Cyhoeddiadau: Sgriptiau Stampus - Croendena ac Imrie

Mewn cydweithrediad â Frân Wen, mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o gyflwyno dwy gyfrol gyntaf y gyfres Sgriptiau Stampus, sef Croendena gan Mared Llywelyn ac Imrie gan Nia Morais. Fel dwy ddrama sy’n dilyn cymeriadau benywaidd ifanc wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i’w lle yn y byd, dyma’r cyfuniad perffaith i lansio’r gyfres newydd.

Gyda’r sgriptiau yn eu cyfanrwydd, ffotograffau o’r cynyrchiadau gwreiddiol, a rhageiriau newydd gan y ddau ddramodydd, dyma gyfrolau deniadol, hawdd eu darllen, sy’n rhoi lle i’r ddrama fel ffurf lenyddol ar bapur ac a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli eraill i’w perfformio yn y dyfodol.

Dywedodd Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, a fu’n gyfrifol am lwyfaniad cyntaf y ddwy ddrama (ar y cyd â Theatr y Sherman yn achos Imrie) fod gan Mared Llywelyn ‘rywbeth unigryw a phwysig i’w ddweud ynghyd â’r gallu i gyflwyno hynny gyda hiwmor a ffraethineb’ a bod drama Nia Morais yn ‘llawn cymhlethdod hunaniaeth, bydoedd ffantasi a ffurf unigryw i’r sector theatr yng Nghymru’.

Y cyfle cyntaf i gael gafael ar y ddwy gyfrol fydd mewn digwyddiad arbennig yng Nghaffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, am 19:30 nos Lun 7 Awst, gyda Llŷr Titus (Cyhoeddiadau’r Stamp), Gethin Evans (Frân Wen, a chyfarwyddwr Imrie), Rhian Blythe (cyfarwyddwr Croendena) a Mared Llywelyn (dramodydd Croendena). Dilynir y dathliad hwnnw gan berfformiad o Croendena, gyda Betsan Ceiriog yn chwarae rhan Nel, am 21:00. Gallwch hefyd brofi Croendena am yr un amser ac yn yr un lleoliad ar ddydd Mawrth 8 Awst, a dydd Mercher 9 Awst.

Gallwch hefyd archebu eich copïau chi o’r dramâu ar-lein trwy glicio yma. Byddant hefyd ar gael yn fuan i’w lawrlwytho fel cyfrolau digidol.

 

Sgriptiau Stampus 01: Croendena

Mared Llywelyn / Cyhoeddiadau’r Stamp & Frân Wen 2023

ISBN 978-1-8381989-7-8 / 68t. / £8.00

 

Sgriptiau Stampus 02: Imrie

Nia Morais / Cyhoeddiadau’r Stamp & Frân Wen 2023

ISBN 978-1-8381989-8-5 / 64t. / £8.00

 

Tudalennau enghreifftiol:

Croendena

(Ffotograff Kristina Banholzer)

Imrie

(Ffotograff Mark Douet)

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Dysgu Nofio - Iestyn Tyne

Next
Next

Cyhoeddiad: Ffosfforws 4 - gol. Carwyn Eckley