Stori Fer: Y Gwydr - D. D. Owen

Everything in this city has a copy, and everything has someone who leads the way.

- Wang Anyi, 'The Song of Everlasting Sorrow'

(cyf. Michael Berry a Susan Chen Egan) -

Odw, rwy'n falch ohonyn nhw. Tair seren! S'dim llawer â chymaint – maen nhw'n arwydd fy mod i'n un o’r goreuon, neu ar y ffordd yno, er taw dim ond dwy sy'n aur. Mae un yn orfodol: os oes llif 'da chi, rhaid i chi ennill hon i dystio nad oes unrhyw beth ar eich llif sy'n groes i foesoldeb, teyrngarwch na wleidyddiaeth gywir ein Gweriniaeth. Eich bod chi'n gyfreithiol.

Yr ail – rwy'n fwyaf balch o hon, achos mae'n tystio fy mod i'n hollol naturiol, yn esiampl o wreictod ifanc y wlad ar ei orau. Hynny yw, sai’n defnyddio hidlenni i wella fel rwy’n edrych wrth ddarlledu ar-lein, a sai’ 'di cael triniaeth gosmetig chwaith. Sai'n twyllo neb: os ych chi'n gweld fi ar sgrin neu fel rhithffurf, chi'n gweld y fi go iawn neu rywbeth agos iawn iddi. Wnes i newid fy acen tho, sy ddim yn cyfri yng ngolwg y gyfraith. So'r rhan fwyaf o'r ffans yn licio acennau nac iaith wledig, ond dyna fywyd: symudwch i'r ddinas, gollyngwch eich gorffennol. Heblaw am Nos Galan a gwyliau tebyg. Achos rwy'n ferch dylwythgar.

- O odi, mae'r daith nôl i'r hen filltir sgwâr yn arteithiol. Oriau yn eistedd ar seddi caled y trên, sy'n reit poen yn y – cefn wedi llai na phum muned. Ac adeg y gaeaf, pan ych chi'n cyrraedd y hen bentref mae'n debygol o fod yn oerach na thethen gwrach – ŵps, rwy'n hambon llwyr yn eich llygaid, yn reit siŵr! – so mae rhaid i fi newid mor gynted â phosib o'r sgert soffistigedig neu beth bynnag i mewn i ddau bâr o drowsus hydref a siaced cwiltiog cyn i bethau ddechrau rhewi off, os ych chi'n gweld beth sy gen i. Dim cweit cystal, yn anffodus. Ac ar y noson aeafol yna pan mae car eich wncwl yn cludo chi o'r orsaf trên tuag at dŷ eich rhieni, chi'n edrych trwy’r ffenest a gweld y nen yn hollol eglur am y tro cyntaf mewn misoedd, oherwydd bod chi nawr yng nghefn gwlad, tu allan i’r flanced o olau sy’n eu cuddio fan hyn. Mae rhai yn dweud bod y sêr ar noson oer yn greulon, ond dim ond yn ymateb i'r oerni mae nhw. Rwy’n credu mewn gwirionedd bo’ nhw'n brydferth, yn arwydd o ryw drefn gymhleth, anodd ei ddadansoddi, fel mae'r patrwm o smotiau mewn arbrawf diffreithio yn arwydd o drefn grisial. Ar nos felly mae gwastad ‘da fi hiraeth rhyfedd am yr ofodau distaw uwchben, ymhell tu hwnt o'n hafal, yn wahanol iawn i'r bydoedd amgen swnllyd sydd tu fewn cwmpas Llwybr y Crëyr.

- Trwy’r amser. Dyna fel mae rhieni. Diolch byth bod sboner 'da fi – mae sboner 'da fi ers pum mlynedd nawr, ond ni'n aros i gael fflat neu dŷ ein hunain cyn priodi. Ni'n rhenti reit nawr. Ond ni'n dal i gael ffwdan off nhw, ein mamau yn enwedig – maen nhw'n wastad yn moyn chi’n briod ac yn disgwyl mor gynted â phosib, yndyn nhw? – ond ni'n agos i fod mewn sefyllfa lle mae digon 'da ni – gyda help nhw – i ni allu benthyg y gweddill bach sy'n angenrheidiol. Diolch byth. Mae'r holl beth yn mynd ar fy nerfau.

- Mae arian yn broblem weithiau ond fel dwedes i, ni ar y ffordd. Gobeithio. O' ni 'di cael andros o feit y diwrnod o'r blaen, cyn y ddamwain, ond mae pob cwpl yn feito o bryd i'w gilydd, yndyn nhw. Rwy’n hyderus y bydd popeth yn sortio ei hun allan yn y pendraw. Ŷn ni eisiau ein gilydd.

- Y seren efydd? Arwydd fy mod i'n berson real. Ond mae'n efydd achos rwy'n defnyddio asiant meddwlwedd i ddelio a llawer o stwff sy'n ddiflas neu'n llyncu amser, fel siarad â ffans rhwng darllediadau ac ati. Dim oherwydd fy mod i'n casáu fy nghynulleidfa, jyst achos diffyg amser – mae paratoi sgriptiau a chynllunio ar gyfer y sioe yn cymryd siwd gymaint o amser. Sai’n gallu gwneud y ddau beth ar yr un pryd – byddai’n amhosib. Ond rwy'n ymdrechu i hala rhywfaint o amser ar-lein tu fas i’r sioe pob wythnos er mwyn sgwrsio ac ateb cwestiynau, so mae rhai pobl yn siarad â'r fi go iawn! Yn enwedig os y’n nhw’n talu am y cyfle.

- Ges i'r meddwlwedd o'r Ynys. Mae'n tsiepach yno, mae'r trethu'n llai yn y Parth Arbennig... - gobeithio nad ydw i mewn trwbl. S'dim ots 'da chi? Sai'n cwyno... O'n i'n bendant gyda fy nghefnder: dim byd od, dim byd Haebrychyneg s'neb yn deall, dim byd estron o ben draw’r Llwybr. Yn bendant roedd rhaid iddo fe fod yn gyfreithlon. Mae pethau fel na'n gallu bod yn beryglus – mae’r Digwyddiad yn dyst i hyn. Ges i'r meddwlwedd rhyw chwe mis cyn i bopeth mynd yn rhacs yno, yn ffodus iawn achos does dim neb yn cael dod ag unrhyw beth o'r fath i’r Tir Mawr reit nawr.

- Mae'n byw ar y Rhwyd wrth gwrs! Ond mae rhaid i’r efelychiad meddwlwedd bod mor gywir â phosib, felly mae’n dysgu fel rwy'n bihafio trwy gadw llygaid arna i drwy'r amser. Felly – aros eiliad – ie, fanna, ar waelod fy nghefn, uwchben top fy nhrowsus, fel chi’n gweld mae fe’n weledig hyd yn oed ar fy rhithfyrf. Ges i nhw i blannu'r had nanotechnolegol fan’na achos dyw'r marciau ddim mor amlwg – jyst rhag ofn i fy rhieni weld nhw a chael harten! So, mae 'na gyfrifiadur bach wedi plethu gyda fy nerfau ac mae rhyw elfen fach o'r efelychiad yn byw yno. Mae'n gwylio fi ac yn dysgu fel rwy'n siarad, fel rwy'n ymateb i bethau, nes bod o’n gallu darogan beth rwy’n mynd i wneud neu ddweud mewn bob math o sefyllfaoedd. Ac rwy'n gallu rheoli fo o'r cyfrifiadur, a mynd ar-lein yn rhithwir heb Sbectol. Cŵl, yndyfe?

- Ambell waith ni'n cwrdd â'r ffans mewn gofod rhithwir fel hwn. Un ni’n defnyddio yn aml yw fersiwn o’n fflat ni – ond lot mwy ffein – achos mae’n hawdd setio lan rhywbeth felly os oes 'da chi’r camera a’r meddalwedd iawn, ac mae eisiau rheiny i greu rhithffyrf safonol ta beth. Neu ni’n defnyddio un o lefydd stoc y cwmni llifo jyst i gael amrywiaeth, ond mae gwell gen i’r fflat. Mwy personol, rywsut. Wrth gwrs, does gan y meddwlwedd ddim barn am y peth... Dyw’r adborth synhwyrol ddim cweit cystal ag rwy’n moyn, ond dyna fe, fydde rhenti mwy o brosesyddion er mwyn gwella fe yn lot rhy ddrud.

Hoffwn i gael fflat fwy. Ond gan bo’ ni’n cadw’r rhan fwyaf o’n harian sbâr ar gyfer y dyfodol, so ni’n gallu fforddio rhenti rhywle mwy crand. A ni’n ffodus, i ddweud y gwir. Chi’n clywed straeon: pobl ein hoedran ni’n byw mewn seleri ar gyrion y ddinas, neu mewn ystafelloedd bach bach, maint gwely sengl, wedi ei rhannu o’r drws nesa’ gan wal o wifr cyw ieir. O beth odd fy nghefnder yn dweud, mae’n llawer gwaeth ar yr Ynys. S’dim rhyfedd bod nhw’n grac dros y dŵr.

- Na! Dim o gwbl! Sai’n cefnogi annibyniaeth i’r Ynys neu unrhyw beth tebyg. Syniad hollol dwp, anwladgarol. Rwy’n deall manteision ein system, sai’ moyn rhannu’r wlad fel mae’r Haebrych ac ati yn bwriadu gwneud.

- Wrth gwrs rwy o ddifri. Sai’n wleidyddol o gwbl. Mae rhywbeth fel na’n mater i’r llywodraeth, sy’n gwybod llawer mwy na fi am y sefyllfa, ac rwy’n cefnogi nhw i’r carn.

- Na, rwy’n iawn nawr. Jyst – wel, sai’ moyn creu’r argraff anghywir, dyna gyd. Cariwch ‘mlaen.

- Rwy’n mynd i stopio llifo pan mae’r arian yn stopio. Pan rwy’n hen fenyw, gobeithio! Ond beth am blant, gofynnodd y sboner y diwrnod o’r blaen. Wel, beth am blant? O’n i jyst yn chwerthin. Achos, chi ddim yn gallu dweud: sai’ moyn plant. Os nad y’ch chi am greu sgandal.

Wel, na’r peth, tho. Wnes i ddweud. Ynghanol cwarel. Ac rwy’n poeni... Fydd e yma yn hwyrach, chi’n gwybod? Jyst moyn weld e ydw i.

- Mae’n dod o’r Gogledd Orllewin. Rhaglawiaeth Senrin. Sy’n meddwl bod acen ryfedd 'da fo, ond serch beth maen nhw’n ddweud am bobl o lan fynna, mae’n addfwyn a chwrtais y rhan fwyaf o’r amser, ac mae’n casáu ceffylau. Cwrddon ni yn y coleg: fi’n gwneud ffiseg, fo’n gwneud cyfrifiadureg. Wedi i ni fennu prifysgol symudon ni mewn da’n gilydd. Odd pethau’n anodd am gyfnod; y ddau ohonom yn chwilio am jobiau, ceisio cadw’r jobiau crap (un, esgusodwch fi) o’dd ar gael a ffaelu cadw’r jobiau crap o’dd 'da ni. O’dd dechrau’r gwaith yma yn ddihangfa i fi o’r cylchdro yna, wir i chi.

Syniad fo odd e yn wreiddiol. O’n i’n... amheus i ddechrau. Chi’n gallu gwneud arian da iawn allan o lifo os oes talent ‘da chi, ond so chi’n gwybod os oes dalent ‘da chi ar y dechrau. Ac mae pawb yn gwybod fod y Rhwyd a’r Rhith yn llawn perfyrts. Ond wedi mis neu ddau, a wel – roedd yna ambell i goc oen o gwmpas, ond roedd e’n weddol hawdd blocio nhw – dyma bethau’n dechrau mynd o nerth i nerth, y sylwadau ffafriol a’r anrhegion arian yn pentyrru. Sŵn ding ding ding wrth i’r cownt yng nghornel fy llygaid dringo a dringo. Od iawn jyst gymaint o bobl sy moyn gweld merch bert yn adolygu ffilmiau neu’n gwneud sbort ar ben ein twpdra beunyddiol, yn enwedig os oes ‘na siawns o sgwrs... Wel. Rwy’n amau’n fawr taw’r cynnwys sy’n tynnu’r gynulleidfa i fod yn onest, ond wir i chi sai’ byth wedi gwneud unrhyw beth yn groes i fy nhrwydded. Fyddai i byth mor dwp: hon yw’r unig swydd sy’n dod ag arian cyson i ni.

- O, s’dim ots ‘da chi am hon, chwaeth? Digon teg. Mae’n flin gen i, mae ‘di bod yn gyfnod anodd.

Mae o’n teimlo’n rhwystredig, chi’n gweld. Collodd ei swydd ddiweddaraf y diwrnod o’r blaen. O’n i newydd wedi gorffen fy sifft: codais o’r Rhith a datgysylltu fy hun a dyna fi’n sylwi arno fe’n eistedd tu cefn i fi, ar y gwely fel rwy’n eistedd nawr, yn syllu arna i.

Ofynnais i iddo,

“Beth sy ‘di digwydd?” Yn amlwg dim byd da o’r golwg du ar ei wyneb. “Ges i gic owt.” O’dd o’n bron a phoeri’r geiriau. “Y conts ‘di dewis cal gwarad o bron pawb, cyn bod rhaid iddyn nhw drin ni fel gweithwyr go iawn.” Eisteddais wrth ei ochr.

“Conts, yn wir.” Wnes i geisio rhoi fy mraich rownd ei ysgwyddau i’w gysuro; gwrthododd, gwthiodd hi i ffwrdd. “Os modd i ti trio rownd arall ‘da nhw?” “Na, nid ‘da nhw. Dwi ddim am ddechra o’r dechra. Nid eto.” Pwniodd y matres. Rhegodd. “Ond, be wnawn ni? Mae’r rhent ar fin codi...” “Wel, bydd rhaid i chdi wneud digon o bres i gynnal ni’n dau am unwaith, ia? Nes bod pethau’n newid.” Fel petai fy ngwaith caled yn ddim byd iddo, fel nad oedd o’n gallu bod yn faich i fi hefyd. Fel nad y fi oedd yn ein cynnal yn ystod amseroedd llym. Felly, co’ ni of.

- Na, mae’r manylion i gyd yn ddiflas. Chi’n gwybod yn iawn fel mae rhywbeth fel ‘ma yn mynd. Pawb yn cyhuddo pob un arall o bopeth o dan haul: hen chwerwder yn cael ei atgyfodi, geiriau’n troi’n gyllyll. Aeth yn ormod i fi. Caeais ddrws y fflat yn galed tu cefn i fi a cherdded mor gyflym a oedd posib i fi yn fy nagrau tua’r lifft, heb edrych yn ôl. Wnaeth o ddim dilyn. Wrth i’r cerbyd disgyn i’r llawr gwaelod dechreuais feddwl am fywyd hebddo am y tro cyntaf ers misoedd, heb orfod goddef ei falchder clwyfedig na’i genfigen ataf i byth rhagor. Tu allan i’r adeilad, dechreuais alw un o’m ffrindiau ar fy mewnblaniad, clywais dôn ei ffôn yn canu, mentrais i’r groesfan heb edrych i weld ag oedd y golau’n las neu beidio –

Ddes i’n ymwybodol o orwedd ar fy nghefn ac o lacter ofnadwy islaw fy mron. Ond heb unrhyw boen, heb boen eto, a heb boen byth eto. Roedd oerni yn meddiannu aelodau fy nghorff yn araf tra fy mod i’n syllu ar y cwmwl melyn o olau sy’n gorchuddio wybren uwchben y ddinas. O’dd hi’n teimlo fel gaeaf ynghanol haf – ac fel petai ynni’n wir, teneuodd y gorchudd, diflannodd, a gwelais y sêr noeth, oer a’r tywyllwch rhyngddynt. Codais tuag atynt, trwy’r gofod diddiwedd uwchben ein smotyn bach o bridd, ond wrth i fi godi boddwyd eu goleuni anghynnes gan olau hollgwmpasog arall wrth i waedu’r lleisiau brysiog o’m gwmpas ymdoddi’n llawn i ddistawrwydd terfynol.

Ac yna oes o dawelwch llwyr a thywyllwch. Heb lygaid na chorff na chlustiau. Dim ond fy meddyliadau ofnus ac anhrefnus am gwmni. Wedi llawer rhy hir daeth rhyw fath o anymwybodoliaeth. Ac wedyn, yn sydyn, o’n i’n eistedd fan hyn rhyw hanner dydd yn ôl, gyda doctor rhithwir yn esbonio bod damwain ddifrifol wedi digwydd, ac os o’n i’n barod roedd yna blismyn oedd am siarad â fi. Ond pam na allen ni gwrdd yn y byd go iawn? Damwain difrifol dros ben, meddai hi.

Damwain difrifol iawn. ...Jyst, gwedwch wrtha’ i. Allech chi ôl doctor neu rywbeth? Na, dim byd difrifol, jyst moyn gweld o’n i, gweld fy hun yn yr ysbyty? Mewn rhithffenest neu rywbeth, rwy’n siŵr bod 'na camera na rhywbeth yn fy ystafell?

- Pam lai? Pam nad yw’n bosib? Ydy fy nghlwyfau mor wael â hynny, neu – pwy ydych chi? Nid plismyn! Pwy ydych chi? Pam ydw i yma? Ble ydw i? Pwy ydych chi? Pwy ydw i? Ydw i?

Previous
Previous

Adolygiad: Forbidden Lives - Norena Shopland

Next
Next

Celf: Du a Gwyn - Aur Bleddyn