Adolygiad: Rhywbeth i’w Ddweud

Rhywbeth i’w Ddweud: 10 o Ganeuon Gwleidyddol (Cyhoeddiadau Barddas)

Er i leisiau Plethyn fy swyno ar siwrneai car hir yn blentyn, ac er bod y Super Furries ar y compilation CD cyntaf wnaeth fy nhad i mi’n saith oed, yr unig ddwy gân yn y llyfr hwn a oedd yn gyfarwydd i mi yn ystod fy mhlentyndod oedd ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan ac Ar Log a ‘Gwesty Cymru’ gan Geraint Jarman. Wrth i mi dyfu’n hŷn mi ddes i ar draws rhai o’r caneuon eraill. Dwi’n meddwl mai ar siwrne Uber yn ystod noson allan hefo ffrindiau yn Llundain y clywais i ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ gan Y Cyrff am y tro cyntaf. Darganfyddais ‘Talu Bils’ gan Rodney Evans ar y wê fel pawb arall, a phwy sydd heb glywed caneuon bachog Y Bandana? Fedra i gadarnhau felly ro’n i’n adnabod hanner y caneuon cyn darllen y gyfrol.

Pam dechrau adolygiad yn crynhoi pa mor gyfarwydd ydw i hefo testun y llyfr, gofynnwch chi? Wel, am y rheswm syml ‘mod i’n credu bod angen mwy o lyfrau fel ‘Rhywbeth I’w Ddweud’ – rhai sy’n addysgu yn ogystal â’n diddanu. Dyma gasgliad o erthyglau am ganeuon gwleidyddol â gyffyrddodd â nerf y cyfranwyr, o Casi Wyn i Dylan Meirion Roberts. Mae’n sicr â rhywbeth i blesio pawb, o’r hyddysg i’r amhrofiadol. Tra y bydd nifer ohonnoch chi siwr o fod yn gyfarwydd â phob cân o fewn y llyfr hwn ac yn ysu darllen am eu cefndir, cyn dadlau yn frwd am absonoldeb eich ffefrynnau, mi fydd unigolion llai gwybodus y sîn Gymraeg fel fi’n pori’n awchus trwy’r llyfr i ddarganfod mwy am y caneuon, y bandiau a’r hanes.

Dysgwn am y caneuon gwleidyddol a ddewiswyd trwy gyfoeth o groesgyfeiriadau a chymhariaethau, ac mae lluniau wedi eu dotio yma ag acw’n cyfoethogi’r dweud. Mae’r erthygl gyntaf, dadansoddiad Marged Tudur o ‘Gwesty Cymry’, yn ystyried sut mae geiriau Geraint Jarman yn ceisio ein sobri a’n hannog i edrych o ddifrif ar ein gwlad a’n hunain – neu yn lingo ni’r milflynyddion – yn ddi-ffiltyr. Cawn flas ar hanes gwleidyddol diweddar Cymru, a chaiff hyn ei ddatblygu trwy’r gyfrol gan yr holl gyfranwyr a’r caneuon a ddewiswyd i’n harwain o 1979 i 2016.

Cyfoeth y trafod sy’n gwneud y llyfr hwn yn un arbennig. Cawn ddadansoddiad nid yn unig o eiriau’r caneuon, nac ychwaith eu hanes, ond cawn hefyd flas ar eu rhinweddau cerddorol. Erbyn cyrraedd yr erthygl glo mi rydan ni wedi trafod canu gwerin, rap a punk; wedi teithio trwy amser, dros Gymru a thu hwnt; wedi trafod effaith y ddau refferendwm, wedi ail-brofi tân yr wythdegau yn ogystal â chyffwrdd ar hawliau merched â’r gymuned LGBT. Mae’n gorwynt o ffeithiau a dadansoddiadau sy’n gofyn o wir am gael ei dreulio bob yn erthygl yn hytrach nag mewn un darlleniad.

Cyfle i adlewyrchu oedd yr erthygl olaf i mi. Nid ffeithiau y cawn yma, ond dehongliad Nici Beech o ‘Cyn i’r Lle Ma’ Gau’ gan Y Bandana. Cân am Dafarn y Glôb ym Mangor uchaf yw hon, ond o ddehongli’r gân darganfyddodd Nici ystyron gwleidyddol a gydiodd. Dyma ddehongliad sy’n annog yr unigolyn i wrando o ddifrif dros ei hun ac sy’n atgoffa bod y gwleidyddol hefyd yn bersonol. Mae hanes, traddodiad ac ymdeimlad o berthyn yn gweu trwy’r gân yn ein hatgoffa bod mwynhad wrth hanfod bob dim. Mae tafarndai hefyd â thraddodiad cryf o gydganu, phenomenon a bywiogodd caneuon gwleidyddol cyn bodolaeth y cyfryngau cymdeithasol fel mae Ifor ap Glyn yn datgelu i ni’n gynharach yn y llyfr yn ei erthygl am Tân yn Llŷn.

Er i strwythur y gyfrol arwain yn effeithiol tuag at erthygl glo mwy meddwl agored, teimlais fod cyfle wedi cael ei golli i greu casgliad yn niwedd y llyfr yn crybwyll darganfyddiadau’r erthyglau. Fasa hyn wedi ymestyn ymhellach ar y sgwrs o beth yw canu gwleidyddol, cwestiwn sydd yn cael ei godi trwy’r llyfr. Yn ogystal teimlais fod bwlch benywaidd mawr. Pam nad ydi lleisiau merched mor bresennol o fewn y traddodiad hwn? Ond ar y cyfan dyma gyfrol ysbrydoledig, a dwi’n mawr obeithio y bydd ‘Rhywbeth I’w Ddweud’ yn ein hannog ni i gyd i godi o’n soffas, i ddiffodd ein sgrîns ac i gyd-drafod a chreu.

Previous
Previous

Stori Fer: Torri Gwallt ar Fore Mawr – Dewi Alter

Next
Next

Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 3]