Newyddion: Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2022
Rydym yn falch iawn o rannu fod merch y llyn gan Grug Muse a Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne wedi cyrraedd rhestr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru. Dyma’r eildro i gyfrolau’r wasg brofi llwyddiant yn y gystadleuaeth, wedi i Hwn ydy’r llais, tybad?, cyfrol gyntaf Caryl Bryn, ennill y categori barddoniaeth yn 2020.
Yn y 'bargeinio rhwng meddalwch a chadernid' y mae cerddi ail gyfrol Grug Muse yn digwydd; yn y cyrff o ddwr sy'n ddihangfa ac yn fygythiad yn un gwynt. Mae haenau daeareg yn datgelu haenau'r hunan, mewn gwaith sy'n dangos fod y ffin rhwng poen a phleser, rhwng y cignoeth a'r synhwyrus, mewn gwirionedd yn denau iawn.
Casgliad o sonedau yw’r drydedd gyfrol o farddoniaeth gan Iestyn Tyne. Mae’n nhw’n gerddi sy’n aflonyddu ac yn cyffroi, yn fyfyrdodau tyner, chwyrn ar gyflwr cymuned, cynefin a byd.
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gallwch gael gafael ar gopi o merch y llyn neu Stafelloedd Amhenodol o’n siop ar-lein, neu o unrhyw siop lyfrau leol sy’n stocio cyfrolau Cyhoeddiadau’r Stamp.
Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Rhys Iorwerth am gyrraedd y rhestr fer farddoniaeth gyda’i gyfrol ddiweddaraf Cawod Lwch (Carreg Gwalch), ac i’r holl awduron a gyrhaeddodd y rhestrau byrion eleni - mae modd i chi ddysgu mwy amdanynt yma.