Cyhoeddiad: Dysgu Nofio - Iestyn Tyne
Cyhoeddir Dysgu Nofio, pamffled newydd o gerddi gan Iestyn Tyne, gan Gyhoeddiadau’r Stamp ym mis Medi. Dan y teitl ‘Rhyddid’, cyflwynwyd y casgliad i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, ac fe’u gosodwyd yn y tri uchaf ac yn deilwng o’r wobr gan y beirniaid, Jason Walford Davies, Marged Haycock ac Elinor Wyn Reynolds.
Dywedodd Jason Walford Davies yn ei feirniadaeth mai ‘gogoniant y casgliad myfyrdodus a thra galluog hwn yw’r ddawn lachar a welir yma i gynnal, o’r dechrau o’r diwedd, un ddelwedd elfennaidd, lifeiriol: dŵr’. Gwneir hynny trwy am-yn-eilio cerddi dan y teitl ‘Gwers’, sy’n darlunio cwrs un wers nofio mewn canolfan hamdden ar nos Lun, gyda cherddi ehangach eu golwg, lle mae’r profiad o ddod yn rhiant yn wyneb argyfwng hinsawdd a bygythiad difodiant yn llifo trwy bopeth.
Dyma’r ail bamffled o gerddi gan Iestyn Tyne (yn dilyn Cywilydd, a ymddangosodd mewn argraffiad cyfyngedig o 77 copi yn 2019), ac mae eisoes wedi cyhoeddi tri chasgliad llawn o farddoniaeth; cyrhaeddodd y ddiweddaraf, Stafelloedd Amhenodol, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2022 a chaiff ei ryddhau fel cyfieithiad ochr-yn-ochr, Unspecified Spaces, gan Broken Sleep Books yn Hydref 2023.
Cyhoeddir manylion darlleniadau o’r pamffled hwn a’r gyfrol o gyfieithiadau yn fuan. Gallwch ragarchebu eich copi chi, a thrwy hynny gefnogi’r gost o gynhyrchu ac argraffu, trwy glicio yma.
Dysgu Nofio
Iestyn Tyne / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023
ISBN 978-1-8381989-9-2 / 24t. / £6.50
Celf y clawr: Iwan Huws
Tudalennau enghreifftiol: