dde, er mwyn glanio yn yr hebe.
“O Gwawr!” Agorodd ei ddwylo a lledodd ei freichiau hanner ffordd i lawr i’r ddaear, i’r deisen gael hedfan yn rhydd i’r llwyn rhosyn. “Gwawr! Dwi ’di methu’r rhosyn! Y Cont !” Llwyddiant yn gwneud i’w lais grynu.
Llai nag eiliad ar ôl iddo syrthio, mi oedd Dennis yn cysgu’n braf, yn meddwl yn ôl i’r 60au mewn breuddwyd hardd, tint sepia.
Ar ei ffordd i lawr o sefyll i orwedd, teithiodd Dennis o’i ddêt gynta’ efo Gwawr yn 1968 i’r parti dyweddïo lle dringodd Ewythr Andy ar y bwrdd yn racs grybeibion i ddawnsio.
Dros 45 o flynyddoedd yn cael eu hail-fyw unwaith eto, yn yr amser a gymerodd hi i un dyn meddw syrthio i lawr, hanner ffordd i fewn i ardd ei frawd yng nghyfraith. O dan y goeden afal, yn nhywyllwch ryw nos o Ionawr. Niwl ei anadl yn llifeirio ar ei ôl.
“Dwi di troi’n Ewythr Meddw” meddyliodd. “Fi di Ewythr Meddw’r genhedlaeth hon. Yn cario ffagl traddodiad yfed dynion ein teulu ni at y dyfodol. Arwr. A dwi dal am fwyta’r ffocin gacan ’ma.”
Teulu’n rhuthro allan o’r tŷ gyda chotiau a blancedi. Y neiaint, y nithod, y chwaer , y brodyr a chwiorydd yng nghyfraith. Y meibion yn piso eu hunain yn chwerthin tu ôl i ffenest y gegin. “Bastads bach” bloeddiodd Dennis, just about.
Lawnt.