Cyhoeddiad: Ffosfforws 2 - gol. Mari Elen

Mae’n fraint gennym ddatgelu clawr a chyfrannwyr ail rifyn cyfnodolyn barddoniaeth Ffosfforws, a gyhoeddir yn Eisteddfod Tregaron.

Mae’r cerddi wedi eu dethol gan Mari Elen ac yn cynnwys gwaith gan Buddug Roberts, Dyfan Lewis, Gruffudd Gwynn, Jo Heyde, Katie Gramich, Meleri Davies, Miriam Elin Jones, Morwen Brosschot, Osian Wynn Davies, Sam Robinson, Siân Shakespear, Siôn Tomos Owen, Sophie Roberts, Tegwen Bruce-Deans a Vernon Jones.

Mae’r cyfan wedi'i gysodi ac yn barod i fynd, ac rydan ni angen eich cymorth CHI i orffen y gwaith. Fel gyda rhai o’n casgliadau amlgyfrannog blaenorol, byddwn yn ariannu’r gwaith o argraffu’r casgliad trwy ragarchebion. 

Mi allwch brynu copi print o Ffosfforws am £10 neu £5; neu dderbyn copi digidol am £2 - y nod gyda hyn yw sicrhau fod pobl yn talu’r hyn sy’n rhesymol iddyn nhw, yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau. 

Ewch draw i’n siop ar-lein heddiw i sicrhau eich copi!

Ffosfforws: Rhifyn 2 - Haf 2022

gol. Mari Elen / Cyhoeddiadau’r Stamp 2022

argraffiad riso cyfyngedig gan SnapShop, Caerdydd.

£2.00 (digidol) / £5.00 / £10.00

Tudalennau enghreifftiol (rhannau o gerdd Katie Gramich, ‘Clytiau’, ac ysgrif olygyddol Mari Elen):

Previous
Previous

Newyddion: Steddfod y Stampwyr

Next
Next

Newyddion: Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2022