ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019
Pigion Eisteddfodol: Y Lle Celf – Sara Alis
Bu celf yn bwnc agos iawn at fy nghalon i ers blynyddoedd, ond a minnau bellach yn astudio Athroniaeth a Chrefydd yng Nghaerdydd, bu’n rhaid i mi flaenoriaethu f’amser a gofidiaf i mi golli gafael ar y pwnc lliwgar hwnnw. Ond o gael y cyfle i weithio fel tywysydd yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod dros y ddwy flynedd ddiwethaf, llwydda’r cysylltiad i barhau. Ym Modedern eleni, yn fy marn i roedd yr arddangosfa yr un gryfaf ers sbel, ac roedd cael clywed barn a syniadau’r cyhoedd wrth eu tywys o amgylch y lle yn hynod ddiddorol, yn achosi i mi sylwi ar elfennau gwahanol o’r amryw ddarnau bob diwrnod, a chaniatau i’m hargraffiadau adeiladu a datblygu yn ddyddiol.
Pigion Eisteddfodol: Tŷ Gwerin – Elisa Morris
Mae’r Tŷ Gwerin yn cynnig awyrgylch unigryw i’r traddodiadau. Dyw’r lle ddim yn rhy fach fel nad yw’n bosib cefnogi cynulleidfaoedd y bandiau mwyaf poblogaidd a chynnal digwyddiadau dawns ond eto nid yw’n rhy fawr mewn ffordd all golli’r naws unigryw. Mae’n hawdd teimlo cysylltiad â’r artistiaid ar lwyfan a chael eich swyno gan y gerddoriaeth.
Adolygiad: Haul - Adwaith
Peth digon prin yn y sîn Gymraeg yw dod ar draws band o ferched yn unig, felly diolch byth fod Adwaith wedi camu i’r bwlch amlwg hwnnw, a gwneud hynny’n dda! Cân syml ddigon yw ‘Haul’, eu sengl ddiweddaraf o dan adain Decidedly Records, y label newydd sbon a chyffrous iawn o Gaerfyrddin sydd hefyd wedi rhyddhau senglau cryf gan ARGRPH a Hotel del Salto yn ddiweddar. Mae’n gân serch sy’n dod â mymryn o’r haf atom ni yng nghanol mis Chwefror, ac mae hynny yn ei hun i’w ganmol!