Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 1]
Am dros flwyddyn bellach, dwi wedi bod yn llunio nofel ffantasi. Fe ddechreuodd hi fel nofel antur digon ffwrdd-â-hi i ddechrau, cyn i mi sylweddoli ei bod hi’n rhan o rywbeth llawer mwy. Erbyn hyn, dwi’n sicr y byddaf i’n llunio o leiaf dwy nofel arall am yr un cymeriadau, ac o bosib yn llunio pob math o gyfresi a nofelau a straeon byrion eraill, wedi eu lleoli yn yr un byd, am weddill fy mywyd. Dwi hyd yn oed yn meddwl gwahodd awduron eraill i lunio straeon wedi eu seilio yno hefyd …
Ond ta waeth am hynny am y tro. Dyma’r cam cyntaf i mewn i’r byd yna – stori fer sy’n digwydd tua deugain o flynyddoedd cyn y nofel. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Stamp am gymryd y cam cyntaf yma efo fi. Mwynhewch.
Elidir
*****
Doedd y mynachdy ddim ar unrhyw fap. Doedd y rhan fwyaf o bobl yr ardal ddim yn gwybod ei fod yn bodoli o gwbl. Wedi ei leoli yn nhir gwyllt ac anwar y Cneubarth, ac ymhell, hyd yn oed, o ganolfannau tlawd a rhyfelgar y wlad honno, yng nghanol anialwch dienw, ei wyntoedd tywod yn boddi unrhyw lwybrau’n ddigon buan.
Ac eto, roedd rhai yn dod o hyd iddo o bryd i’w gilydd. Dynion a merched ifainc, yn amlach na pheidio, eu bywydau’n mynd i nunlle. Ar y pryd, roedden nhw’n teimlo eu bod nhw’n taro ar y lle yn gwbl naturiol – yn camu’n rhy bell oddi ar y llwybr certiau i’r gogledd-ddwyrain, neu’n crwydro i lawr oddi ar y mynyddoedd i’r gorllewin. Ond wedyn – flynyddoedd wedyn, mewn rhai achosion – roedden nhw’n dod i ddeall mai ychydig iawn oedd yn dod o hyd i’r mynachdy yn ddamweiniol. Cael eu galw yr oedden nhw.
Saith mlynedd i’r diwrnod, bron, ers iddo gyrraedd y mynachdy, cyrcydodd Timofei Gurkovski yng nghanol y gwreiddiau duon oedd yn amgylchynu’r adeilad. Wrth bigo ffwng oddi arnyn nhw’n bwyllog, aeth ei feddwl yn ôl at y diwrnod hwnnw.
Roedd deuddydd wedi pasio ers iddo adael ei gartref yn nhref Norkov, lle bu’n gweithio fel garddwr ym mhalas y Barwn Deneyev. Am ychydig o flynyddoedd, roedd pethau wedi bod yn ddigon tawel yno – yn ôl safonau digon sigledig y Cneubarth, o leiaf – ond o’r diwedd, roedd hen ysbryd rhyfelgar y wlad wedi dod i’r amlwg unwaith eto. Y bygythiad mawr y tro hyn oedd Ivano Moskvin, uchelwr lleol oedd wedi ennill digon o fri yn ysbeilio tiroedd gwyllt y gogledd, a bellach â’i olwg ar ddisodli’r Barwn a’i holl ddilynwyr. Fe fyddai’r ymladd yn dechrau’n ddigon buan. Nid dyna’r math o le fyddai’n gwerthfawrogi garddwr.
Ac felly fe adawodd Timofei ei gartref a chychwyn tua’r de, yn bwriadu anelu tuag Undeb y Borthoriaid. Ond yn hytrach na chymryd y ffordd hir a diogel tua’r dwyrain, trwy deyrnas Nogent, penderfynodd groesi’r anialwch mewn ymgais ffôl i gyrraedd pen ei daith ynghynt.
Roedd o’n ifanc bryd hynny. Yn ei ugeiniau cynnar, yn dal i ddisgwyl i’r byd blygu i’w fympwyon. Daeth i ddeall ei gamgymeriad wedi iddi ddod yn rhy hwyr. Roedd y nos yn cau o’i amgylch, gwyntoedd yr anialwch yn oeri, ac yntau wedi diosg ei siaced tua dechrau’r prynhawn. Yn rhynnu ac yn diawlio ei hun, daeth i ben twyn anferth o dywod, a gweld y mynachdy yn cuddio oddi tano. Llithrodd i lawr y twyn gan weiddi’n orfoleddus, a chafodd ei gyfarch ar y gwaelod gan yr abades, powliaid o gawl a jwgiaid o win melys yn ei dwylo. Yn disgwyl amdano.
Esboniodd Timofei ei hanes yn y gegin tra’n gwagio’r jwg yn frawychus o gyflym. Wedi iddo fwyta ac yfed ei ddigon, rhoddodd yr abades fargen o’i flaen. Fe fyddai’n cael aros yn y mynachdy, am ddim, petai’n cytuno i blannu a thendio gardd o’i amgylch. Cytunodd Timofei’n feddw, heb sylweddoli pa mor anodd fyddai gwneud hynny yn yr anialwch. Cafodd ei arwain i ystafell wely fach y tu ôl i’r gegin, yn mwmian ei ddiolch. Doedd o erioed wedi bod yn rhy hoff o’r Borthoriaid beth bynnag. Fe fyddai fan hyn yn gwneud yn iawn.
Yn yr ystafell honno roedd o wedi llechu ers hynny, pan doedd o ddim yn gwneud ei orau i godi bywyd o’r diffeithwch y tu allan. Daeth i ddysgu’n weddol fuan mai’r gwreiddiau duon oedd yr unig blanhigyn a fyddai’n tyfu yma … ac yn wir, yn tyfu’n well ac yn gryfach yn nes at y mynachdy.
Tynnwyd ei sylw gan siâp coch ger seiliau’r adeilad, yng nghysgodion twyni’r dwyrain. Mentrodd tuag ato’n betrusgar, a sugnodd ei anadl trwy ei ddannedd wrth weld gwiber y dŵr yn gorwedd yno’n farw, ei chroen yn sych. Roedd o wedi hen arfer eu gweld nhw yn nhir corsiog Norkov, ond yma, yng nghanol yr anialwch … rhaid bod y creadur druan wedi treulio dyddiau yn cyrraedd yma. Doedd y peth ddim yn teimlo’n bosib.
Ac eto, roedd pethau fel hyn yn digwydd yn weddol aml. Nid bechgyn a merched yn unig oedd yn cael eu denu gan y mynachdy. Roedd anifeiliaid yn teimlo’r alwad hefyd. Hoff stori’r abades oedd y tro y gwnaeth hi, ddim llawer yn hŷn na Timofei, ddod o hyd i yayar yn gorwedd yn erbyn mur y mynachdy, yntau bron â marw. Doedd y bwystfilod yma – yn bymtheg troedfedd o uchder a dwywaith hynny o hyd, eu hasennau miniog yn gwthio’n abswrd trwy eu boliau cennog – ddim i’w gweld yn aml y tu allan i syrcasau gwyllt y deheudir pell, heibio i Ymerodraeth yr Enfer. Ac eto, dyna lle’r oedd o, wedi gwneud y siwrne hir, hir, oherwydd …
Doedd Timofei ddim yn gwybod yr ateb i hynny. Roedd rhai o gyfrinachau’r mynachdy wedi ei guddio oddi wrtho hyd heddiw. Ond gwyddai bod tynfa’r lle yn gryf, yn denu’r ddynol ryw, yn denu anifeiliaid… ac yn denu duwiau.
Roedd o’n gwybod pam eu bod nhw’n dod. Ers y cread, roedd y ddynol ryw wedi dyfeisio duwiau di-ri, a nwythau’n dod yn fyw, yn tyfu ac yn bwydo ar weddi ac addoli, ac yn rhoi hud a lledrith yn ôl yn ddiolch. Ond roedd rhai hefyd yn cael eu hanghofio, yn crebachu’n ddim wrth i dduwiau newydd ddod i’r fei. Yma doi’r duwiau hynny – rhai’n ddim llawer mwy na phwcaod neu ysbrydion gwerin – a glynu wrth un mynach penodol, yn bodloni eu hunain ar ychydig flynyddoedd o foliant tawel cyn suddo, o’r diwedd, i ebargofiant.
Hyd yn hyn, doedd yr un duw wedi cynnig ei hun i Timofei. Saith mlynedd ers cyrraedd, ac roedd o’n dal i deimlo fel gwas bach. Y garddwr pitw oedd yn treulio ei ddyddiau yn pigo ffwng oddi ar wreiddiau tra bod pawb arall yn cymuno â’u duwiau, yn taflu swyn o gwmpas ac yn rhannu cyfrinachau â’i gilydd fin nos.
Yn araf, bron yn addfwyn, tynnodd lynghyryn du oddi ar un o’r gwreiddiau. Roedden nhw’n bla yn ei ardd fach, gwaetha’r modd, ond yn ddigon ffodus yn rhoi blas digon melys i’r cawl trwchus roedd yr abades yn mynnu ei weini ddydd ar ôl dydd.
Roedd yn rhoi’r llynghyryn, yn dal i wingo, ym mhoced ei drowsus cotwm pan welodd o’r hen ddynes yn brysio ar draws yr anialwch tuag ato. Yn gwisgo het wirion o fawr, a haen ar ben haen o ddillad gwlân, ddyliai hi ddim medru symud o gwbwl ar ddiwrnod mor chwilboeth. Ond symud yr oedd hi, yn gwibio ar draws yr anialwch fel neidr gantroed, y tywod yn tasgu mewn cymylau o amgylch ei thraed. Cyn i Timofei allu gwneud synnwyr o hyn i gyd, roedd hi’n sefyll o’i blaen, yn syllu i fyny tuag ato.
Roedd hi’n hen. Roedd hynny’n amlwg, y crychau wedi torri’n ddwfn i mewn i’w chroen tywyll, wedi ei staenio gan flynyddoedd maith o belydrau’r haul. Ond rhywle yng nghanol yr henaint, roedd prydferthwch aruthrol yn dal i lechu. Disgleiriodd ei llygaid â chryfder crisialaidd.
Blinciodd Timofei yn yr haul yn ansicr.
“Rydych chi’n … bell o’ch cartre,” meddai o’r diwedd.
“Mae hyn yn wybyddus i’r Chwaer Sonda,” atebodd y ddynes fach. “Hyn a mwy. Llawer mwy.”
“Dyna’ch enw chi? Sonda?”
“Y Chwaer Sonda. Ia wir! A dewch ‘mlaen, Timofei Gurkovski. Fe wnes i ddysgu fy enw cyn unrhyw beth arall, bron. Does bosib bod gennych chi ddim cwestiwn gwell na hynny?”
Cymerodd Timofei gam sigledig yn ôl, gan sathru ar un o’i wreiddiau mwyaf. Teimlodd yn benysgafn, fel petai newydd yfed llond casgen o gwrw du. Roedd rhywbeth o’i le yma. Rhywbeth doedd ddim yn iawn…
Ac yna edrychodd i lawr. Roedd y tywod yn dal i chwyrlïo o amgylch traed Sonda, er nad oedd hi’n symud bellach. Cymerodd Timofei gam arall yn ôl wrth weld, drwy’r cwmwl parhaol o dywod oedd yn amgylchynu’r hen ddynes, nad oedd hi’n cerdded o gwbl. Hedfan yr oedd hi, bodiau ei thraed wedi eu pwyntio tua’r llawr chwe modfedd oddi tani.
“Rydych chi’n dduwies.”
“Ha! Cwestiwn hawdd arall, Timofei Gurkovski! Duwies ydi’r Chwaer Sonda. Ia, dyna’r gwir i chi! Ond mae cwestiynau gwell yn dod. Mae hi’n medru synhwyro’r peth. Ydi wir!”
“Y … wel … hoffech chi … ddod i mewn?”
Gwenodd Sonda o glust i glust, y crychau ar ei hwyneb yn dyfnhau ymhellach fyth.
“Dyna un da i gychwyn. Mae’r Chwaer Sonda yn derbyn eich cynnig. Fe ddaw hi efo chi’n fodlon.”
Heb air arall, brysiodd Timofei tua’r mynachdy, a gwneud ei orau i agor y drysau mawr pren heb ormod o sŵn. Roedd o am wneud ei ffordd i’w ystafell mor dawel â phosib. Wedi disgwyl gymaint i dduwies ymddangos, doedd o ddim am adael i neb ei chipio oddi wrtho.
Brasgamodd drwy’r prif goridor, Sonda wrth ei ymyl yr holl ffordd, ei chwmwl o dywod wedi ei adael ar ôl a’i wasgaru ar y llawr ger y drysau. Sleifiodd i mewn i’r neuadd fwyta, a diolch nad oedd neb o’r mynaich wedi penderfynu bwyta cinio yn gynnar y diwrnod hwnnw.
Yn union cyn cyrraedd y gegin, aeth ias gyfarwydd i fyny ei gefn. Doedd o byth yn hoff o basio’r drws bach caeedig yng nghornel y neuadd. Dyna’r fynedfa ddi-nod i’r clochdy – yr unig ran o’r mynachdy doedd Timofei erioed wedi bod ynddi. Roedd rhywbeth anghynnes am y llecyn yna, ac yntau wedi bod yn ymwybodol o’r peth o’r diwrnod cynta, bron. A heddiw, teimlodd hynny’n gryfach nag erioed o’r blaen.
Trodd at Sonda. Gwenodd hithau’n ddiniwed tra’n arnofio drwy’r gegin ac i mewn i’w ystafell, heb iddi orfod gofyn ble i fynd. Wrth iddi hi wneud ei hun yn gyfforddus ar y fatres dywodlyd, gwnaeth Timofei ei orau i ysgwyd y teimlad anghynnes oddi ar ei ysgwyddau. Symudodd bentwr o hen lyfrau oddi ar yr un stôl yng nghornel yr ystafell, ac eisteddodd arni.
“Dydw i … ddim yn gwybod be i’w wneud,” meddai. “Oes ‘na seremoni, neu …?”
“Gofynnwch, Timofei Gurkovski. Gofynnwch, ac fe wneith y Chwaer Sonda ateb. Mae hi’n gwybod digon o atebion. Ydi! Digon i bara drwy’r diwrnod, trwy’r nos, a thu hwnt!”
Oedodd Timofei. Beth oedd rhywun i fod i’w ddweud wrth dduwies? Sut oedd rhywun i fod i gychwyn?
Craffodd ar Sonda, oedd yn ymestyn ar y fatres fel cath ar sil ffenestr. Na … nid ar y fatres. Uwch ei phen. Roedd hi’n arnofio eto, ambell ddilledyn gwlanog yn hongian i lawr oddi tani.
“I wneud hynny …” cychwynnodd Timofei, yn pwyntio tuag ati, ac yn gwneud ei orau i osgoi dweud y peth anghywir, “mae’n rhaid bod gennych chi … y … bwerau. Dros y … dros y gwynt?”
Eisteddodd Sonda i fyny, ei llygaid yn wenfflam.
“Y gwynt,” meddai’n ddirmygus. “Gair bach. Gair pitw! Ond yn disgrifio syniad mor fawr, Timofei Gurkovski. Fe allai’r gwynt chwythu’r mynachdy yma i lawr. Ei gladdu yn y tywod. Fe allai hefyd sisial yn dawel trwy betalau blodyn, heb ei boeni mewn unrhyw ffordd. Ai dyna’r un gwynt, Timofei Gurkovski? Dyna gwestiwn i chi.”
Agorodd Timofei ei geg. Chafodd o ddim cyfle i ateb.
“Roedd Cnic yn ffrind i’r Chwaer Sonda. Oedd! Yn nhwndra Nogent roedd ei gartre o, yn chwythu dros yr eira yng nghanol y gaeaf. Ychydig iawn sy’n cofio’i enw. Gwynt, meddai pobol y deyrnas honno erbyn hyn, yn union fel chithau.”
“Doedd dim teimlad, medden nhw, fel sefyll ar gyrion y Ceunant Arian wrth i’r haul fynd i lawr, a chael awelon Ana yn chwarae’n erbyn eich croen. Mewn oes a fu, roedd hi’n cael ei haddoli mewn cwt mwd ac mewn teml ill dau. Ond nid heddiw. Mae ei henw hithau bellach wedi chwythu i ffwrdd.”
“A dyna Cona wedyn. Ers talwm, roedd gwyntoedd y Chwaer Sonda yn dod i lawr oddi ar Fynyddoedd y Behemoth tua’r Ynysoedd Prudd, ymhell i’r gogledd. Roedd Sonda’n dod i lawr a gwyntoedd Cona yn ei chodi, y ddau’n dawnsio, yn troelli, yn caru, ymhell uwch yr ynysoedd, y bobol oddi tanyn nhw’n eu clodfori a’u cymeradwyo. Eu haddoli. Ond mae Cona yntau wedi mynd erbyn hyn. Wedi marw. Dim ond y Chwaer Sonda sydd ar ôl. Dim ond hi.”
Suddodd Sonda i lawr yn erbyn y fatres, yr egni wedi ei gadael.
“Hyn oll mae’r Chwaer Sonda yn ei wybod,” meddai’n bruddglwyfus, “a mwy…”
I’w barhau yr wythnos nesaf…