Darllen 2022: dewisiadau’r golygyddion

Dyma ni ar ddiwedd blwyddyn yn atgyfodi un o hen eitemau cylchgrawn Y Stamp, trwy fwrw golwg yn ôl dros ein huchafbwyntiau darllen yn ystod 2022. Ein dymuniadau stampus ar gyfer 2023 - welwn ni chi yno, a diolch am bob cefnogaeth.

Iestyn

Llyfrau ffeithiol-greadigol sydd wedi bod yn mynd â 'mryd i eleni yn fwy nag unrhyw ffurf arall. Dyna'r cyfrwng dwi wedi bod yn yn sgwennu ynddo yn fwy na dim hefyd, felly hwyrach mai dyna'r rheswm.

Ddechrau'r flwyddyn, ar un o awgrymiadau'r Bwrdd Bach yn O'r Pedwar Gwynt, darllenais Cyn Oeri'r Gwaed, cyfrol o ysgrifau gan Islwyn Ffowc Ellis. Roeddwn newydd ddod yn rhiant ddiwedd 2021, ac roedd natur gryno, ysbeidiol yr ysgrifau yn fy siwtio i'r dim wrth fachu pum munud prin yma ac acw i ddarllen.

Llyfr arall sy'n perthyn, mewn ffordd mwy uniongyrchol, i'r cyfnod o ymgynefino â rhianta ydi The Argonauts gan Maggie Nelson. Ysgrif hyd-llyfr ydi hon sy'n ymweld â llawer iawn o themâu yn eu tro, ond sydd â pherthynas ramantus, a chreu teulu, fel person queer, yn ganolbwynt i'r cyfan, trwy fanylu ar berthynas yr awdur â'r artist Harry Dodge. Mae trawsffobia ymhobman, ond mae safleoedd rhianta ar y we wir yn nythod cacwn o gasineb tuag at bobl draws, gyda nifer o awduron blaenllaw ac uchel eu parch yn y maes yn megino'r tân. Roedd darllen y gyfrol yma yn antidot iach i'r math yma o agweddau, fel yr oedd y cyfri @epli.photography ar IG, portffolio o waith ffotograffydd sy'n rhoi sylw i rieni gender non-conforming, traws a butch.

Mewn gwythïen debyg eto, mi ges i flas mawr ar The Carrying, cyfrol o farddoniaeth gan Ada Limón, Bardd Cenedlaethol cyfredol yr UD. Mae'r gyfrol hon, fel y mae'i theitl yn awgrymu, am yr hyn rydan ni'n ei ysgwyddo a'i gario hefo ni, ein beichiau - yn achos Limon, mae hyn yn cynnwys ei hanallu i gael plentyn, a chyfyngiadau corfforol a meddyliol. Casgliad aruthrol gan un o leisiau blaenllaw barddoniaeth gyfoes yng Ngogledd America.

Wedyn, Sightlines gan Kathleen Jamie. Y llynedd, ro'n i wedi darllen antholeg o ysgrifau, Antlers of Water - casgliad amlgyfrannog o ysgrifennu ar natur ac amgylchedd yr Alban - a gododd awydd arna i am ddarllen mwy o waith gan olygydd y casgliad hwnnw. Ches i mo fy siomi - mae Sightlines yn tynnu'r awdur yn aml iawn i'r gogledd pell; i ynysoedd anghysbell yr Alban, i amgueddfa'n llawn sgerbydau morfilod yn Norwy, ac i weld yr Aurora Borealis ar yr Ynys Werdd; mae ei hysgrifennu yn fywiog a chlir, tra'n farddonol hefyd, yn mynd â chi ar y daith hefo hi.

Yn fwyaf diweddar dwi wedi bod yn gweithio'n ara deg trwy gyfrol Adam Nicolson, The Making of Poetry. Dyma lyfr sy'n mynd ar drywydd un flwyddyn benodol ac enwog yn hanes barddoniaeth Lloegr - rhwng Mehefin 1797 a Medi 1798 - sef y flwyddyn a dreuliwyd gan William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge yng nghwmni ei gilydd. Yr hyn sy'n ddiddorol am yr ymdriniaeth yw mai'r hyn sydd dan y chwyddwydr yw perthynas y beirdd gyda'i gilydd - ac effaith y gyfeillgarwch ar waith y naill a'r llall. Er bod yr arddull yn hirwyntog ar brydiau, a bod rhywun yn rhy ymwybodol weithiau o gefndir hynod freintiedig yr awdur, mi ges i flas garw ar y sgwennu, sy'n llwyddo'n feistrolgar i adeiladu byd a chyfleu cyffro'r cyfnod. Mae'r gyfrol hefyd ar y rhestr am iddi fod yn help mawr i mi wrth benderfynu ar drywydd darn o waith sydd ar y gweill gen i ar hyn o bryd.

Mi fasa hi'n rhyfedd diweddu fy mlwyddyn gyntaf fel rhiant heb gyfeirio at lyfr plant. Dwi wedi darllen degau lawer ohonynt eleni, ond un sydd wedi aros hefo fi fel stori arbennig o gyfareddol ydi Petai'r byd i gyd yn ... (If all the World were...) gan Joseph Coelho gyda darluniau Allison Colpoys. Ymdriniaeth tyner â heneiddio a cholled trwy lygaid plentyn ifanc, ar hyd y tymhorau.

Esyllt

This little art - kate briggs /// oedd fy hoff lyfr o’r flwyddyn, heb os. Ysgrif hir, pytiog, braf, oedd yn gydymaith imi wrth greu eleni. Myfyrdod hedegog am gyfieithu llenyddol a’r hyn sydd ar waith wrth i ni addasu testun o un iaith i’r llall ac o un syniadaeth i’r llall. Mae dull Briggs o sgwennu yn cofleidio’r darllennydd, yn ein hannog i gynnal sgwrs â hi, i wneud nodiadau, i feddwl yn radical am gyfieithu fel cyfrwng creadigol – rhywbeth y mae taer angen ei ystyried yng Nghymru. Y math o sgwennu sy’n neud i ti dy hun eisiau sgwennu, i ddarllen, i gyfoethogi a llenwi dy feddwl. Buaswn i’n argymell unrhywun sydd â diddordeb mewn grym geiriau i ddarllen y llyfr hwn, mae fel datguddiad. 

the year of magical thinking - joan didion /// ynghanol cwmwl covid lle’r oedd cwsg yn pwyso fel gwres affwysol, llwyddais i ddarllen fan hyn a fan draw berlau oedd yn ddihangfa. (un oedd Beautiful World Where Are You Sally Rooney oedd ychydig yn rhy hunan-ymwybodol i mi, serch ei disgrifiadau dyrchafol am achubiaeth cyfeillgarwch.) Roedd 2021 yn flwyddyn o golled i mi fel cynifer o bobl, ac wedi colli Joan Didion yn hwyr y llynedd roedd darllen ei chofnod hithau o golled ym mhydew peswch covid-19 yn teimlo fel rhyw gatharsis rhyfedd. Darlun cignoeth o alar a dadfeiliad realiti wedi colli cymar oes, ymson hael sy’n rhannu trawma, panig a phwyll-ddirywiad Didion ar ôl colli ei gŵr. Mae geiriau’n methu, yn glymog, yn llithro’n gynddeiriog, yn dadadeiladu strwythurau cyffredin, yn troi’n ddisynnwyr ac felly’n ddrych llawn synnwyr i’r profiad o alaru. Llyfr sy’n falm hallt. Helpu rhyddhau’r peswch.

field - john berger /// fy hoff ysgrif yn Saesneg. Sai’n siŵr pam. Mae’n dweud gymaint mwy na sy ar y papur. Darllenwch fan hyn.

Pleser enfawr oedd cyd-olygu casgliad cyntaf ystlum o gerddi i Gyhoeddiadau’r Stamp, barddoniaeth sy’n dilyn hynt y flwyddyn a’r hyder a’r ansicrwydd ddaw pan fo’r tymhorau’n treiglo yn eu blaenau wrth i ni geisio dal gafael ar emosiwn. Rhaid crybwyll hefyd yn hwyrfrydig bamffledi ysgubol Iestyn Tyne a Grug Muse, Stafelloedd Amhenodol a merch y llyn , ill dau yn cymell chwilfrydedd, pryderon sigledig ein stâd yn y byd, a delweddau hudolus am syniadau gwell.

eraill:

emergency - Daisy Hildyard ///

ysgrifau - T H Parry-Williams ///

a manifesto for ultratranslation - antena ///

lost cat – Mary Gaitskill ///

in the end, it was all about love - Musa Okwonga ///

essays – Lydia Davies ///

tender buttons – Gertrude Stein ///

Grug

Roedd uchafbwyntiau ffuglen ‘leni yn cynnwys argraffiadau newydd o waith yr awdures Natalia Ginzburg, gan gyhoeddiadau Daunt. Nofelydd Eidalaidd-Iddewig o ganol yr 20ed ganrif oedd Natalia Ginzburg, ac mae sawl un o’r llyfrau yn ymwneud a phrofiadau ei theulu yn yr ail ryfel byd. Ambell uchafbwynt arall oedd Seven Steeples gan yr awdures Wyddelig Sara Baume; Piranesi gan Susanna Clarke (Diolch i Llŷr Titus am yr awgrym), a Goodbye Ramona gan yr awdures Gatalan Montserrat Roig.

O ran llyfrau ffeithiol-greadigol, mi wnes i fwynhau A Horse at Night gan Amina Cain ac The Abundance gan Annie Dillard oherwydd yr ysgrifenu cain. Roedd The Argonauts gan Maggie Nelson a The Chronology of Water gan Lidia Yuknavitch yn ddau fywgraffiad cignoeth o fywydau dwy ddynes o’r UDA. Mi ges i fy herio a fy mhryfocio gan The Right to Sex, Amia Srinvasan, a fy ysbrydoli gan A Ghost in the Throat, Doireann Ní Ghríofa a This Book is a Plant, Wellcome Collection.

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Ffosfforws 3 - gol. Llinos Anwyl

Next
Next

Newyddion: digideiddio Addunedau