Galwad agored: Ffosfforws 2

*Mae’r alwad agored hon bellach wedi cau. Diolch i bawb a anfonodd eu gwaith, ac edrychwn ymlaen at rannu ail rifyn Ffosfforws gyda chi ym mis Awst 2022. Cynhelir lansiad y rhifyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ar ddydd Iau 4 Awst.*

Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yng nghyfnodolyn FFOSFFORWS. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema. Rydym yn croesawu’r caeth a’r rhydd, y traddodiadol a’r avant garde; rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn gwaith sy’n arbrofol o ran thema, ffurf ac arddull, a gwaith gan feirdd o gefndiroedd sydd wedi’u lleiafrifo. 

Darllenwch y gofynion cyflwyno yn ofalus cyn anfon eich gwaith at cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com, gan nodi FFOSFFORWS 2 fel pwnc. Gallwch hefyd anfon eich cerddi trwy’r post i 9 Heol Elinor, Caernarfon, LL55 1PG, erbyn y dyddiad cau.

Golygydd gwadd: Mari Elen

Golygyddion cynorthwyol: Grug Muse & Iestyn Tyne

Dyddiad cau: HANNER NOS, DYDD SUL 15 MAI 2022

GOFYNION

  • Gofynnir i chi gyflwyno hyd at 3 cerdd unigol neu un dilyniant o hyd at 3 cerdd. Ni fyddwn yn dewis mwy nag un gerdd gan un bardd oni bai am gyhoeddi dilyniannau.

  • Nid oes cyfyngiad ar hyd cerddi unigol.

  • Dylai’r cerddi fod yn waith gwreiddiol y sawl sy’n eu cyflwyno, ac ni ddylent fod wedi eu cyhoeddi mewn mannau eraill eisoes.

  • Croesewir cerddi gweledol yn ogystal â cherddi ar ffurfiau mwy traddodiadol, ond dylid ystyried wrth gyflwyno cerddi gweledol mai mewn du a gwyn trwy ddull risograff y caiff Ffosfforws ei argraffu. Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn.

  • Caiff y cerddi eu dewis gan y golygydd gwadd, gyda chefnogaeth y ddau olygydd cynorthwyol; bydd y broses o ddethol yn cael ei gynnal heb i’r golygydd gwadd weld enwau’r beirdd, er mwyn sicrhau diduedd-dra. 

  • Bydd penderfyniad y golygyddion yn derfynol, ac ni fyddwn yn cynnig sylwadau yn ddiofyn ar gerddi a wrthodir. 

  • Gofynnir i chi gyflwyno cerddi yn eu ffurf terfynol; ni fyddwn yn disgwyl i chi ailddrafftio gwaith a ddewisir, ond gallwn gynnig awgrymiadau gramadegol. Byddwn yn darparu proflen i chi ei gwirio cyn argraffu.

  • Byddwn yn cynnig cydnabyddiaeth o £15 am bob cerdd neu ddilyniant a gyhoeddir yn Ffosfforws. Byddwch yn derbyn manylion anfonebu yn dilyn ein penderfyniad.

Os oes gennych unrhyw ymholiad pellach am y broses o gyflwyno cerddi i’w hystyried ar gyfer Ffosfforws, e-bostiwch cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com.

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Caniadau’r Ffermwr Gwyllt - Sam Robinson

Next
Next

Newyddion: Mari Elen - golygydd gwadd Ffosfforws 2