Newyddion: Darllen Palesteina

O fis Ebrill, bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn cynnal digwyddiad misol o’r enw ‘Darllen Palesteina’, cyfle i ddarllen, trafod, dysgu a chyfoethogi’n dealltwriaeth o lenyddiaeth o Balesteina, gan awduron Palesteinaidd, ac mewn cydsafiad gyda phobl Palesteina.

Bydd y gyfres hefyd - trwy werthiant tocynnau - yn codi arian tuag at gymorth meddygol ym Mhalesteina.

Fel cyhoeddwyr, rydym wedi arwyddo datganiad mudiad Cyhoeddwyr dros Balesteina, sydd ymhlith llawer o bethau eraill yn nodi y dylem ymrwymo i droi y diwydiant cyhoeddi yn ofod lle gall dysg a llais ffynnu. Ein gwaith ni fydd creu lle i leisiau Palestiniaid, a’r lleisiau hynny sy’n cydsefyll yn erbyn peiriant gormes a thrais.

Testun gosodedig cyntaf Darllen Palesteina fydd Poems for Palestine (Publishers for Palestine 2024). Mae’r casgliad hwn yn cynnwys cerddi a chyfieithiadau o waith Refaat Alareer, Fady Joudah, Hiba Abu Nada, Olivia Elias, Samer Abu Hawwash, Maya Murry, Ahlam Bsharat, Basman Aldirawi, a Ghassan Zaqtan.

Gallwch ddod o hyd i holl fanylion y digwyddiad cyntaf, a gynhelir ar nos Fercher 10 Ebrill am 20:00, yma.

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Ffosfforws 5 - gol. Miriam Elin Jones

Next
Next

Cyhoeddiad: Sgriptiau Stampus 03 – Elgan Rhys yn cyhoeddi WOOF