Cyhoeddiad: Ffosfforws 5 - gol. Miriam Elin Jones

Mae’n fraint gennym rannu clawr ac enwau cyfrannwyr pumed rhifyn Ffosfforws, ein cyfnodolyn ar gyfer barddoniaeth newydd yn y Gymraeg, a olygwyd y tro hwn gan Miriam Elin Jones.

Mae ein rhifyn gwanwynol cyntaf yn cynnwys pymtheg o gerddi gan bymtheg o feirdd cyfoes; rhai yn enwau cyfarwydd ac eraill yn cyhoeddi am y tro cyntaf: Elwyn Caera, Greta Sion, Gruff Gwynn, Iwan Tomos Kellett, Jo Heyde, Katrina Moinet, Lois Elenid, Megan Lloyd (papur), Meleri Davies, Sian Northey, Siân Shakespear, Siôn Pennar, Siw Harston, Tegwen Bruce-Deans a Vernon Jones.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn mynd â chrib mân drwy’r broflen derfynol, ac mae’r rhagarchebion ar agor bellach er mwyn i chi helpu i orffen y gwaith o gyhoeddi, argraffu a dosbarthu. Fel y tro diwethaf, mae sawl opsiwn pris yn ddibynnol ar eich modd; o dalu £2.50 am PDF digidol o’r casgliad i £25, sy’n golygu eich bod yn cyfrannu at ffi un o feirdd y rhifyn nesaf, ac y bydd eich enw yn ymddangos fel noddwr yn nhu blaen y gyfrol.

Cliciwch yma i brynu eich copi chi heddiw.

 

Ffosfforws: Rhifyn 5 – Gwanwyn 2024

gol. Miriam Elin Jones / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024

argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 32t.

pris £2.50 (digidol) / £7.50 (print, gostyngiad) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o rifyn 5 + noddi ffi un o gyfrannwyr Rhifyn 6, gyda’ch enw i ymddangos yn nhu blaen y gyfrol)

 

Tudalennau enghreifftiol:

Previous
Previous

Newyddion: Darllen Palesteina 2 - Orientalism

Next
Next

Newyddion: Darllen Palesteina