Cyhoeddiad: Ffosfforws 6 - gol. Twm Ebbsworth

Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o gyflwyno chweched rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth gyfoes Ffosfforws, gyda Twm Ebbsworth yn camu i sgidiau’r golygydd gwadd.

Mae’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys cerddi newydd gan Alexa Price, Courtney-Olwen, Ellis Jack Vaughan, Grug Muse, Gwenno Gwilym, Heledd Haf Howells, Jo Heyde, Kayley Roberts, Megan Lloyd (Papur), Melda Lois, Meleri Davies, Morwen Brosschot, Robin Farrar, Sam Robinson a Vernon Jones.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn mynd â chrib mân drwy’r broflen, ac mae’r rhagarchebion ar agor bellach er mwyn i chi helpu i orffen y gwaith o gyhoeddi, argraffu a dosbarthu. Fel y tro diwethaf, mae sawl opsiwn pris yn ddibynnol ar eich modd. Bydd modd hefyd i archebu PDF digidol o’r gyfrol yn dilyn cyhoeddi’r rhifyn print. Mae’r pris uchaf o £25 yn golygu eich bod yn cyfrannu at ffi un o feirdd y rhifyn nesaf, ac y bydd eich enw yn ymddangos fel noddwr yn nhu blaen y gyfrol.

Cliciwch yma i brynu eich copi chi heddiw.

Ffosfforws: Rhifyn 6 - Gaeaf 2024

gol. Twm Ebbsworth / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024

argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 32t.

£2.50 (digidol) / £7.50 (print, gostyngiad) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o rifyn 6 + noddi ffi un o gyfrannwyr Rhifyn 7, gyda’ch enw i ymddangos yn nhu blaen y gyfrol)

Tudalennau enghreifftiol:

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Nodiadlyfr bach y wawr - Najwan Darwish

Next
Next

Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2024