Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2024

Unwaith eto eleni, dewiswyd rhai o gyfrolau Cyhoeddiadau’r Stamp ar gyfer Silff Lyfrau flynyddol Cyfnewidfa Lên Cymru, detholiad o lyfrau newydd o Gymru a argymhellir gan y Gyfnewidfa mewn ffeiriau llyfrau rhyngwladol ar gyfer eu cyfieithu i ieithoedd eraill.

Mae’n braf iawn gweld y gydnabyddiaeth hon yn mynd i Woof gan Elgan Rhys, y drydedd ddrama yng nghyfres Sgriptiau Stampus, ac i Cân y Croesi, pamffled cyntaf Jo Heyde o farddoniaeth. Dyma obeithio y bydd cyfle yn y dyfodol felly i weld y gweithiau hyn yn cael eu cyhoeddi mewn ieithoedd eraill.

Llongyfarchiadau i bawb arall sydd wedi’u cynnwys ar y silff, ac yn arbennig felly i Esyllt a Grug o griw’r Stampwyr, cyd-olygydd ac un o gyfrannwyr y casgliad o ysgrifau am brofiadau menywod yng Nghymru, Hi-Hon (Gwasg Honno).

I ddysgu mwy am yr holl gyfrolau ac awduron sydd wedi’u cynnwys eleni, cliciwch yma.

*

Yn yr un gwynt ag ymfalchïo yn y llwyddiant haeddiannol hwn i ddau o’n hawduron disglair, ac heb dynnu dim oddi wrth eu gwaith na’u camp, rhaid crybwyll safbwynt Ffair Lyfrau Frankfurt, sy’n digwydd yr wythnos hon ac yn un o’r ffeiriau lle bydd y llyfrau hyn - fel degau o filoedd o lyfrau o bob cwr o’r byd - yn cael eu hyrwyddo. Fel aelodau o gasgleb Cyhoeddwyr dros Balesteina, rydym yn arwyddeion llythyr agored sy’n galw ar arweinyddiaeth y ffair i gydnabod hil-laddiad Israel ym Mhalesteina; torri eu cysylltiadau gyda mudiadau diwylliannol yn Israel sy’n cyfrannu at barhad y sefyllfa enbyd sydd ohoni; cydnabod a chondemnio’r ymdrech fwriadol i dargedu sgwennwyr, academyddion, gohebwyr, cyhoeddwyr, ysgolion, prifysgolion, llyfrgelloedd ac archifau; a rhoi lle amlwg i awduron, cyhoeddwyr a naratifau Palesteina yn rhaglen ffair 2024.

Ni chafwyd ymateb boddhaol i’r un o’r pedwar galwad yn y llythyr, fel y manylir arno yma, ac mae’r 500 a mwy o gyhoeddwyr sy’n rhan o Cyhoeddwyr dros Balesteina wedi ailbwysleisio eu galwad.

I’r rhai sydd yn Frankfurt ar gyfer y ffair, tynnwn eich sylw at wyl amgen sydd wedi’i threfnu gyferbyn a hi, a thros yr un cyfnod, y Palestinian Liberatory Book Fair. Ceir yr holl fanylion yma.

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Ffosfforws 6 - gol. Twm Ebbsworth

Next
Next

Cyhoeddiad: Rhuo ei distawrwydd hi - Meleri Davies