Argraffiad newydd: Rhuo ei distawrwydd hi
Rydym yn falch o gyhoeddi argraffu Rhuo ei distawrwydd hi gan Meleri Davies am y trydydd tro ers rhyddhau’r gyfrol fis Tachwedd 2024.
Anaml y mae ein cyfrolau ni'n mynd i drydydd argraffiad, ac er nad masnacholdeb llyfr ydi llinyn mesur ei werth yn ein llygaid ni, mae'n galonogol gweld y fath groeso i gasgliad cyntaf bardd y mae ei gwaith wedi'n swyno ni ers tro byd. Llongyfarchiadau, Mel!
Ceir rhagor o wybodaeth am y gyfrol yma. Gallwch hefyd archebu copi o’n siop ar-lein yma, ond noder gan fod Rhuo ei distawrwydd hi bellach allan o stoc gennym, y bydd rhywfaint o oedi i gychwyn wrth inni ailargraffu. Cofiwch fod rhai copiau prin o’r argraffiadau blaenorol yn dal i fod yma ac acw yn y siopau stampus.
Rhuo ei distawrwydd hi
Meleri Davies / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024
ISBN 978-1-7384794-4-3 / 56t. / £8.00
Celf y clawr: Lloer Prysor Davies