Newyddion: Steddfod y Stampwyr

Dyma restr o ddigwyddiadau Cyhoeddiadau’r Stamp yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni. Gobeithio y gwelwn ni rai ohonoch chi yno, a chofiwch ddod draw i ddeud helo.

Mi fydd amryw byd o awduron a golygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill yn ystod yr wythnos, felly cadwch lygad amdanyn nhwythau!

Sul 31 Gorffennaf | 10:00 | Y Babell Lên

Babis Datganoli. Cyhuddiad cyffredin yn erbyn beirdd y genhedlaeth ol-ddatganoli yw nad ydynt yn ysgrifennu’n ‘ddigon gwleidyddol’. Panel o feirdd a sgwennwyr ifanc yn trafod y grymoedd gwleidyddol sy’n gyrru eu gwaith heddiw.

Grug Muse, Morgan Owen, Llio Elain Maddocks

Iau 4 Awst | 13:15 | Llwyfan y Llannerch

Lansiad Ffosfforws. Darlleniadau a sgwrs gyda rhai o gyfranwyr ail rifyn cyfnodolyn barddoniaeth newydd Cyhoeddiadau’r Stamp.

Mari Elen, Buddug Roberts, Katie Gramich, Osian Wynn Davies

Gwener 5 Awst | 11:30 | Stondin Awen Meirion

Caniadau’r Ffermwr Gwyllt ac Ystlum. Darlleniadau o bamffled diweddaraf a phamffled nesaf Cyhoeddiadau’r Stamp.

Sam Robinson, Elen Ifan

Previous
Previous

Newyddion: merch y llyn - Enillydd Categori Barddoniaeth #LlYF22

Next
Next

Cyhoeddiad: Ffosfforws 2 - gol. Mari Elen