Cyhoeddiad: Nodiadlyfr bach y wawr - Najwan Darwish
Cyhoeddir cyfrol gyntaf Cyhoeddiadau’r Stamp o farddoniaeth mewn cyfieithiad dros gyfnod y Nadolig. Yn Nodiadlyfr bach y wawr, ceir casgliad o bymtheg cerdd gan Najwan Darwish, un o leisiau barddol cyfoes amlycaf Palesteina, wedi’u dethol a’u cyfieithu o’r Arabeg gan Iestyn Tyne a Hammad Rind.
Disgrifiwyd Najwan Darwish gan y New York Review of Books fel ‘un o’r feirdd cyfoes mwyaf blaenllaw yr Arabeg’; mae wedi teithio’r byd yn darllen ei waith, sydd wedi’i gyfieithu i dros 20 o ieithoedd. Yn dilyn dau gasgliad llawn blaenorol yn y Saesneg mewn cydweithrediad â’i gyfieithydd rheolaidd, Kareem James Abu-Zeid, cyhoeddwyd No One Will Know You Tomorrow: Selected Poems, 2014-2024 eleni. Mae Nodiadlyfr bach y wawr yn arwyddo’r tro cyntaf i gerddi Darwish ymddangos yn y Gymraeg, a’r tro cyntaf i gasgliad o farddoniaeth gael ei gyhoeddi ochr-yn-ochr mewn Arabeg a Chymraeg.
Bu gan Gyhoeddiadau’r Stamp ddiddordeb mewn cyfieithiu llenyddol ers tro, gan gychwyn gyda cholofn reolaidd ‘Snogio trwy Sanau’ yn niweddar gylchgrawn Y Stamp, oedd yn rhoi cyfle i feirdd Cymru a’u haml ieithoedd gydweithio ar drosi eu gwaith ei gilydd. Dyma ddatblygiad naturiol i’r diddordeb hwnnw, sydd hefyd yn cynnwys rhifyn arbennig o Ffosfforws sydd ar y gweill i roi sylw i farddoniaeth o wledydd De-Ddwyrain Ewrop.
Mae’n arwyddocaol, efallai, mai cyfrol bardd o Balesteina fydd y cyntaf i ymddangos yn y fformat hwn, wrth i erchyllterau hil-laddiad Israel ar bobl Gaza barhau i bentyrru. Ystyrir yn yr achos hwn fod y weithred o gyfieithu yn un o gydsafiad hefyd, gan obeithio y bydd cael y cerddi hyn yn eu hiaith eu hunain yn taro tant o fath gwahanol gyda darllenwyr y Gymraeg, ac yn eu herio i wynebu gwirioneddau sydd, hwyrach, yn teimlo gam yn bellach oddi wrthym o’u cael drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae rhagarchebion Nodiadlyfr bach y wawr ar agor yma rŵan, a’r cyhoeddiad hwn yn nodi cychwyn Wythnos Darllen Palesteina, a drefnir gan fudiad Cyhoeddwyr Dros Balesteina. Ceir opsiynau ar y dudalen ragarchebu i roi rhywfaint o arian ar ben pris y gyfrol tuag at Gymorth Meddygol ym Mhalesteina.
Nodiadlyfr bach y wawr
Darwish, Rind & Tyne / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024
ISBN 978-1-7384794-6-7 / 44t. / £7.00
Celf y clawr: Iestyn Tyne
Tudalennau enghreifftiol: