Newyddion: Darllen Palesteina 2 - Orientalism

Testun gosod digwyddiad nesaf Darllen Palesteina fydd cyflwyniad Edward Said i’w gyfrol seminal, Orientalism. Pwrpas sesiynau ar-lein Darllen Palesteina yw rhoi cyfle i ddarllen, trafod, dysgu a chyfoethogi ein dealltwriaeth o lenyddiaeth o Balesteina, gan awduron Palesteinaidd, ac mewn cydsafiad gyda phobl Palesteina. Mae’r gyfres hefyd - trwy werthiant tocynnau - yn codi arian tuag at gymorth meddygol ym Mhalesteina (MAP).

Gellir dod o hyd i fersiwn PDF o Orientalism drwy glicio yma; yr adran dan sylw fydd ‘Introduction’, sef tudalennau 1-28 (neu 9-36 yn y detholiad PDF). Rydym yn annog y sawl sydd gyda’r modd i gael gafael ar gopi o’r llyfr o’u hoff siop lyfrau annibynnol - a chofiwch hefyd am wasanaethau gwych eich llyfrgelloedd lleol!

Fel cyhoeddwyr, rydym wedi arwyddo datganiad mudiad Cyhoeddwyr dros Balesteina, sydd ymhlith llawer o bethau eraill yn nodi y dylem ymrwymo i droi y diwydiant cyhoeddi yn ofod lle gall dysg a llais ffynnu. Ein gwaith ni fydd creu lle i leisiau Palestiniaid, a’r lleisiau hynny sy’n cydsefyll yn erbyn peiriant gormes a thrais.

Gallwch ddod o hyd i holl fanylion y digwyddiad, a gynhelir ar nos Fercher 8 Mai am 20:00, yma.

*Diolch o galon i bawb a gefnogodd y digwyddiad cyntaf, pryd cafwyd trafodaeth werthfawr ar antholeg farddoniaeth Poems for Palestine. Llwyddwyd i godi £42 tuag at waith MAP.

Next
Next

Cyhoeddiad: Ffosfforws 5 - gol. Miriam Elin Jones