Cyhoeddiad: Caniadau’r Ffermwr Gwyllt - Sam Robinson
Mae’n bleser gennym rannu mai Caniadau’r Ffermwr Gwyllt, pamffled o gerddi gan Sam Robinson, fydd cyfrol nesaf Cyhoeddiadau’r Stamp, i’w ryddhau ym mis Mehefin.
Dyma ddilyniant o gerddi cwbl unigryw sy’n crwydro’r ffin rhwng y diriaethol a byd breuddwydion, yn cynnig sylwebaeth graff ar fywyd yng nghefn gwlad heddiw, ac yn gyfoethog yn eu cyfeiriadaeth. Os beirniadwyd barddoniaeth wledig y Gymraeg am or-sentimentaleiddio yn y gorffennol, dyma gerddi am heddiw ac yfory cymunedau amaethyddol.
Fel bugail yn ardal Bro Ddyfi, mae Sam yn llawn ymwybodol fod dyfodol y cymunedau hynny yn y fantol. Yn ogystal â barddoni a bugeilio, mae hefyd yn gwneud seidr ac yn chwarae’r bodhrán gydag Osian Morris, Cerys Hafana a Trafferth mewn Tafarn. Mae’n aelod o Dîm y Llewod Cochion ar Dalwrn y Beirdd, a cheir mwy o’i hanes yn yr erthygl hon ar wefan BBC Cymru Fyw.
Meddai Carwyn Graves yn ei ragair i’r casgliad:
“Gŵr sy’n gyfarwydd ag alawon y cae yw Sam Robinson, fel cynifer o’r lleisiau eraill o’r gorffennol y mae’n ymglywed â nhw yma. Bugail Cymraeg o Faldwyn yw Sam, a fagwyd yn ddi-Gymraeg ar aelwyd anamaethyddol yn Rhydychen, Lloegr. Diolch iddo am fynegi’r hunllef hen-a-newydd, ac am fynegi’r freuddwyd.
Drachtiwch ohono, cyn camu allan eto, efallai, i’r meysydd prysur.”
Gallwch ragarchebu Caniadau’r Ffermwr Gwyllt heddiw trwy glicio yma.
Caniadau’r Ffermwr Gwyllt
Sam Robinson / Cyhoeddiadau’r Stamp 2022
gyda darluniau gan Grug Muse a rhagair gan Carwyn Graves
ISBN 978-1-8381989-4-7 / 32t. / £6.50
Tudalen enghreifftiol: