Cyhoeddiad: Rhuo ei distawrwydd hi - Meleri Davies

Tair cenhedlaeth o fenywod yr un teulu yw asgwrn cefn Rhuo ei distawrwydd hi, y gyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Meleri Davies, a gyhoeddir fis Tachwedd 2024. Mae galar a gorfoledd bod yn fenyw, yn ferch ac yn fam yn cordeddu drwy’r cerddi, sydd weithiau’n gynnil-ymatalgar a thro arall yn ffrwydrol.

Colli ei mham i glefyd motor niwron ddegawd yn ôl oedd y sbardun i Meleri Davies ailgydio yn ei sgwennu, ac mae cerddi adran agoriadol y gyfrol yn cymuno â’r galar ar ei hôl. Mae’r disgwyliadau oedd ar ei mham mewn bywyd yn ddisgwyliadau sy’n parhau i gael eu llwytho ar fenywod, ac mae craidd y casgliad yn cario’r syniad hwnnw gydag o.

Trwy’r cyfan ac wrth gyrraedd cerddi sy’n cyfarch dyfodol ei phlant tua diwedd y casgliad, fe deimlir fod Meleri Davies yn mynegi llawer iawn o’r hyn nad oedd amgylchiadau yn caniatáu i’r sawl a ddaeth o’i blaen ei fynegi. Mae’r gyfrol hon felly nid yn unig yn gasgliad o farddoniaeth goeth, ond yn weithred rymus a phenderfynol – un sy’n rhuo o’r distawrwydd a fu.

Mae Meleri Davies yn hanu o Gwm Prysor ond bellach yn byw yn Llanllechid gyda’i gŵr a thri o blant. Mae’n arwain prosiectau adfywio ac yn angerddol am ynni cymunedol a chynaladwyedd. Cyhoeddodd gerdd mewn print am y tro cyntaf yn Ffosfforws (Rhifyn 1 – 2021), ac mae’i gyrfa fel bardd wedi mynd o nerth i nerth oddiar hynny. Braint llwyr i’r Stampwyr yw cael cyfannu’r cyfnod hwnnw o weithgarwch llenyddol trwy gyflwyno Rhuo ei distawrwydd hi i ddwylo’r darllenydd.

Gan mai gwasg annibynnol, wirfoddol yw Cyhoeddiadau’r Stamp, rydym yn gofyn i’r sawl sydd â’r modd ystyried rhagarchebu ein cyfrolau er mwyn helpu gyda’r costau cynyddol o gynhyrchu a chyhoeddi deunydd print. Mae rhagarchebion Rhuo ei distawrwydd hi bellach ar agor yma.

 

Rhuo ei distawrwydd hi

Meleri Davies / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024

ISBN 978-1-7384794-4-3 / 56t. / £8.00

Celf y clawr: Lloer Prysor Davies

 

Tudalennau enghreifftiol

Previous
Previous

Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2024

Next
Next

Galwad agored: Ffosfforws 6