Cyhoeddiad: Sgriptiau Stampus 03 – Elgan Rhys yn cyhoeddi WOOF

Trydedd gyfrol cyfres Sgriptiau Stampus (yn dilyn Croendena ac Imrie), a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, yw Woof gan Elgan Rhys. Cyhoeddir sgript y ddrama union bum mlynedd ers ei llwyfaniad cyntaf yn ystod Ionawr a Chwefror 2019. Er fod Elgan bellach wedi hen hawlio’i le yn llygad byd dramâu a nofelau cyfoes y Gymraeg, Woof oedd ei gomisiwn cyntaf ar gyfer drama lwyfan lawn.

Adeg y rhediad hwnnw o berfformiadau yn nechrau 2019, gydag Aled Pedrick yn chwarae rhan Jesse a Berwyn Pearce fel Daf, cafwyd adolygiadau disglair – disgrifiwyd y ddrama fel ‘campwaith’ gan The Guardian, ac roedd ymhlith uchafbwyntiau BBC Radio Wales a Wales Arts Review o fyd y theatr y flwyddyn honno. Mae’n dilyn cyfnod ym mywydau dau ddyn ar drothwy eu tridegau, wrth iddynt ddisgyn mewn cariad a sylweddoli’n araf fod yr hyn sydd ei angen ar y naill a’r llall yn wahanol. Mae ysgrifennu cignoeth a thelynegol Elgan Rhys yn croniclo’r tensiwn sy’n cronni rhwng Daf a Jesse wrth i’r ddrama fynd rhagddi ac yn dawnsio’n fedrus rhwng doniolwch, tynerwch a thywyllwch.

Gyda’r sgript yn ei gyfanrwydd, ffotograffau o’r cynhyrchiad gan Chris Lloyd a rhagair newydd gan y dramodydd, dyma gyfrol ddeniadol, hawdd ei darllen, sy’n rhoi lle i’r ddrama fel ffurf lenyddol ar bapur ac a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli eraill i’w pherfformio yn y dyfodol.

Gan mai gwasg annibynnol, wirfoddol yw Cyhoeddiadau’r Stamp, rydym yn gofyn i’r sawl sydd â’r modd ystyried rhagarchebu ein cyfrolau er mwyn helpu gyda’r costau cynyddol o gynhyrchu a chyhoeddi deunydd print. Mae rhagarchebion Woof bellach ar agor yma. Bydd y ddrama hefyd ar gael maes o law fel cyfrol ddigidol i’w phrynu a’i lawrlwytho.

Caiff achlysur lansio’r gyfrol ei ddathlu ar ffurf pennod yn y gyfres Seiniau Stampus fis Chwefror, wrth i Elgan sgwrsio gydag Esyllt Lewis, Gethin Evans a Hannah Sams.

Sgriptiau Stampus 03: Woof

Elgan Rhys / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024

ISBN 978-1-7384794-0-5 / 68t. / £8.00

 

Tudalennau enghreifftiol (o broflenni heb eu cywiro - gall fod newidiadau):

Previous
Previous

Newyddion: Darllen Palesteina

Next
Next

Galwad Agored: Ffosfforws 5