Dathlu: Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2017

Mae dwy ferch ar fwrdd olygyddol Y Stamp, ond pedwar ffeminist. Ac phob un ohonom yn gytun na ellid gadael i Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni fynd heb ei nodi. 

Gan ddechrau yng Nghymru Fach, gallwn weld lle i ddeisyfu mwy o leisiau benywaidd yn mynd ati i osod eu stamp (no pun intended!) ar y sin lenyddol yng Nghymru. Mae pethau wedi gwella’n aruthrol ond nid yw’r gynrychiolaeth o ran y rhywiau yn gyfartal, o hyd. Gofynnwyd i dri darllenydd – Elinor Wyn Reynolds, Ifan Morgan Jones a Hannah Sams – i rannu eu profiadau hwy o ddarganfod lleisiau benywaidd yn ein llenyddiaeth, ac mae ymateb y tri yn cynnwys sylwadau a chwestiynau pur ddiddorol. 

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched heddiw, gwnewch fwy na rhannu hashnod: cydiwch mewn llyfr gan lenor benywaidd a’i fwynhau, cefnogwch weisg megis Honno, sy’n cyhoeddi clasuron coll, heriwch y byd sydd o’ch hamgylch a mynnwch fwy. Mynnwch fwy o bob dim, o hyd. 

Iss ‘wimmin’s issues’, innit?
Elinor Wyn Reynolds, golygydd a bardd

Fel bardd, pan o’n i’n iau, mi oeddwn i’n ei chael hi’n anodd i ffeindio barddoniaeth gan fenywod oedd yn siarad â fi yn Gymraeg. Roedd gwaith pobol fel Menna Elfyn ac Elin ap Hywel yn greiddiol i fy mynegiant i fel Cymraes ac yn anhygoel o bwysig i ’natblygiad i fel bardd. Falle ’mod i’n ystyried ar y pryd mai rhywbeth gwrywaidd oedd barddoni yn Gymraeg – er wnaeth neb ddweud hynny wrtha i yn yr union ffordd yna – a bod y ‘traddodiad’ yn cynnwys lleisiau dynion gan mwyaf (oedd hefyd yn siarad ag agweddau ac elfennau eraill ynof i, am wn i). Er hyn, er hyn i gyd, doeddwn i ddim yn teimlo fel lleiafrif, achos dim ond un profiad sy gen i, fy un fy hun, ac mae hwnnw’n 100%. A hefyd, wedodd neb wrtha i nad o’n i’n cael sgrifennu achos ’mod i’n fenyw, tasen nhw wedi, bydden i wedi pynsho nhw yn eu chops!

Ond ble’r o’n i am gael clywed y mynegiant hwnnw oedd yn debyg i’r llais oedd tu fewn i fi, y llais hwnnw oedd jyst â byrstio ishe dod mas, a ble o’n i am glywed pethe fel ro’n i ishe’u clywed nhw? Lle’r oedd y mynegiant benywaidd hwnnw i fi? Yn aml ro’n i’n cael hyd i’r hyn yr oedd angen arna i mewn mannau eraill. Roedd llais rhywun fel Maya Angelou yn bwysig, bwysig a phobol fel Anna Swir, Linda France, Maura Dooley, Grace Nichols a Moniza Alvi. Roedden nhw’n mynegu pethau mewn ffordd hyderus a heriol, cynhyrfus a gwych … hollol wych … ro’n i ishe bod fel nhw! Roeddwn i’n chwilio am brofiadau ac anturiaethau ym myd barddoniaeth fel menyw ac fel bardd (barddes?) – dyna oeddwn i ar dân dros brofi.

O ran llenyddiaeth ryddieithiol fe glatshodd sgrifennu Kate Bosse Griffiths fi ar draws fy ngwep rhaid dweud. Ac mae Mae’r Galon Wrth y Llyw yn un o fy hoff gyfrolau i; mae mor uniongyrchol o ran iaith, mor eglur, mor gyhyrog. Angharad Tomos a’i chyfrolau hithau wedyn yn creu’r fath argraff.

Erbyn heddi yng Nghymru, ni’n cwmpo dros fenywod sy’n sgrifennu ym mhob man ac mewn pob math o genre.

Fy hun, dyddie ’ma, wy’n dwlu ar waith Angharad Price a Sian Northey. Ma nhw’n siarad â fi.

Un dyn, a dylanwad llond tŷ o ferched…
Ifan Morgan Jones, llenor a darlithydd:

Mae ein tŷ ni yn llawn merched sy’n hoffi darllen, a does dim prinder o lyfrau gan ferched i’w diddanu. Dros yr wythnosau diwethaf mae fy mhartner Llinos wedi bod yn darllen Pantywennol gan Ruth Richards; Mari Glwys, 9 oed, wedi bod yn cael blas ar Trwy’r Darlun gan Manon Steffan Ros. Mae Magw Jên, 6 oed, wrth eu bodd â llyfrau Na Nel! Meleri Wyn James. Ac mae Jano Rael, 5 oed, yn dal i fwynhau clasuron Mary Vaughan Jones, o Sali Mali i’r Pry Bach Tew.

Dros y blynyddoedd awduron benywaidd sydd yn aml wedi gwneud y mwyaf o argraff ar ddarllenwyr Cymraeg ac wedi gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosib o fewn ein llenyddiaeth. Does ond angen meddwl am straeon byrion Kate Roberts, neu nofelau a sgriptiau Fflur Dafydd, Manon Steffan Ros a Caryl Lewis dros y ddegawd ddiwethaf. Er 2004 mae 15 o ferched wedi ennill prif wobrau rhyddiaith yr Eisteddfod, o’i gymharu â 10 o ddynion.

Mae dwy o’r nofelau Cymraeg a wnaeth y mwyaf o argraff arna i erioed wedi eu hysgrifennu gan fenywod – Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames a Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas. Er bod y ddwy nofel wedi eu lleoli yn ardal Dolgellau ni allant fod yn fwy gwahanol. Rwy’n cofio golygfa agoriadol Y Stafell Ddirgel, gyda boddi Betsan Prys, yn gadael dipyn o argraff arna i pan ddarllenais i hi gyntaf yn fy arddegau cynnar. Fe ddysgais i rywbeth am y natur ddynol sy’n berthnasol iawn yn oes gwleidyddiaeth Brexit a Trump! Dangosodd Gwrach y Gwyllt i mi fod hawl i awdur, a’i ddarllenwyr, gael lawer iawn o hwyl â llenyddiaeth Cymraeg wrth neidio i fyd o hud a lledrith, a lot fawr o ryw.

Rydw i’n ymdrechu i sicrhau bod cymeriadau benywaidd credadwy yn fy nofelau fy hunan. Dydw i ddim yn credu i mi lwyddo bob tro. Cefais i fy magu mewn tŷ gyda dau o frodyr ac wrth edrych yn ôl dydw i ddim yn siŵr a ydi’r cymeriadau benywaidd yn fy nofel gyntaf, Igam Ogam, yn argyhoeddi. Gobeithio bod byw mewn tŷ gyda phedair o ferched dros y blynyddoedd diwethaf wedi newid hynny ac y bydd darllenwyr yn cael blas ar gymeriadau gwrywaidd a benywaidd yn fy nofel nesaf, Dadeni.

Datod tafodau: pwysigrwydd astudio gwaith beirdd benywaidd
Hannah Sams, darlithydd

Y bore yma ar y ffordd i’r gwaith, roeddwn i’n gwrando ar bodlediad o hen ddarlith gan yr Athro Mary Beard, ‘The Public Voice of Women’.[1] Yn y ddarlith honno mae’r Athro Beard yn dadlau bod dylanwad meddylwyr o’r hen Roeg o orfodi menywod i ddal eu tafodau, neu eu torri mewn rhai achosion eithafol, megis yn achos Philomela o Metamorphoses gan Ovid er mwyn eu rhwystro rhag siarad yn gyhoeddus. Ac er nad yw hynny’n digwydd  yn llythrennol heddiw, mae’r Athro Beard yn cyfeirio at sawl enghraifft o awydd rhai sylwebyddion gwrywaidd i dawelu merched o hyd. Ymhlith yr enghreifftiau y mae’n cyfeirio atynt y mae rhestr flynyddol un sylwebydd gwrywaidd o’r menywod mwyaf twp i ymddangos ar Question Time. At hyn, sonia am fygythiadau i’w threisio a’i dienyddio a gafodd dros Twitter. Pa ryfedd bod merched yn ofni agor eu cegau o hyd?

Ychydig oriau wedi gwrando ar y podlediad hwnnw, dyma dderbyn neges Facebook gan un o olygyddion Y Stamp yn gofyn imi  ysgrifennu ‘pwt byr yn sôn am lenorion benywaidd a wnaeth argraff arnaf’. A dyma finnau’n meddwl ar unwaith nid am lenor penodol ond yn ôl at ddarlith benodol a gafodd cryn argraff arnaf. Darlith Robert Rhys a oedd yn cyflwyno tirlun barddoniaeth gan feirdd benywaidd inni oedd honno. Oeddwn, roeddwn i wedi clywed a darllen cerddi nifer o feirdd benywaidd, ond ychydig a wyddwn i am gyd-destun maes llenyddiaeth gan feirdd benywaidd ar ôl 1969 yn benodol. Un bardd benywaidd yn unig a oedd ar y cwricwlwm TGAU nôl yn 2006. Ac wrth Gwglo’r peth yn gyflym wrth ysgrifennu’r pwt hwn, trist yw gweld nad yw’r sefyllfa wedi newid, yn arbennig o ystyried bod y mwyafrif helaeth o ddisgyblion sy’n dewis astudio’r Gymraeg fel pwnc lefel A ac yna fel pwnc gradd yn y brifysgol yn ferched.

Eleni cefais y cyfle i gyflwyno’r cyd-destun hwnnw fy hun i griw o fyfyrwyr Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe ar ôl cael fy mhenodi’n ddarlithydd. Profiad diddorol oedd cael bod ar ben arall y ddarlith a gweld ymatebion fy myfyrwyr, nifer ohonynt yn ferched, wrth gyflwyno maes hwn iddynt. Cafwyd trafodaethau bywiog yn y seminarau wrth drafod rhai o’n beirdd benywaidd pwysicaf ac roedd rhai aelodau gwrywaidd o’r dosbarth yn dadlau nad oedd modd iddynt fel dynion uniaethu â’r profiadau a’r themâu penodol a oedd yn cael eu lleisio yn y cerddi. Roedd hyn yn codi cwestiwn pwysig – o ystyried mai cynnyrch dynion yn bennaf a astudir ar gyrsiau TGAU, Lefel A a chyrsiau gradd mewn adrannau Cymraeg, sut felly y mae merched yn ymdopi? Yn arbennig o ystyried fod canran uwch o ferched yn astudio’r Gymraeg o’u cymharu â bechgyn. Cynnig golygyddion rhifyn dylanwadol Y Traethodydd nôl yn 1986 yr esboniad isod:

Mae profiad ac emosiwn bardd fel Wordsworth, fe awgrymir yn universal, fod ei fynegiant yn fynegiant ‘yr enaid’, yn siarad â merched a dynion yn yr un ffordd. Mae merched, er mwyn llwyddo dan y drefn sydd ohoni, yn gorfod dysgu strategaeth wrywaidd wrth ddarllen ac wrth ymateb i lenyddiaeth gan ddynion, ac y mae hyn yn awgrymu y gallai bechgyn, yn eu tro, ddysgu strategaeth gyffelyb wrth ddarllen gweithiau llenyddol gan ferched. [2]

Cytunaf â sylwadau’r golygyddion uchod. Mae hepgor darnau gan feirdd benywaidd o feysydd llafur yn golled nid un unig i’r merched sy’n dilyn y cyrsiau hyn ond y bechgyn hefyd. Gobeithiaf erbyn hyn fod pryderon cychwynnol y myfyrwyr gwrywaidd wedi eu tawelu yn sgil hyn a fy mod wedi llwyddo i’w darbwyllo, fel y llwyddodd darlith Robert Rhys mi rhai blynyddoedd yn ôl, bod angen iddynt hwythau addasu eu strategaeth wrth ddarllen barddoniaeth gan feirdd benywaidd. Byddai’r farddoniaeth yma’n fodd o’u helpu i ddeall profiadau’r ferch. Yn anffodus, nid oes angen edrych mor bell yn ôl ag Ovid i ddod o hyd i ymdrechion rhai i dawelu llais y ferch, sylwadau diweddar yr Arlywydd Trump a Janusz Korwin-Mikke yn enghreifftiau sy’n fyw iawn yn ein cof.[3] Mae hyn yn fy argyhoeddi fod mawr angen modiwlau megis modiwl Robert Rhys a amlygodd syniadau a lleisiau newydd i mi o safbwynt y ferch fel ein bod yn datod y cwlwm a fu yn nhafodau merched ein llenyddiaeth.

[1] Mary Beard, ‘The Public Voice of Women’, https://www.lrb.co.uk/v36/n06/mary-beard/the-public-voice-of-women [Cyrchwyd 07/03/17]

[2] Cathryn Charnell-White a Siwan M. Rosser (gol.), ‘O’r Rhifyn Gwreiddiol: 1986’, Y Traethodydd, Cyfrol CLXXII, Rhif 720, (Ionawr 2017), tt. 33-34.

[3] http://www.telegraph.co.uk/women/politics/donald-trump-sexism-tracker-every-offensive-comment-in-one-place/ [Cyrchwyd 07/03/17] http://www.bbc.co.uk/news/world-europe-39152562?ocid=socialflow_twitter [Cyrchwyd 07/03/17]

Previous
Previous

Cerdyn Post Creadigol: Klagenfurt - Elin Wyn Erfyl Jones

Next
Next

Rhestr Ddarllen: 10 Nofel Arabeg - Asim Qurashi