Newyddion: digideiddio Addunedau

Mae Addunedau (2017), cyfrol gyntaf Iestyn Tyne, bellach allan o brint.

Gyda ‘Celf Fodern’ yn ddarn gosod ar gyfer Llefaru Bl. 10 a dan 19 oed yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, rydym wedi rhyddhau Addunedau i’w phrynu a’i lawrlwytho fel cyfrol ddigidol.

I brynu a lawrlwytho copi digidol, cliciwch yma.

Addunedau

Iestyn Tyne / Cyhoeddiadau’r Stamp 2017

argraffiad digidol 2020 / £2.00

Tudalennau enghreifftiol:

Addunedau Yn foliog awn yn o  l i’n dyddiau gwaith a chwyno’n daer drwy draffig trwm y dre nad ydi’r gwyliau’n ddigon hir, na chwaith y tywydd yn ein siwtio. Ydi’r we’n arafach fyth? Mae’r addunedau’n swp mewn bin yn rhywle, ac fe awn yn o  l i’r un
Dod adra Lle bu saint yn golchi’r pren a  chusanau eu gweddï au gwyn; crymaf fy nghefn dros fy ngweddi fy hun. Lle bu hen wy r yn dal pen rheswm a ’u Duw, cyn codi am eu caeau; daliaf innau’r ennyd hon yn dynn yn fy nyrnau. Lle daeth fy nhad i briodi
Previous
Previous

Darllen 2022: dewisiadau’r golygyddion

Next
Next

Newyddion: Ailargraffu ‘Ystlum’