Cyhoeddiad: dim eto - gol. Esyllt Lewis
Mae dim eto yn casglu ynghyd ddarnau o waith celf gweledol sy’n wrthodedig gan yr artistiaid eu hunain – hynny yw, dyma gelf nad yw’r artistiaid yn hollol hapus gydag ef neu gelf na fydden nhw fel arfer yn dangos i’r cyhoedd.
Cyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen
Bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn lansio’r casgliad cyhoeddedig cyntaf o waith y bardd Morgan Owen yng Ngŵyl Arall, Caernarfon. Mae moroedd/dŵr yn ddilyniant cysyniadol ar ffurf pamffled, ac fe ddaw o’r wasg fisoedd yn unig cyn cyhoeddi cyfrol gyntaf Morgan, Bedwen ar y Lloer.
Galwad Agored: Loc-in Felindre
Dyma alw ar ymarferwyr creadigol o bob maes a mympwy: artistiaid gweledol, cerddorion, llenorion, dramodwyr ac yn y blaen.
Newyddion: Blwyddyn Newydd, Golygydd Newydd!
Mae’r Stamp yn falch iawn o gyhoeddi bod ein gwaith chwilota a chwilmentan am aelod newydd o’r criw golygyddion ar ben a bod Esyllt Lewis wedi ei phenodi fel golygydd newydd sbon.
CYFLE: Golygydd - Cylchgrawn Y Stamp
Mae cylchgrawn Y STAMP yn chwilio am olygydd newydd i ymuno â’r tîm Golygyddol.
Cyhoeddiad: Lansiad Rhifyn 4 Y Stamp
Wel, mi ddaeth hi’n bryd i lansio rhifyn print arall o’r Stamp. Dyma’r pedwerydd rhifyn llawn, ac unwaith eto, da ni’n falch iawn o’i gyflwyno fo i chi.
Fel yr ydan ni eisoes wedi ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, mi fydd y lansiad yn digwydd am 20:00 ar nos Iau y 29ain o Fawrth yn Y Llofft yn Nhafarn y Fic, Llithfaen gyda mynediad yn £3.00.
Cyhoeddiad: Lansiad Rhifyn 1 Y STAMP
Seiniwch rhyw fath o utgyrn a thaniwch gwpwl o party poppers… mae gennym GYHOEDDIAD!
Mae’n braf gennym fel golygyddion ddatgelu o’r diwedd manylion lansiad ein rhifyn print cyntaf, a fydd yn Nhafarn y Cwps, Aberystwyth ar y 23ain o Fawrth. Bydd y drysau’n agor am 7.30 ymlaen, gyda’r noson o ddarlleniadau, dathlu, dawnsio a cherddoriaeth yn dechrau am 8.